Neidio i'r prif gynnwy
Agenda

Amser

Eitem

Papurau

09:00

Croeso

 

  1. Cofnodion
  2. Pwyntiau gweithredu

09:10

Digwyddiad Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth ar 16 Hydref a chanfyddiadau cyfarfodydd y Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth sy’n ailddechrau

 

09:30

Gweithdy Wavehill

 

 

11:00

Egwyl

 

11:10

Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru
Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Keith

 

11:20

Trafodaethau am adroddiad y bwrdd

  1. Adroddiad y bwrdd

13:00

Diwedd y cyfarfod

 

Yn bresennol: Aelodau

Enw

Swyddogaeth

Keith Towler (KT)

Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro

Sharon Lovell (SL)

Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol ac Is-gadeirydd Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)

Efa Gruffudd Jones (EGJ)

Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Eleri Thomas (ET)   

Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent

Simon Stewart (SS)

Deon Cyfadran y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam

Jo Sims (JS)

Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent

Yn bresennol: Llywodraeth Cymru (LlC)

Donna Lemin (DL)

Uwch-reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

James McCrae (JM)

Rheolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Gemma Roche Clarke (GRC)

Pennaeth Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Chris Jones (CJ)

Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr

Caitlin Doyle (CD)

Prentis, Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr

Dareth Edwards

Rheolwr Polisi Gwaith Ieuenctid

Ymddiheuriadau

Dusty Kennedy (DK): Cyfarwyddwr TRM Academy

Cofnodion a chamau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf

KT, DL a SL i gael cyfarfod am strategaeth ar gyfer cael pobl ifanc i ymgysylltu â’r grŵp yn y dyfodol.

Cododd ET broblem, sef bod eu gweinydd yn rhwystro rhai negeseuon e-bost o gyfeiriadau e-bost Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn archwilio’r materion hyn.

Awgrymodd ET gyfarfodydd unigol rhwng aelodau’r bwrdd a GRC, ar ôl i GRC ddechrau ei swyddogaeth yn y tîm. JM i sefydlu’r cyfarfodydd hyn.

Digwyddiad Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth: 16 Hydref 

Rhoddodd JM yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ynghylch y digwyddiad a oedd yn cynnwys holl aelodau’r bwrdd a holl aelodau Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth ar 16 Hydref. Roedd y Bwrdd yn cytuno â’r agenda arfaethedig.

Pwysleisiodd ET yr angen i sicrhau bod y digwyddiad yn rhan o’r cyd-destun Cenedlaethol cyfredol sy’n ymwneud â COVID-19. Roedd y Bwrdd yn glir bod ailgychwyn Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth wedi codi momentwm eto a bod angen i’r digwyddiad roi hwb i’r momentwm hwn gan fod yn ymwybodol o’r cyd-destun hwn.

Gweithdy Wavehill

Cafodd y bwrdd gyflwyniad gan Wavehill, yn cyflwyno’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o’u hymchwil i ddatblygu theori newid ar gyfer gwaith ieuenctid hyd yma.

Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

Dywedodd DL y bydd GRC yn cymryd lle Michael Maragakis, ac y bydd yn dechrau’n fuan. Bydd Claire Young yn ymgymryd â gwaith ar grantiau. Bydd Anisa Khan yn dychwelyd i’r tîm yn dilyn absenoldeb mamolaeth, a fydd yn cynyddu capasiti’r gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid yn Llywodraeth Cymru. DL i anfon e-bost i egluro swyddogaethau pawb yn y tîm.

Dywedodd DE fod y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid ar YouTube ddydd Gwener wedi ei wylio dros 700 o weithiau hyd yma. Derbyniwyd llawer o sylwadau cadarnhaol gan y sector ac ategodd ET y sylwadau hyn. Awgrymodd EGJ y dylid ystyried elfen ddigidol mewn seremonïau yn y dyfodol oherwydd bod hyn yn eu gwneud yn llawer mwy hygyrch ar draws y sector. Awgrymodd SL y dylid cynnwys y gweinidog y flwyddyn nesaf; dywedodd DL y bydd DE yn ymgymryd â phrosiect sy’n canolbwyntio ar astudiaethau achos o’r gwobrau.

Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Keith Towler

Dywedodd KT ei fod wedi bod yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid yn ddiweddar, sef cyfarfod grŵp gweithredol CWVYS, Sophie Howe (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru) a Chris Llewellyn (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru). Dywedodd KT fod y cyfarfodydd hyn wedi bod yn gynhyrchiol a bod pawb wedi ymgysylltu ac yn cytuno â’r pwyntiau a awgrymwyd. Roedd pawb yn cynnig cymorth i waith y Bwrdd.

Dywedodd KT y bydd yn cael cyfarfodydd yn fuan gydag Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg (ochr yn ochr ag EGJ), Lynne Neagle (Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc) a Kirsty Williams (y Gweinidog Addysg).

Dywedodd KT fod swyddogion Llywodraeth Cymru’n gweithio ar hyn o bryd i sefydlu cyfarfod rhwng KT a’r Prif Weinidog.

Adroddiad y Bwrdd

Canolbwyntiodd drafodaethau’r bwrdd ar sicrhau bod yr adroddiad yn dangos eu gweledigaeth ar gyfer cyfeiriad teithio gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y dyfodol. Pwysleisiodd KT y bydd hyn yn symudiad o newid clir i’r sector gwaith ieuenctid ac roedd y bwrdd yn cefnogi’r dull hwn. Cydnabu KT yr angen i’r ddogfen gael ei chwtogi o’r drafft cyntaf presennol a bod angen i’r ddogfen fod yn drawiadol.

Awgrymodd ET y dylid cyfochri’r adroddiad â chynllun adfer Llywodraeth Cymru, bydd DL yn gweithio gyda CJ i ddilyn y posibiliadau yn hyn o beth.

Gofynnodd KT am i sylwadau ynghylch y drafft gael eu dychwelyd ato erbyn 21 Hydref.