Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pobl sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu am hyd at 14 diwrnod yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru wrth i ddau gynllun newydd gael eu cyhoeddi heddiw [dydd Gwener 30 Hydref].

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd modd i bobl sydd ar incwm isel wneud cais am daliad o £500 os ydynt wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn gofyn iddynt hunanynysu oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif.

Yn ogystal, mae taliad ychwanegol newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, i gynyddu tâl salwch statudol i’w cyflog arferol os oes rhaid iddynt gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd bod ganddynt coronafeirws neu oherwydd eu bod yn hunanynysu.

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hyd at £32m ar gael ar gyfer y ddau gynllun  i gefnogi pobl ac i ddileu’r rhwystrau ariannol sy’n wynebu’r rhai sy’n gorfod hunanynysu.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Mae’r pandemig wedi cael effaith enfawr ar bawb ac rydym wedi gofyn i bobl aberthu cymaint eleni, gan gynnwys yn ystod y cyfnod atal byr hwn. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl a diogelu eu hiechyd a’u llesiant.

Mae gofyn i bobl hunanynysu yn ffordd bwysig o dorri ar drosglwyddiad y feirws ond i lawer o bobl gall hyn olygu colli incwm. 

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu ein hiechyd ni ein hunain ac iechyd ein hanwyliaid hefyd ond gwyddom pa mor anodd y gall hynny fod os oes rhaid dewis rhwng aros gartref a methu bwydo eich teulu, neu fynd i’r gwaith.

Mae'r cynlluniau cymorth newydd hyn wedi'u cynllunio ar gyfer pobl ar incwm isel a’u bwriad yw lleddfu rhywfaint ar y pwysau ariannol y mae pobl yn ei wynebu os gofynnir iddynt hunanynysu.

Bydd taliad sefydlog o £500 ar gael i bobl y gofynnir iddynt hunanynysu oherwydd eu bod wedi cael prawf coronafeirws positif neu os yw gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru wedi gofyn iddynt hunanynysu oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif.

Mae'r taliad ar gael i bobl ar incwm isel nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac a fyddai'n colli incwm o ganlyniad i orfod hunanynysu. I fod yn gymwys, rhaid i bobl fod yn hunanynysu ac yn derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal penodedig arall.

Bydd cyllid ychwanegol ar gael hefyd ar gyfer taliadau dewisol i bobl eraill sy'n hunanynysu ac sydd mewn perygl o ddioddef caledi ariannol.

Mae’r trefniadau terfynol yn cael eu gwneud yn barod ar gyfer lansio’r cynllun. Bydd pobl yn gallu gwneud cais am y taliadau ar wefan eu hawdurdod lleol a byddant yn cael eu hôl-ddyddio i 23 Hydref.

Bydd y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, ym maes gofal cartref ac fel cynorthwywyr personol, yn dechrau ar 1 Tachwedd a bydd yn para tan 31 Mawrth 2021.

Bydd y cynllun yn ychwanegu at dâl salwch statudol i roi tâl llawn i weithwyr gofal cymwys os oes angen iddynt gymryd amser i ffwrdd os amheuir neu os cadarnhawyd bod ganddynt coronafeirws, neu os ydynt yn hunanynysu oherwydd bod gan rywun ar eu haelwyd coronafeirws neu bod gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd iddynt wneud hynny.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Os rhoddir cyfarwyddyd ichi hunanynysu, nid yw gweithio gartref yn opsiwn i bawb, ac mae hynny’n rhoi mwy fyth o straen ar bobl. Gallai rhai pobl deimlo pwysau i fynd i’r gwaith, dim ond i dalu'r biliau.

Bydd y taliad hunanynysu o £500 a’r cynllun ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol yn ein helpu i ddiogelu pobl agored i niwed a rhoi’r sicrwydd ariannol angenrheidiol i bobl er mwyn iddynt aros gartref a thorri ar drosglwyddiad y feirws.

Bydd rhai pobl yn anghymwys ar gyfer y taliad o £500 ond yn dioddef caledi ariannol o ganlyniad i’r cyfarwyddyd i hunanynysu. Dyma pam yr ydym wedi cyflwyno elfen ddewisol i’r taliad hunanynysu a fydd ar gael i grŵp ehangach o bobl.

Mae cymorth ariannol eisoes ar gael i bobl drwy elfen caledi coronafeirws Taliad Cymorth Brys y Gronfa Cymorth Dewisol.

Law yn llaw â'r ddau gynllun, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau'r rheoliadau coronafeirws drwy osod gofyniad cyfreithiol ar bobl i hunanynysu os ydynt yn cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru.

A bydd dyletswydd yn cael ei rhoi ar gyflogwyr i sicrhau na allant atal gweithiwr rhag dilyn cyngor hunanynysu y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu.  

Bydd y ddau gynllun yn rhan bwysig o’r cymorth a’r mesurau cenedlaethol a fydd yn cael eu cyflwyno ar ôl y cyfnod atal byr.

Yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg a gynhelir am 12.15 heddiw, bydd y Prif Weinidog yn dechrau amlinellu beth fydd yn digwydd pan ddaw’r cyfnod atal byr i ben ar 9 Tachwedd.