Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar amcangyfrif y bobl sy’n cysgu ar y stryd dros gyfnod o bythefnos yn Hydref 2018. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am nifer y bobl a welwyd yn cysgu ar y stryd ar ddydd Iau 7 Tachwedd 2019.

Ymarferiad dros gyfnod o bythefnos

Amcangyfrifodd awdurdodau lleol fod 405 o bobl yn cysgu ar y stryd ar draws Cymru yn y pythefnos rhwng y 14ed a’r 27ain Hydref. Mae hyn yn gynnydd o 17% (58 person) o gymharu â’r un ymarferiad yn Hydref 2018, gyda thueddiadau amrywiol ar draws awdurdodau lleol.

Ciplun un noson

Cofnododd awdurdodau lleol fod 176 o bobl wedi cael eu gweld yn cysgu ar y stryd yng Nghymru rhwng 10yh ar y 7ed a 5yb ar 8ed Tachwedd 2019. Mae hyn yn gynnydd o 11%(18 person) ar y flwyddyn flaenorol, gyda thueddiadau amrywiol ar draws awdurdodau lleol.

Safleoedd gwely argyfwng

Cofnododd awdurdodau lleol 210 safle gwely argyfwng ar draws Cymru, cynnydd o 14% ar y flwyddyn flaenorol. Er y cynnydd, roedd y ganran o’r gwelyau argyfwng oedd yn wag ac ar gael ar noson y cyfrif yn is yn 2019 (8%) nag yn 2018 a 2017 (18% ill dau).

Noder

Mae'r cyfrif a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2019 yng Nghymru yn amcangyfrif ciplun. Gall ond rhoi syniad bras iawn o lefelau cysgu ar y stryd ar noson y cyfrif. Mae ystod o ffactorau a all effeithio ar gyfrif nosweithiau sengl y rheini sy'n cysgu ar y stryd, gan gynnwys lleoliad, amseru a'r tywydd.

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yn y datganiad hwn yn cwmpasu'r ymarferiad monitro cysgu ar y stryd a gynhaliwyd ledled Cymru yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd 2019. Mae’n seiliedig ar y data a ddarperir gan awdurdodau lleol.

Nid yw'r datganiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am ddigartrefedd statudol. Mae digartrefedd statudol yn cwmpasu camau a gymerir gan awdurdodau lleol i atal neu liniaru digartrefedd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Adroddiadau

Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan, Tachwedd 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.