Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y symiau a gasglwyd, ôl-ddyledion a symiau a ddilëwyd ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Prif bwyntiau

  • Yn 2020-21, casglwyd 95.7% o filiau'r dreth gyngor gan awdurdodau bilio, gostyngiad o 1.3.pwynt canran.
  • Cofnododd pob awdurdod ostyngiad o flwyddyn i flwyddyn yn eu cyfradd gasglu yn 2020-21 yn bennaf oherwydd atal adennill dyledion yn ystod pandemig COVID-19. 
  • Cafwyd y gyfradd gasglu uchaf y flwyddyn hon yng Nghastell-nedd Port Talbot (97.5%) a’r gyfradd gasglu isaf ym Mlaenau Gwent (91.0%).
  • Yr union swm a gasglwyd o safbwynt biliau 2020-21, heb gynnwys cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, oedd £1,731 miliwn allan o’r £1,808 miliwn a oedd yn ddyledus.
  • Yn ystod 2020-21, casglwyd £22 miliwn o ôl-ddyledion o ran blynyddoedd blaenorol gan awdurdodau bilio, a chafodd gwerth £4 miliwn eu dileu fel dyledion drwg. Mae'r symiau a ddilëwyd yn llawer is nag mewn blynyddoedd blaenorol.
  • Y cyfanswm a oedd yn ddyledus ar 31 Mawrth 2021 oedd £157 miliwn, gyda £7 miliwn o’r swm hwn yn ôl-ddyledion yn ystod y flwyddyn.

Adroddiadau

Cyfraddau casglu'r Dreth Gyngor, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 717 KB

PDF
Saesneg yn unig
717 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.