Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 27 Hydref 2015.

Cyfnod ymgynghori:
18 Awst 2015 i 27 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (dolen allanol, Saesneg yn unig).

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn symleiddio'r ddeddfwriaeth sy'n rheoleiddio effeithiau amgylcheddol y diwydiant yng Nghymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru yn bwriadu cydgrynhoi Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol  (Cymru a Lloegr) 2010 fel y’u diwygiwyd.

Gan nad yw’r broses gydgrynhoi yn arwain at unrhyw newidiadau o ran polisi nid ydym yn ailagor trafodaethau am faterion polisi nac ychwaith am strwythur cyffredinol a chynnwys y Rheoliadau. Yr unig faterion yr ydym yn gwahodd sylwadau yn eu cylch yw’r broses gydgrynhoi ei hun a’r newidiadau a wnaed fel rhan o’r broses honno. Y nod yw gosod y Rheoliadau a gydgrynhoir gerbron y Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod ail hanner 2016 gyda golwg ar ddod â hwy i rym ar 1 Ionawr 2017.

Os hoffech weld copi o’r Rheoliadau drafft ewch i wefan Defra (Saesneg yn unig - dolen allanol)