Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (16 Gorffennaf), cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle God Ymarfer newydd ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, a ddaw i rym ar 1 Medi eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae awtistiaeth yn effeithio ar sgiliau cyfathrebu cymdeithasol unigolyn. Amcangyfrifir y bydd gan un ym mhob cant o bobl awtistiaeth, sy’n gallu effeithio ar eu bywydau mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Mae’r cod newydd wedi’i ddatblygu ar y cyd â phobl awtistig eu hunain a’u rhieni a’u gofalwyr, yn ogystal ag â chyrff y trydydd sector, ymarferwyr a gwasanaethau sy’n darparu cymorth. Mae rhagor o wybodaeth am awtistiaeth i’w gweld ar wefan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol

Gwnaed y Cod o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG (Cymru) 2006, a bydd yn rhoi eglurder i fyrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau’r GIG, awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ynghylch eu cyfrifoldebau a’r gwasanaethau y mae’n ofynnol iddynt eu darparu i gefnogi pobl awtistig yn eu bywydau bob dydd.

Mae cynllun cyflenwi hefyd wedi’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r cod, sy’n amlinellu blaenoriaethau’r flwyddyn gyntaf, gan gynnwys ffocws ar adfer gwasanaethau yn dilyn pandemig COVID-19, cynnwys y Gymraeg yn y ddarpariaeth gwasanaethau, a chymorth i bobl awtistig Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. 

Dim ond un o ystod o gyflyrau niwroddatblygiad yw awtistiaeth. Er mwyn deall y galw cynyddol am gymorth, ym mis Chwefror eleni cychwynnwyd adolygiad o wasanaethau niwroddatblygiad pob oed yng Nghymru. Nod yr adolygiad yw dod i ddealltwriaeth o’r sefyllfa ledled Cymru ar hyn o bryd, gan nodi’r galw am wasanaethau niwroddatblygiad i blant, pobl ifanc ac oedolion, eu capasiti a’u dyluniad. Disgwylir i’r gwaith hwn gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2022 a bydd yn sail i benderfyniadau ynghylch gwella gwasanaethau yn y dyfodol o ran dyluniad a darpariaeth.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

Mae’r cod ymarfer newydd yn golygu partneriaeth wirioneddol â’r trydydd sector, clinigwyr ac, yn bwysicaf oll, pobl awtistig, rhieni a gofalwyr sydd wedi rhoi eu mewnbwn. Dw i am ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hollbwysig hwn.

Nawr bod y cod wedi’i gyhoeddi, wnawn ni ddim eistedd yn ôl. Dw i am ei hyrwyddo a gwneud yn siwr ei fod yn gwneud gwahaniaeth i’r gwasanaethau y mae pobl yn eu defnyddio ac i’w bywydau bob dydd.

Dim ond un o ystod o gyflyrau niwroddatblygiad yw awtistiaeth, ac mae pob un o’r cyflyrau hyn yn dod â’u heriau i blant ac oedolion, a’u rhieni a’u gofalwyr. Bydd y gwersi a’r arferion da rydyn ni wedi’u dysgu drwy ddatblygu’r cod ymarfer hwn yn sail inni wrth gynllunio gwasanaethau niwroddatblygiad yn y dyfodol.