Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyfnod newydd ar gyfer datgan diddordeb yn y Grant Busnes i Ffermydd yn agor ar 1 Medi, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig heddiw [dydd Iau 19 Awst] cyn ymweld â Sioe Sir Benfro.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd cyllideb o £2 miliwn ar gael i ffermwyr i’w buddsoddi mewn technoleg ac offer newydd i wella eu perfformiad technegol, ariannol ac amgylcheddol. Bydd y cyfnod ar gyfer datgan diddordeb ar agor rhwng 1 Medi a 1 Hydref, a bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus bedwar mis i brynu a hawlio am yr eitemau sy’n cael eu cefnogi.

Mae’r gyllideb sydd wedi cael ei dyrannu i’r rownd hon o’r Grant Busnes i Ffermydd yn dod o arian sydd yn weddill o fewn y Rhaglen Datblygu Gwledig.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Mae hon yn wythnos bwysig yn y calendr ffermio, gan ein bod yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb yn Sioe Sir Benfro. Er bod y digwyddiad eleni rhywfaint yn wahanol i sioeau yn y gorffennol, rwyf wrth fy modd ei bod yn cael ei chynnal.

“Rwyf bob amser wrth fy modd yn mynd i Sioe Sir Benfro, ond eleni bydd yr achlysur yn fwy arbennig byth.

“Mae hefyd yn bleser gen i gyhoeddi ein bod yn agor cyfnod ar gyfer datgan diddordeb yn y Grant Busnes i Ffermydd. Rwy’n gwybod bydd llawer o bobl yn croesawu’r newyddion hwn.

“Hoffwn i annog ffermwyr sydd â diddordeb ddechrau meddwl am y gwelliannau hoffen nhw eu gwneud, a sut gallai’r grant eu helpu, fel y gallan nhw gyflwyno datganiad o ddiddordeb cryf o fewn yr amserlenni sy’n diwallu eu hanghenion."

Yn ogystal ag ymweld â Sioe Sir Benfro mae’r Gweinidog hefyd yn ymweld â ffermydd yn yr ardal.