Mae camau i gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gwella bioamrywiaeth, a chryfhau'r economi wledig yn rhan o gynigion a gyhoeddwyd heddiw sy'n amlinellu'r camau nesaf wrth gynllunio cynllun cymorth fferm nodedig Cymru yn y dyfodol.
Mae cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn arwydd o newid mawr a bydd yn allweddol i gefnogi ffermwyr Cymru i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o sicrhau amgylchedd mwy gwydn ac economi wledig fwy gwydn.
Darperir cymorth ariannol ar gyfer y gwaith y mae ffermwyr yn ei wneud i ymateb i heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.
Mae'r camau gweithredu yn y Cynllun wedi'u nodi o dan bum nodwedd sy'n dangos yr amrywiaeth o ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru am gefnogi ffermwyr i'w helpu i gyflawni ystod eang o ganlyniadau ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.
Mae'r rhain yn cynnwys gweithio gyda ffermwyr i'w helpu i addasu i newidiadau yn yr amgylchedd neu'r farchnad, helpu i wneud y defnydd gorau o'u hadnoddau a'u cefnogi i fod yn fwy effeithlon, lleihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella'r stociau carbon presennol drwy ddal a storio carbon.
Bydd taliad sylfaenol yn cael ei wneud i ffermwyr am ymgymryd â chyfres o Gamau Gweithredu Cyffredinol y gall ffermydd ledled Cymru eu cymryd a mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth. Bydd taliad ychwanegol ar gael i ffermwyr sy'n dewis cymryd camau opsiynol a chydweithredol ychwanegol.
Mae'r camau gweithredu arfaethedig yn cynnwys cymorth i:
- Rheoli a gwella cynefinoedd ar draws o leiaf 10% o'r fferm, neu greu nodweddion cynefin newydd lle nad oes cynefin presennol yn bodoli (Sylfaenol)
- Sicrhau bod mesurau bioddiogelwch angenrheidiol ar waith i leihau'r perygl o ledaenu clefydau, gan gynnwys darparu gorsafoedd ymolchi a sicrhau bod ffiniau ffermydd yn ddiogel i atal stoc crwydrol (Sylfaenol)
- Cwblhau hunanasesiad meincnodi blynyddol i wella perfformiad busnes (Sylfaenol)
- Adfer mawndiroedd sydd wedi'u difrodi drwy flocio ffosydd, neu ailsefydlu llystyfiant (Opsiynol)
- Tyfu cnydau i leihau faint o borthiant y maent yn ei brynu (Opsiynol)
- Sefydlu mentrau garddwriaethol newydd o fewn busnesau fferm presennol (Opsiynol)
- Cymorth i ffermwyr gydweithio ar draws dalgylchoedd i wella ansawdd dŵr (Cydweithredol)
Mae Llywodraeth Cymru am ymgysylltu â ffermwyr o bob rhan o Gymru i ddeall sut y gallai'r camau gweithredu arfaethedig weithio ar eu ffermydd fel rhan o'r cam nesaf o gyd-ddylunio.
Er mwyn helpu ffermwyr i gymryd y camau gweithredu, cynigir cymorth drwy wasanaeth cynghori, yn ogystal â hyfforddiant a rhannu gwybodaeth rhwng ffermwyr.
Mae cyfraddau talu yn cael eu llywio gan fodelu a dadansoddi economaidd Llywodraeth Cymru sy'n dal i gael eu cynnal.
Ni fydd penderfyniad ar sut y bydd y Cynllun terfynol yn edrych yn cael ei wneud hyd nes y bydd ymgynghoriad pellach ar y cynigion manwl a'r dadansoddiad economaidd wedi'i gyflwyno yn 2023. Bydd hyn yn cynnwys modelu'r camau gweithredu yn y Cynllun ac asesu sut mae'r camau gweithredu yn helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.
Fel rhan o'r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, bydd cyfnod pontio'n cael ei gyflwyno fel y bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn nodwedd o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy gydol a thu hwnt i dymor y Senedd.
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, wedi diolch i'r diwydiant am weithio gyda Llywodraeth Cymru i gynllunio'r Cynllun ac mae wedi annog ffermwyr i barhau i ymgysylltu. Mae adborth wedi bod yn allweddol o ran helpu i addasu cynigion y Cynllun fel eu bod yn gweithio i holl ffermwyr Cymru.
Dywedodd y Gweinidog:
"Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi'i gynllunio i gefnogi'r hyn y mae ein ffermwyr yn ei wneud orau sef ffermio cynaliadwy a chynhyrchu bwyd mewn cytgord â'r amgylchedd. Rwyf am weld y Cynllun hwn yn gwella ein bioamrywiaeth yn sylweddol ac yn cryfhau sector ffermio Cymru.
"Byddwn yn dibynnu ar ymrwymiad ac arbenigedd sector ffermio Cymru i ddarparu Sero Net ac i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae'r Cynllun wedi'i gynllunio i gefnogi ffermwyr gyda'r rôl bwysig hon ac ar yr un pryd yn eu helpu i barhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel i safonau cynhyrchu uchel.
"Cymwysterau cynaliadwyedd y Cynllun yw'r sail ar gyfer dyfodol llewyrchus i amaethyddiaeth yng Nghymru ac rydym am weld hyn yn helpu'r diwydiant i ddal mwy o farchnadoedd domestig a rhyngwladol.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cyflwyno'r cynigion hyn yn llawer mwy manwl nag a rannwyd o'r blaen. Mae hyn yn cynnwys amlinellu strwythur y Cynllun, manylion am gamau gweithredu arfaethedig, a'r broses y gall ffermwyr wneud cais drwyddi.
"Mae'r argyfyngau hinsawdd a natur yn bygwth cynaliadwyedd amaethyddiaeth ac yn peri'r risg fwyaf difrifol i ddiogelwch bwyd yn fyd-eang ac yn lleol. Rhaid inni ymateb i hyn os ydym am sicrhau bod gennym sector amaethyddol cynaliadwy a gwydn am genedlaethau i ddod ac un o'm bwriadau ar gyfer cyhoeddi amlinelliad o'r Cynllun yn awr yw helpu'r diwydiant i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
"Mae cynhyrchu bwyd a chamau gweithredu cynaliadwy i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn agendâu ategol, nid ydynt yn cystadlu â'i gilydd.
"Mae ffermio'n hanfodol i Gymru ac mae'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi ein heconomi a'n cymunedau gwledig. Credaf yn gryf fod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnig cyfle gwirioneddol ar gyfer newid cadarnhaol, a chyda'r cymorth y bydd yn ei ddarparu gallwn helpu'r sector i ffynnu.
"Byddwn yn ymgysylltu â'r sector yn ystod y cam nesaf o gyd-ddylunio cyn ymgynghori ar y cynigion terfynol y flwyddyn nesaf. Rwyf wedi dweud erioed fy mod am weithio gyda'n ffermwyr i sicrhau bod y Cynllun hwn yn gweithio iddynt hwy a'n cenedl."