Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, newydd ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i weld y cyfleusterau newydd sbon a fydd yn allweddol i hyrwyddo a diogelu iechyd anifeiliaid a phobl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB mewn Gwartheg, mae labordai newydd wedi'u datblygu i wyddonwyr allu cynnal ymchwil o'r radd flaenaf i TB mewn gwartheg a milheintiau eraill.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r datblygiad gyda £3.6m o dan Raglen Sêr Cymru II sy'n cynnwys cyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd (ERDF). Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi neilltuo £1.9m arall.

Arweinydd y Ganolfan yw’r Athro Glyn Hewinson, sydd wedi gweithio ar TB mewn gwartheg ers bron ddeng mlynedd ar hugain ac yn arbenigwr byd yn y maes.

Clywodd y Gweinidog fwy hefyd am hanes sefydlu'r ysgol addysg filfeddygol gyntaf yng Nghymru. Bydd yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol yn derbyn ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi. Mae'r cwrs gradd hwn yn ategu cyrsiau israddedig mewn biowyddorau milfeddygol, sydd wedi'u cynnig yn Aberystwyth ers sawl blwyddyn.

Daeth yr ymweliad i ben gyda thaith o amgylch AberArloesi, y ganolfan arloesi a menter a gwblhawyd yn ddiweddar ar gampws Gogerddan y Brifysgol, sy'n cynnig cyfleusterau ac arbenigedd o'r radd flaenaf yn y sectorau biotechnoleg, amaeth-dechnoleg a bwyd a diod.

Datblygwyd AberArloesi gyda £23.1m o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac ynghyd â'r £8.5m a £12m gan Brifysgol Aberystwyth a'r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC), mae bellach yn rhan o’r corff Ymchwil ac Arloesedd y DU.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Mae wedi bod yn braf iawn cael ymweld â Phrifysgol Aberystwyth gyda Christianne Glossop, ein Prif Swyddog Milfeddygol, a gweld a chlywed am y datblygiadau cyffrous a phwysig sy'n digwydd.

"Bydd y labordai newydd yn allweddol wrth gryfhau gallu ymchwilio Cymru ac mae’r Ganolfan Ragoriaeth yn hanfodol ar gyfer yr ymchwil genedlaethol a rhyngwladol i TB mewn gwartheg a’r nod o ddileu'r clefyd.

"Mae hi wedi bod yn bleser cael cwrdd â'r Athro Hewinson, arweinydd y ganolfan a gŵr uchel iawn ei barch yma a thramor. Bydd ei arweiniad a'i arbenigedd yn hanfodol nawr ac yn y dyfodol.

"Roedd hefyd yn wych gweld y gwaith sydd wedi’i wneud ar Ysgol Gwyddor Filfeddygol gyntaf Cymru, mewn partneriaeth â'r Coleg Milfeddygol Brenhinol, Llundain. Rwy'n siŵr y bydd ganddi ddyfodol cryf ac y bydd yn gaffaeliad i'n sector amaethyddol a'n proffesiwn milfeddygol."

Dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Aberystwyth:

"Roedd Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o gael croesawu'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

"Mae gan y Brifysgol hanes hir a balch o ymchwil arloesol i fynd i'r afael ag anghenion cymunedau a busnesau gwledig yng Nghymru a thros y byd.

"Bydd datblygu cyfleusterau newydd, gan gynnwys Ysgol Filfeddygol gyntaf Cymru, labordai o'r radd flaenaf, ac AberArloesi yng Ngogerddan, yn golygu newid mawr yn ein gweithgarwch, gan atgyfnerthu lle Aberystwyth fel un o'r safleoedd ymchwil mwyaf blaenllaw yn y byd."

Meddai'r Athro Glyn Hewinson, Pennaeth Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Mewn Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Roeddem yn falch iawn o gael croesawu'r Gweinidog a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru i Ganolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Mewn Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth a rhannu â nhw ein gweledigaeth a’r gwaith rydym wedi'i wneud a chael deall yn well sut y gallem weithio gyda’n gilydd yn fwy effeithiol i ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru."