Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd y cyfyngiad sy’n golygu mai teithio hanfodol yn unig a ganiateir ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei godi o yfory ymlaen (dydd Llun, 17 Awst), gan olygu y bydd mwy o deithwyr yn gallu teithio ar drenau a bysiau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y neges teithio hanfodol yn unig ei chyflwyno er mwyn rhoi blaenoriaeth i weithwyr allweddol, yn ogystal â’r bobl hynny nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o deithio.

Mae’r cyfyngiad yn cael ei godi wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws barhau i ostwng. Dyma’r diweddaraf o’r camau graddol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i lacio’r cyfyngiadau a osodwyd mewn ymateb i’r coronafeirws.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus, gan helpu i wneud iawn am y refeniw yr oedd yn rhwym o’i golli. Yn fwyaf diweddar, roedd hynny’n cynnwys y cyhoeddiad a wnaed yr wythnos ddiwethaf am £10 miliwn i helpu’r diwydiant bysiau i ddarparu mwy o wasanaethau.

Mae’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn parhau, er bod rhai eithriadau megis y bobl hynny nad ydynt yn gallu’u gwisgo oherwydd eu bod yn dioddef salwch corfforol neu salwch meddwl.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi:

“Wrth inni barhau i fynd ati’n ofalus i lacio’r cyfyngiadau, rydyn ni’n gallu codi’r cyfyngiad teithio hanfodol yn unig a oedd yn caniatáu i’n gweithwyr allweddol deithio’n ddiogel.

“Ond gan fod y feirws yn dal ar led, mae’n hanfodol bod pobl yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd angen iddyn nhw gynllunio’u siwrneiau er mwyn osgoi cyfnodau prysur os bydd modd, a golchi neu ddiheintio eu dwylo ar ddechrau a diwedd pob taith. Mae gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus a gallai hynny olygu na fydd pobl yn cael teithio os na fyddant yn gwisgo gorchudd.

“Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gadw Cymru yn ddiogel hyd yma, gan gynnwys y staff sydd wedi cadw’n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i fynd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Dywedodd James Price, Pennaeth Trafnidiaeth Cymru:

“Ein blaenoriaeth bennaf yw cadw’n cydweithwyr a’n cwsmeriaid yn ddiogel ac rydym wedi cryfhau’r mesurau diogelwch ar ein trenau a bysiau ac yn ein gorsafoedd.

“Yn ein gorsafoedd trenau, rydym wedi creu systemau unffordd a darparu arwyddion clir, lleoedd i ddiheintio dwylo a staff a glanhawyr ychwanegol. Hoffwn ailadrodd y neges ei bod hi’n orfodol bellach i bawb wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus a bydd y rheini nad ydyn nhw’n cadw at y rheol, oni bai eu bod wedi’u heithrio, yn cael eu gwahardd rhag teithio a gallai Heddlu Trafnidiaeth Prydain godi dirwy arnyn nhw. Diben y mesurau yw cadw cwsmeriaid eraill a’n cydweithwyr yn ddiogel ac rydyn ni’n disgwyl i bawb i fod yn gyfrifol a chydymffurfio.