Araith 'Cwricwlwm i Ddyfodol Llwyddiannus?' ar 17 Hydref 2019 gan Kirsty Williams, Y Gweinidog dros Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Noswaith dda bawb.

Diolch yn fawr i Faron a’i gydweithwyr yn IoC, Technocamps, y Gymdeithas Ddysgedig a Phrifysgol Abertawe am y gwahoddiad i annerch ac am drefnu’r digwyddiad heno.

Mae teitl y noson yn un clyfar iawn.

Sef defnyddio teitl yr Athro Donaldson ar gyfer yr adroddiad gwreiddiol, ac yna ei droi’n gwestiwn ar gyfer beth fydd yn  digwydd nesaf.

Ond, i fod yn gwbl onest, … mae gofyn i unrhyw wleidydd edrych ymlaen at ddyfodol llwyddiannus yn beth dewr iawn i’w wneud!

….Hyd yn oed os yw’ch gweledigaeth am 2020 yn un glir a gobeithiol

…. Ond dim ond 3 mis i ffwrdd yw hynny!

Ac i fod o ddifrif am eiliad, hyd yn oed wedyn, yr hyn sydd o’n blaenau yw Brexit, achos o uchelgyhuddo yn yr Unol Daleithiau, cyllidebau Cymru a’r Deyrnas Unedig a llawer mwy.

Fodd bynnag, rydw i’n hyderus bod ein rhaglen ddiwygio uchelgeisiol a chyfunol yn cyflawni ar hyn o bryd ac yn sicrhau dyfodol llwyddiannus,

•       O leihau maint dosbarthiadau babanod,

•       I ddiwygio pob agwedd ar hyfforddiant a datblygiad athrawon; a

•       Chyflwyno system gymorth i fyfyrwyr sy’n deg ac yn  flaengar, ac yn unigryw yn Ewrop.

Ond wrth gwrs, dylai meddwl am y dyfodol yn y tymor canolig a’r tymor hir fod yn ail natur i addysgwyr.

A hyd yn oed i’r rhai sy’n ymuno â’r sector o’r byd gwleidyddol a llywodraeth.

Efallai fod llawer ohonoch chi’n gwybod fy mod i wedi astudio hanes a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau.

Fe fyddwch chi’n gwybod hefyd felly, yn ystod fy mlwyddyn yn astudio yn Missouri, fy mod i wedi gwirfoddoli ar gyfer ymgyrch lywyddol gyntaf Clinton (fel mae’n digwydd yr ymgeisydd democrataidd olaf i ennill yn y dalaith honno, ond dwi ddim digon beiddgar i feddwl mai fy ymdrechion i wnaeth y gwahaniaeth…!)

Y gân enwog a ddefnyddiodd Clinton ar gyfer ei ymgyrch oedd  “Don’t Stop Thinking About Tomorrow” gan Fleetwood Mac.

Roedd yn llawn hyder, uchelgais ac ymrwymiad ar gyfer y dyfodol – ac yn ein hatgoffa bod y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud nawr yn ymwneud â symud ymlaen, yn hytrach na throi’r cloc yn ôl.

Yn Cenhadaeth ein Cenedl ar gyfer diwygio addysg yng Nghymru, rydyn ni’n meddwl am yfory drwy’r amser.

A’r llwybr tuag at 2022 a thu hwnt.

Ond mae’r llwybr eisoes yn gyfarwydd ers blynyddoedd - ac yn llwybr rydyn ni wedi ei gerdded yn ddiwyd ac yn ddyfal gan gredu

•       Nad yw cael system addysg gyhoeddus gynhwysfawr yn eich rhwystro rhag cyfuno tegwch a rhagoriaeth;

•       Bod gan bob disgybl yr hawl i gwricwlwm eang a chytbwys sy’n cyfuno gwybodaeth a sgiliau;

•       A gyda’n gilydd, credwn mewn arweinyddiaeth gref, dysgu proffesiynol gydol oes a chodi safonau i bawb.

Felly, er bod amser yn brin heno, gallaf eich arwain ar hyd y llwybr at y cwricwlwm newydd, gan geisio egluro:

•       Pam nawr;

•       Pwy sy’n cymryd rhan; a

•       Beth mae’r cwricwlwm newydd, a gweddill diwygiadau Cenhadaeth ein Cenedl, yn ei olygu i ddisgyblion, rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Felly, gan ymateb i bob un yn ei dro - pam nawr ?

Y rheswm am hynny yw – ein bod wrthi’n gosod y sylfeini cywir yn eu lle – a dyna’r unig reswm.

Mae’r gwaith a wnaethom ni ddoe, a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud heddiw, yn sicrhau bod yna gyfle i fod yn fwy llwyddiannus fory.

•       Eleni, am y tro cyntaf erioed, fe wnaethom ni berfformio’n well na Lloegr a Gogledd Iwerddon o ran canlyniadau Safon Uwch;

•       Mae nifer y myfyrwyr rhan-amser ac ôl-radd sy’n mynd ymlaen i addysg uwch yng Nghymru’n uwch nag y maen nhw  erioed wedi bod, gan sicrhau symudedd cymdeithasol a ffyniant economaidd; a

•       Dros y 3 blynedd diwethaf, bu cynnydd o 50% yn y nifer a oedd yn astudio gwyddoniaeth ar lefel TGAU, ac roedd mwy yn cael A* ac A – C.

A pham mae’r llwyddiannau’n bwysig?

Maen nhw nid yn unig yn trawsnewid yn sylfaenol gyfleoedd bywyd ac uchelgeisiau pobl ifanc o bob cefndir yng Nghymru a’u teuluoedd,

Ond maen nhw hefyd yn llwyddiannau sy’n dangos, oherwydd ein bod yn codi safonau i bawb, ac yn darparu system y gall y cyhoedd fod yn hyderus ynddi, ein bod yn fwy na pharod i symud ymlaen gyda chwricwlwm newydd.

Mae hyn yn golygu:

•       Symud oddi wrth bynciau cul i chwe maes dysgu a phrofiad ehangach;

•       Cwricwlwm sy’n seiliedig ar ddibenion - pedwar diben sy’n egluro’r mathau o ddinasyddion rydyn ni eu hangen ac yn eu dymuno;

•       Ffocws gwirioneddol ar dri sgíl statudol craidd – llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.

A bod yn gwbl onest - dydw i ddim yn credu y gallem ni gyflawni’r rhain drwy ddilyn trywydd hollol newydd, heb fod wedi gwneud rhywfaint o waith paratoi a’n bod wedi teithio sawl milltir yn barod.

Dyna pam y penderfynais i sicrhau bod digon o amser yn cael ei roi i’r gwaith o baratoi a chyflwyno’r cwricwlwm - a’i gyflwyno fesul grŵp blwyddyn o 2022.

Roedd angen i’r hanfodion fod yn eu lle.

A phenderfynais wrando ar yr hyn yr oedd y proffesiwn yn ei ddweud am y canlynol:

•       cael mwy o amser ac adnoddau ar gyfer dysgu proffesiynol,

•       mwy o amser i ddatblygu’r cwricwlwm,

•       Ac osgoi’r cynnwrf mawr wrth i bawb newid i gwricwlwm newydd dros nos.

Ond gadewch i mi fod yn glir.

Dyma’r amser am gwricwlwm sydd, am y tro cyntaf erioed, wedi’i lunio’n gyfan gwbl yng Nghymru.

Dyw cwricwlwm sydd wedi’i greu gan Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan ar ddiwedd yr wythdegau ddim yn addas i’r diben i’r Gymru sydd ohoni, ac i ddysgwyr y dyfodol.

Dyw cwricwlwm a gafodd ei lunio cyn i wal Berlin gael ei chwalu’n deilchion ddim yn rhoi’r sylfaen gref rydyn ni ei hangen er mwyn cael cwricwlwm sy’n gyfoeth o wybodaeth, yn llawn sgiliau y gellir eu haddasu ac sy’n cynnwys elfennau entrepreneuraidd ac sy’n addas ar gyfer dinasyddion Cymru a’r byd yn yr unfed ganrif ar hugain.

Felly, pwy sydd ar y siwrne hon?

Yn genedlaethol – ac ar lefel ysgol – bydd y cwricwlwm yn paratoi dysgwyr gyda’r cyfuniad hwnnw o wybodaeth, profiadau a sgiliau sy’n eu grymuso fel dinasyddion ond hefyd yn eu grymuso fel gweithwyr cyflogedig a chyflogwyr y dyfodol.

Cafodd cynllun y cwricwlwm newydd ei baratoi diolch i rwydwaith o athrawon, a thrwy weithio mewn partneriaeth yn genedlaethol ag arbenigwyr addysgol, y Llywodraeth, consortia addysg rhanbarthol, prifysgolion, busnesau a llawer mwy.

Ac mae llawer o gymrodorion y Gymdeithas Ddysgedig wedi cyfrannu at y broses - cydweithwyr fel Tom (Crick) sydd yma heno a rhai eraill sy’n rhan o Feysydd Dysgu a Phrofiad eraill.

Yn aml iawn byddwch chi’n clywed Alun Wyn Jones neu Gareth Bale yn dweud nad ydyn nhw’n dîm cenedlaethol o 15 neu 11 o chwaraewyr ond yn un o 3.2 miliwn.

Rydw i’n teimlo union yr un fath am y cwricwlwm a’n diwygiadau addysg ehangach.

Dydw i ddim yn galw ein cynllun gweithredu yn genhadaeth ein cenedl ar ddamwain.

Mae’n gyfuniad o arbenigedd, profiad ac egni – mae’n ein llywio ymlaen, mae’n dysgu gan y gorau mewn mannau eraill a’i addasu i ddisgyblion ac athrawon yma yng Nghymru.

Felly, ydyn, rydyn ni ar y llwybr hwnnw, ond rydyn ni’n teithio gyda’n gilydd, a chredaf ein bod yn dilyn yr un map.

Wrth gwrs, cychwynnodd y broses gyda gwaith Graham, a fu’n arwain sgwrs genedlaethol am y cwricwlwm.

Ond, a gobeithio bydd Graham yn maddau i mi yn y fan hyn, nid Cwricwlwm Donaldson yw e bellach.

Ac nid cwricwlwm Kirsty Williams yw e chwaith.

Cwricwlwm ar gyfer Cymru yw e  – Cwricwlwm Cymru, gan Gymru.

Gan barhau drwy’r canllawiau drafft a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ac yn awr drwy’r adborth a’r mireinio ar gyfer Ionawr 2020, a’r gwaith a fydd yn digwydd mewn ysgolion ac ar draws ysgolion cyn 2022:

Dydyn ni ddim wedi ofni mentro i;

  • Fynegi barn;
  • Cydweithio;
  • Trafod cysyniadau a’r hyn sy’n bwysig; a
  • Dysgu o brofiad pobl eraill ar hyd a lled y byd.

Mae’r nifer a gyfrannodd dros yr haf wedi bod yn galonogol iawn i mi.

Roedd 6,000 a mwy o aelodau’r gweithlu addysg wedi mynychu digwyddiadau,

Cafwyd 62 o sioeau teithiol Cenhadaeth ein Cenedl,

a 120 o ddigwyddiadau pellach a gynhaliwyd gan y consortia addysg rhanbarthol,

ac fe gafodd ein tudalen Hwb, sy’n ymwneud â’r cwricwlwm, chwarter miliwn a mwy o ymweliadau.

Felly beth fydd hyn yn ei olygu’n ymarferol?

Yn dilyn adborth dros yr haf, mae’r gwaith mireinio ar y gweill ar hyn o bryd.

Bydd fframwaith y cwricwlwm, wedi’i ddiwygio a’i fireinio, yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr.

Rydyn ni wedi nodi’r adborth bod angen i’r canllawiau newydd fod yn gliriach ac yn haws i athrawon eu defnyddio.

Mae manylion pob Maes Dysgu a Phrofiad yn cael eu mireinio – o fewn grwpiau arbenigol ac ar eu traws.

Rydyn ni’n diweddaru’r Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig hefyd.

Mae’r rhain yn bodoli er mwyn casglu’r ‘syniadau mawr’ a’r cysyniadau ym mhob maes dysgu a phrofiad.

Ond hoffwn bwysleisio, er y bydd y fframwaith yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr ar ôl cael ei ddiwygio a’i fireinio, nid dyma ddiwedd y broses o bell ffordd.

O’r adeg honno hyd at y gwaith o’i gyflwyno ym mis Medi 2022, bydd yn esblygu ac yn ymateb, wrth i athrawon unigol ac ysgolion ddatblygu eu hymarfer a’u haddysgeg eu hunain.

Bydd academyddion, athrawon, arbenigwyr ac eraill yn manteisio ar y cyfle i lunio adnoddau newydd i gefnogi’r cwricwlwm a’i elfennau unigol.

Ac i wneud hynny bydd angen i chi sydd yma heno a’ch rhwydweithiau ymgysylltu â’r broses.

Ac wrth gwrs, gwn fod gan bob un ohonoch chi ddiddordeb yn nyfodol cymwysterau.

Yn ystod yr Hydref, bydd Cymwysterau Cymru’n ymgynghori ar effaith y diwygiadau ar gymwysterau TGAU ac ar ba gymwysterau y mae pobl ifanc 16 yn eu dilyn. Cofiwch ymuno yn y sgwrs honno. 

Cyfeiriais yn gynharach at y sylfeini sydd yn eu lle i gyflwyno ein cwricwlwm newydd - ein system addysg newydd.

Mae pob un o’m diwygiadau’n canolbwyntio ar dri uchelgais:

•       Codi safonau;

•       Lleihau’r bwlch cyrhaeddiad

•       Darparu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol ac yn ennyn hyder y cyhoedd.

Felly, ar draws ein cynllun gweithredu, ac wrth ddarparu’r cwricwlwm newydd, rydyn ni am gael:

•       Proffesiwn o ansawdd uchel – sy’n cael eu cefnogi gan y  buddsoddiad mwyaf mewn athrawon ers datganoli;

•       Arweinwyr ysbrydoledig – gan ddarparu cymorth, hyfforddiant a rhwydwaith cenedlaethol pwrpasol am y tro cyntaf ar gyfer penaethiaid a darpar benaethiaid;

•       Lles, tegwch a rhagoriaeth – gan gynyddu’n sylweddol y buddsoddiad mewn disgyblion o’n cefndiroedd mwyaf difreintiedig er mwyn rhoi’r cychwyn gorau iddyn nhw; ac

•       Atebolrwydd cadarn – gan fesur cynnydd pob disgybl unigol, a rhoi mwy o annibyniaeth i arweinwyr ysgolion.

Felly, gobeithio’n wir eich bod yn sylweddoli bod llawer iawn o waith wedi’i wneud, ond mae llawer i’w wneud eto.

Ac allwn ni ddim - chawn ni ddim - rhoi’r gorau i feddwl am y dyfodol.

Mae sicrhau dyfodol llwyddiannus o Fôn i Fynwy i’n pobl ifanc a fydd yn siapio’r yfory, yn ein dwylo ni.

Mae cenhadaeth ein cenedl yn perthyn i bob un ohonom ni.

Pob rhiant a gofalwr;

Pob athro a staff cymorth;

Pawb sy’n elwa o gael gweithlu entrepreneuraidd ac addysgedig i’r dyfodol.

Dyw hi ddim bob amser yn hawdd symud ymlaen gyda’n gilydd, gan adeiladu cwricwlwm a system sy’n seiliedig ar gydweithredu a phartneriaeth.

Ond ys dywed yr hen ddihareb:

“Os ydych chi am fynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun. Os ydych chi am fynd ymhell, ewch gyda’ch gilydd.”

Rydyn ni’n symud yn weddol gyflym, ond rydyn ni’n cymryd ein hamser hefyd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gydweithio a’n bod yn

Meithrin diwylliant o gydberchnogaeth;

O sicrhau safonau uchel i bawb;

O gyfuno gwybodaeth, sgiliau a phrofiad;

O beidio â thanbrisio unrhyw un nac unrhyw le; ac o

Sicrhau bod ein system addysg yn perthyn i bob dinesydd yng Nghymru.

Diolch o galon am wrando.

Diolch yn fawr.