Mae canllawiau newydd i safleoedd prosesu cig a chynhyrchu bwyd am atal a rheoli achosion o’r coronafeirws wedi’u cyflwyno i’r sector heddiw.
Mae’r canllawiau wedi’u datblygu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Undebau ac asiantaethau allweddol eraill, gan gynnwys yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn dilyn achosion diweddar mewn tri safle prosesu cig a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Mae’r achosion yng Ngogledd Cymru, ar safle 2 Sisters yn Llangefni, a safle Rowan Foods yn Wrecsam, yn cael eu monitro’n agos gan gynnwys monitro am unrhyw dystiolaeth y gall yr haint fod wedi’i drosglwyddo i’r gymuned ehangach. Mae pob un o staff y safleoedd yn cael prawf ac mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru yn adnabod a chysylltu â chysylltiadau agos pawb sydd wedi cael prawf positif.
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r achos yn Ne Cymru, sy’n cynnwys mwy na 30 o achosion yn dyddio yn ôl i ddiwedd mis Mawrth, sy’n gysylltiedig â Kepak Merthyr Tudful.
Mae’r canllawiau newydd yn rhoi cyngor clir i’r sector ar amryw o bethau gan gynnwys:
- gweithdrefnau i reoli achosion a amheuir, gan gynnwys gwybodaeth am wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru
- asesiad risg yn y gweithle
- cyfathrebu gyda gweithwyr
- llety a rennir a thrafnidiaeth i’r safle
- mynediad i’r safle a chadw pellter corfforol ar y safle, gan gynnwys mewn ardaloedd cymunol
- hylendid bwyd
Mae’r canllawiau hefyd yn argymell, os yw’n bosibl, y dylid trefnu gweithwyr yn grwpiau sy’n cyd-fynd â thimau gwaith naturiol. Dylai’r grwpiau hyn weithio gyda’i gilydd, cymryd egwyl gyda’i gilydd, newid eu dillad gyda’i gilydd ac, os yw’n berthnasol, dylent deithio i’r gwaith gyda’i gilydd.
Bydd hyn yn helpu i leihau’r nifer o bobl sydd mewn cysylltiad â’i gilydd ar unrhyw adeg, gan leihau lledaeniad posibl y feirws os oes achos yn y gweithle.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:
Yn dilyn yr achosion mewn tri safle yng Nghymru, fe ymrwymais weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau eraill i ddarparu canllawiau newydd i’r sector.
Mae’r canllawiau’n rhoi cyngor a chymorth clir i’r sector i’w helpu i atal a rheoli coronafeirws yn y gweithle a sicrhau bod yr holl drefniadau diogelu angenrheidiol ar waith i ddiogelu eu gweithwyr a’u teuluoedd.
Mae’r achosion hyn yn dangos nad yw coronafeirws wedi diflannu. Mae’n pwysleisio pa mor bwysig ydyw i bob un ohonom ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol, sicrhau hylendid dwylo da ac, os oes gennym symptomau, aros adref a pheidio â mynd i’r gwaith.
Drwy gydweithio, gallwn ddiogelu Cymru.
Yn ogystal â’r canllawiau newydd, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi comisiynu Arloesi Bwyd Cymru, un o bartneriaid cyflenwi Llywodraeth Cymru, i gynnal asesiad risg cyflym o safleoedd prosesu cig ar draws Cymru.
Mae’r gwaith cychwynnol wedi’i wneud ac mae’r canfyddiadau’n cael eu hystyried gan y Gweinidog ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad yn awr yn cael ei ymestyn i safleoedd pecynnu a phrosesu ar gyfer mathau eraill o fwyd yng Nghymru.