Prifysgolion a diwydiant yn croesawu lansio rhaglenni o hyd at bedair blynedd a ariennir yn llawn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â thair prifysgol i lansio gradd-brentisiaethau newydd mewn Rheoli Adeiladu, Peirianneg Sifil, Mesur Meintiau, Arolygu Adeiladau, ac Eiddo Tiriog.
Gyda'r sector adeiladu ei hun angen 11,000 o weithwyr ychwanegol erbyn 2028, mae'r gradd-brentisiaethau newydd yn cael eu cyflwyno ar adeg dyngedfennol.
Gan ddechrau ym mis Medi 2024, bydd y rhaglenni pedair blynedd hyn, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill gradd wrth gael profiad ymarferol mewn cyflogaeth. Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnig ym Mhrifysgol Wrecsam, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg:
Bydd y rhaglenni hyn nid yn unig yn paratoi unigolion ar gyfer swyddi y mae galw uchel amdanynt a galwedigaethau cyflog uwch, ond hefyd yn sicrhau gweithlu medrus, gwydn a blaengar i ysgogi twf economaidd a darparu atebion arloesol i heriau cymdeithasol a hinsawdd.
Jac Beynon, Syrfëwr Meintiau cynorthwyol yn Jones Brothers (Henllan) Ltd yn Cross Hands, fydd un o'r cyntaf i elwa ar y prentisiaethau newydd yng Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Medi. Dywedodd:
Wrth i mi orffen fy arholiadau Safon Uwch yn yr ysgol, roeddwn yn ystyried fy opsiynau o ran beth i'w wneud nesaf. Meddyliais am fynd i'r brifysgol yn llawnamser, ond nid oeddwn yn hoffi'r syniad o aros tair neu bedair blynedd cyn dechrau gweithio. Felly, pan soniodd rhywun am gynllun prentisiaeth a fyddai'n caniatáu i mi weithio a dysgu ar yr un pryd - cefais fy argyhoeddi.
"Fy mhrif nod yw ennill profiad ymarferol. Rwyf am ddatblygu sgiliau sy'n benodol i'r diwydiant ac y gellir eu cymhwyso’n uniongyrchol i sefyllfaoedd go iawn. Mae ymgymryd â phrentisiaeth hefyd yn gyfle i fagu hyder yn fy ngallu i ymdrin â chyfrifoldebau proffesiynol a gwneud penderfyniadau gwybodus yn annibynnol.
Mae'r diwydiant adeiladu a phrifysgolion hefyd wedi croesawu'r prentisiaethau newydd. Canmolodd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu y sector am dynnu at ei gilydd a symud i gyfeiriad cyffredin i oresgyn heriau yn y diwydiant a heriau ehangach, a siaradodd cynrychiolwyr o Brifysgol Wrecsam, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gadarnhaol am ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr, creu cyfleoedd newydd ac uniongyrchol a chyflwyno setiau sgiliau lefel uchel.
Dywedodd Gareth Williams, Rheolwr Safonau a Chymwysterau (Cymru) ar gyfer Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu:
Mae pobl sydd eisiau gweithio ym maes adeiladu angen llwybrau gyrfa clir i'r diwydiant ac mae'r gradd-brentisiaethau adeiladu newydd yn garreg filltir bwysig tuag at gyflawni hyn. Mae lansio'r prentisiaethau hyn hefyd yn dangos sector sy'n dod at ei gilydd ac yn symud i gyfeiriad cyffredin i oresgyn heriau yn y diwydiant a heriau ehangach.
Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam:
Rydym yn adolygu ein portffolio a'n llwybrau dysgu yn barhaus ar draws pob lefel i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr - ac mae'r Gradd-brentisiaethau Adeiladu yn enghraifft wych o ddiwallu'r anghenion hynny. Yn dilyn ymgysylltu â chyflogwyr yn y rhanbarth, rydym yn gwybod eu bod yn gyffrous bod y rhain yn cael eu lansio yma yn Wrecsam.
Dywedodd Louise Pennell, Deon Cysylltiol Partneriaethau a Datblygu yng Nghyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth Prifysgol De Cymru:
Ym Mhrifysgol De Cymru mae gennym arbenigedd helaeth ar gyfer rhedeg y llwybrau astudio hyn. Y llynedd roeddem yn bartner allweddol yn y gwaith o lansio’r gradd-brentisiaethau peirianneg rheilffyrdd cyntaf yng Nghymru, sydd eisoes yn gwrs boblogaidd ymhlith myfyrwyr a'r rhai sy'n gweithredu yn y sector. Bydd y gradd-brentisiaethau newydd hyn yn creu cyfleoedd newydd i unigolion a chwmnïau sy'n gweithredu yn y diwydiant adeiladu, ac yn cadarnhau ymhellach ein henw da fel sefydliad sy'n arwain y ffordd o ran cynhyrchu graddedigion sy'n barod am swyddi ac yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn sectorau hanfodol.
Dywedodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn falch iawn bod y Gradd-brentisiaethau Adeiladu bellach ar gael i gyflogwyr a phrentisiaid yn y sector. Bydd y rhaglenni hyn yn galluogi unigolion i ddatblygu sgiliau lefel uchel a fydd o fudd iddyn nhw a'u cyflogwyr mewn sector cyffrous sy'n symud yn gyflym.