Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) yng Nghymru gyda’u costau rhedeg am hyd at dri mis.
Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) yng Nghymru gyda’u costau rhedeg am hyd at dri mis.
Partneriaethau yw AGBau sy’n dod â busnesau a chymunedau at ei gilydd i wella a hyrwyddo canol eu trefi a’u dinasoedd. Mae ganddynt hefyd ran allweddol i’w chwarae yn yr agenda Trawsnewid Trefi a gyhoeddwyd fis Ionawr. Ar hyn o bryd, mae yna 16 o AGBau ledled Cymru, 15 mewn trefi a dinasoedd, ac un AGB ddiwydiannol ym Mlaenau Gwent. Bydd darparu cymorth ariannol ar gyfer eu costau rhedeg yn helpu i sicrhau y gall AGBau barhau, a bod ar flaen y gad yn yr ymdrechion adfer.
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd y Dirprwy Weinidog:
Mae Ardaloedd Gwella Busnes wedi bod yn cefnogi busnesau yng nghanol ein trefi ledled Cymru ers sawl blwyddyn ac rydym wedi buddsoddi dros £500,000 yn eu datblygiad ers 2014. Maen nhw’n bwysig iawn i hybu adfywio lleol, ac fe fyddan nhw’n hanfodol i gefnogi a chydgysylltu canol trefi yn ystod y cyfnod adfer.
Bydd cyngor a chanllawiau pellach, a manylion ynglŷn â chymhwysedd ar gyfer y cyllid hwn, ar gael yn yr wythnosau nesaf.
Daw’r cymorth hwn ar ben yr £1.7 biliwn sydd eisoes wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng Nghymru. Mae dros £550 miliwn o grantiau wedi cyrraedd 45,000 o fusnesau bach yng Nghymru mewn ychydig wythnosau yn unig. Mae hyn yn cynnwys grantiau gwerth hyd at £25,000 i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd mewn lleoliadau â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000, a grant gwerth £10,000 i gwmnïau sy’n gymwys am gymorth rhyddhad ardrethi busnesau bach, ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. Bydd busnesau cymwys hefyd yn elwa o wyliau blwyddyn o’u hardrethi.