Bydd yn orfodol i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do yng Nghymru o ddydd Llun wrth i reolau gael eu tynhau i atal argyfwng coronafeirws newydd.
Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi cyfyngiad newydd ar y nifer o bobl a all gwrdd o dan do wrth i dystiolaeth ddangos mai cynulliadau o dan do yw prif ffynhonnell trosglwyddiad y feirws yng Nghymru.
Anogir pobl hefyd i ddal i weithio gartref lle bynnag y bo modd i gyfyngu ar gyswllt rhwng pobl a bydd awdurdodau lleol yn cael pwerau newydd i gau lleoliadau a digwyddiadau ar sail iechyd y cyhoedd.
Daw’r newidiadau diweddaraf i rym ddydd Llun (Medi 14) wrth i’r nifer o achosion o’r coronafeirws gynyddu yn genedlaethol, gyda sawl man problemus o ran yr haint, yn enwedig yng Nghymoedd y De.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Mae achosion o’r coronafeirws yn cynyddu eto yng Nghymru, wedi sawl wythnos o weld niferoedd yn lleihau.
Unwaith eto, mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar dynhau’r cyfyngiadau ar draws Cymru i atal achosion rhag cynyddu ymhellach ac atal y broblem rhag gwaethygu – fel y gwelwyd mewn mannau eraill yn y DU.
Mae’r mesurau newydd yr ydym yn eu cyhoeddi heddiw wedi’u cynllunio i atal argyfwng coronafeirws newydd yma yng Nghymru, yn hytrach nag ymateb i un.
Nid yw Cymru’n imiwn i’r lledaeniad coronafeirws mewn mannau eraill yn y DU, ac wrth i anawsterau godi mewn ardaloedd eraill mae’n rhaid inni ddisgwyl i hynny gael effaith arnom ninnau hefyd.
O ddydd Llun, bydd yn orfodol i bobl dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do, fel siopau. Bydd pobl nad ydynt yn gallu gwisgo gorchudd wyneb oherwydd rhesymau iechyd neu resymau meddygol wedi’u heithrio, yn yr un modd â’r rheolau ar gyfer cludiant cyhoeddus.
Ni fydd angen gwisgo gorchuddion wyneb mewn tafarndai neu fwytai am y tro, ond mae Llywodraeth Cymru’n cynnal adolygiad cyflym o’r dystiolaeth ynglŷn ag a ddylid eu hymestyn i’r sector lletygarwch.
Mae’r rheolau ar orchuddion wyneb yn newid oherwydd cynnydd yng nghyfradd gyffredinol yr achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru, sy’n awgrymu bod risg difrifol y bydd y feirws yn lledaenu’n ehangach unwaith eto.
Ar hyn o bryd, caniateir i bobl ymgynnull o dan do gyda phobl o hyd at bedair aelwyd arall, ond dim ond os ydynt wedi ffurfio aelwyd estynedig â’i gilydd (gwelwir hyn weithiau yn swigen).
O ddydd Llun, dim ond hyd at chwech o bobl o’r aelwyd estynedig fydd yn cael cwrdd o dan do ar unrhyw adeg. Mae’r rheol hon yn berthnasol mewn tafarndai a bwytai yn ogystal ag yng nghartrefi pobl. Nid yw plant o dan 11 oed yn cael eu cyfrif fel rhan o’r 6.
Ond, nid yw hyn yn berthnasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lle mae
cyfyngiadau lleol mwy caeth ar waith i reoli cynnydd mawr mewn achosion coronafeirws ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd – ni chaniateir aelwydydd estynedig bellach, ac ni chaniateir ichi gwrdd yn gymdeithasol ag unrhyw un nad yw’n byw gyda chi. Mae hyn yn berthnasol mewn tafarndai a bwytai yn ogystal ag yng nghartrefi pobl.
Bydd gweinidogion hefyd yn rhoi pwerau newydd i awdurdodau lleol i gau lleoliadau ar sail iechyd y cyhoedd i fynd i’r afael â lledaeniad y feirws.
Ychwanegodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Rydym wedi bod drwy lawer iawn gyda’n gilydd eleni ac mae pob un ohonom eisiau gweld y coronafeirws yn diflannu, ond bydd hyn ond yn bosibl os yw pob un ohonom yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu i’n diogelu ni ein hunain a’n hanwyliaid a diogelu Cymru.
I fynd i’r afael â lledaeniad coronafeirws, mae’n rhaid i bobl yng Nghymru gadw at y rheolau canlynol:
- cadwch bellter cymdeithasol o 2 fetr bob amser
- golchwch eich dwylo yn rheolaidd
- gorchuddiwch eich wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do
- os ydych chi’n cwrdd ag aelwyd arall, nad ydynt yn rhan o’ch aelwyd estynedig, arhoswch yn yr awyr agored. Ni ddylai pobl gymdeithasu â phobl nad ydynt yn rhan o’u haelwyd neu eu haelwyd estynedig.
- gweithiwch gartref os yw’n bosibl