Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pawb sy’n byw neu’n gweithio yng Nghwm Cynon Isaf yn cael cynnig prawf coronafeirws. Dyma fydd yr ail ardal yng Nghymru i gyflwyno profion torfol, gan ddilyn Merthyr Tudful.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr holl breswylwyr a gweithwyr heb symptomau yn cael cynnig profion rheolaidd ar gyfer y coronafeirws rhwng dydd Sadwrn 5 Rhagfyr a dydd Sul 20 Rhagfyr. Bydd hyn yn helpu i ddod o hyd i fwy o achosion positif a thorri’r cadwyni trosglwyddo.

Dylai unrhyw un sydd â symptomau’r coronafeirws archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119 i fynd i safle profi sy’n bodoli’n barod i gael prawf PCR swabio eich hun.

Bydd y profion yn cael eu rhoi ar waith drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, gyda chymorth logistaidd gan y Lluoedd Arfog.

Dyma’r ardaloedd yng Nghwm Cynon Isaf sy’n rhan o’r cynllun profi torfol:

  • Abercynon
  • Dwyrain Aberpennar
  • Gorllewin Aberpennar
  • Penrhiw-ceibr
  • De Aberaman

Dyma leoliadau’r ddwy brif ganolfan brofi: Canolfan Bowlio Dan Do Cwm Cynon, Aberpennar a Chanolfan Chwaraeon Abercynon. Bydd rhagor o safleoedd yn cael eu cyhoeddi yn y diwrnodau nesaf.

Yn yr ardaloedd hyn y mae rhai o’r cyfraddau uchaf o’r coronafeirws fesul 100,000 o’r boblogaeth wedi bod yn yr wythnosau diwethaf a gallai canfod preswylwyr sydd â’r feirws, ond heb symptomau, fod yn allweddol i helpu i atal ei ledaeniad.

Bydd y rhaglen profi torfol yn defnyddio Dyfeisiau Llif Unffordd. Bydd pawb sy'n mynd i unrhyw un o'r safleoedd profi asymptomatig yng Nghwm Cynon Isaf yn cael prawf sy'n defnyddio'r dyfeisiau hyn. Gall y rhain ddychwelyd canlyniad prawf o fewn 20-30 munud.

Os bydd rhywun yn cael canlyniad positif, gofynnir iddo ddychwelyd adref a hunanynysu ar unwaith.

Byddwn yn monitro nifer y canlyniadau positif yn agos i’n helpu i ddeall lledaeniad y feirws yn well. Bydd hyn wedyn o gymorth i weithredu i atal trosglwyddiad pellach.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething:

Mae’r cynllun prawf ym Merthyr yn mynd rhagddo’n dda, gan brofi bron i 8000 yn y 6 diwrnod cyntaf. Rwy’n falch y gallwn nawr ehangu’r rhaglen profi torfol i Gwm Cynon Isaf.

Fel y mae’r cynllun prawf ym Merthyr Tudful wedi’i ddangos, mae profi torfol yn ein helpu i ddeall yn well nifer yr achosion yn y gymuned a faint o bobl sydd â’r coronafeirws. Mae hefyd yn canfod faint o bobl yn y gymuned sy’n asymptomatig. Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu ac mae angen inni i gyd weithio gyda’n gilydd i drechu’r feirws marwol hwn. Hoffwn ddiolch i bawb ym Merthyr Tudful sydd wedi sicrhau llwyddiant y cynllun prawf a byddwn yn annog pobl yng Nghwm Cynon Isaf i gael prawf.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:

Ar ôl sawl wythnos o waith cynllunio, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd profion torfol ar gael cyn bo hir i breswylwyr yng Nghwm Cynon Isaf ar ôl ehangu’r cynllun prawf o Ferthyr Tudful. Mae hyn yn rhan hanfodol o’n brwydr yn erbyn y feirws, gan ei fod yn rhoi dealltwriaeth well inni o nifer yr achosion a’r gyfradd drosglwyddo yn ein cymunedau.

Yn dilyn y gwelliant sydd wedi bod, o ran lleihau nifer yr achosion dyddiol a’r gyfradd sy’n profi’n bositif, ar ôl y mesurau lleol a’r cyfnod atal byr cenedlaethol, mae’n bwysig ein bod nawr yn canfod ac yn ynysu’r rhai sy’n asymptomatig yn ein cymunedau. Bydd hyn yn torri’r cadwyni trosglwyddo wrth i achosion nawr ddechrau cynyddu eto.

Dywedodd y Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

Fel Bwrdd Iechyd Prifysgol, rydym yn cefnogi’r profion torfol yn ardaloedd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf gan ddefnyddio math newydd o brawf sy’n darparu canlyniadau mewn 30 munud. Mae cyfradd haint COVID-19 yn uchel iawn o hyd yn ein cymunedau, a thrwy fanteisio ar y rhaglen brofi hon, gall pobl yng Nghwm Cynon Isaf chwarae rôl fawr i ddiogelu pawb yn ein cymunedau.