Neidio i'r prif gynnwy

Mae saith o fusnesau o Gymru sydd ag arbenigedd sy’n amrywio o faes peirianneg a gofal cleifion i chwaraeon ar lawr gwlad yn mynd i UDA yr wythnos hon fel rhan o daith fasnach dan arweiniad Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cynrychiolwyr yn mynd i Ogledd Carolina a De Carolina, lle byddant yn cwrdd â busnesau a chwsmeriaid a phartneriaid newydd posibl. Mae'n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau Cymru i dyfu yng Nghymru a gwerthu i'r byd, fel rhan o'i Chynllun Gweithredu ar gyfer Allforio.

Dyma'r tro cyntaf y bydd cynrychiolwyr, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, wedi ymweld â'r Carolinas sydd â phoblogaeth gyfunol o 15 miliwn.

UDA yw prif farchnad allforio Cymru ar gyfer nwyddau, gan gyfrif am 15.7% (£2.9bn) o gyfanswm allforion nwyddau. Dros y flwyddyn ddiwethaf, cynyddodd gwerth allforion nwyddau Cymru i'r UDA 69.6% (£1.2 biliwn). Mae'r De yn rhanbarth sy'n tyfu'n gyflym yn UDA gyda chyfleoedd economaidd amrywiol. Yn sgil y cryfder o ran diwydiannau, costau cystadleuol wrth wneud busnes, ac amgylchedd sydd o blaid busnes, mae'r rhanbarth yn cynnig mynedfa i fusnesau Cymru sydd â diddordeb mewn allforio i UDA.

Mae'r daith yn rhan o gyfres o weithgareddau sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn Cwpan y Byd FIFA yn Qatar, lle bydd gêm gyntaf Cymru yn erbyn UDA.

I fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn, mae'r cynrychiolwyr o fusnesau'n cael eu cefnogi gan Swyddfa Llywodraeth Cymru yn Atlanta, Georgia ochr yn ochr â phartneriaid lleol.

Bydd y cynrychiolwyr yn cynnwys Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) a fydd yn mynd ati i gwrdd â phartneriaid ym maes addysg hyfforddi ar gyfer eu pecynnau dysgu ar-lein. Byddant yn cynnal cyfarfod briffio dros frecwast ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a fydd yn cynnwys anerchiad rhithiol gan Reolwr Cymru, Rob Page. Bydd digwyddiadau busnes i gysylltu â rhwydweithiau lleol yn cael eu cynnal yn Greenville, De Carolina a Charlotte, Gogledd Carolina.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru:

“Mae UDA yn farchnad bwysig i Gymru ac rwy'n falch y gall Llywodraeth Cymru gefnogi'r cynrychiolwyr hyn o dalent busnes Cymru ar ein hymweliad masnach cyntaf erioed â'r Carolinas.

“Mae hwn yn gyfle gwych i'n busnesau archwilio'r farchnad a meithrin cysylltiadau gyda phartneriaid rhyngwladol. Fel rhan o hyn, rwy'n awyddus ein bod yn manteisio ar gyfleoedd yn ystod y cyfnod cyn Cwpan y Byd FIFA, sydd â'r potensial i godi proffil Cymru mewn marchnadoedd allweddol, fel UDA.

Mae'r daith, sy'n rhan o raglen ehangach o deithiau masnach a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, yn dangos ein penderfyniad i gefnogi busnesau Cymru i dyfu yng Nghymru, a gwerthu i'r byd. Mae'n sail i'n huchelgais clir i dyfu allforion Cymru wrth i ni gyflawni ein Cynllun Gweithredu ar gyfer Allforio.”

Dywedodd Pennaeth Datblygu Busnes Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Nick Davidson:

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o Daith Fasnach UDA Llywodraeth Cymru i Ogledd Carolina a De Carolina. Mae rhoi Cymru ar lwyfan y byd yn ystod blwyddyn Cwpan y Byd yn amcan cyffredin, ac mae’n gyfle gwych i fyd busnes a chwaraeon greu partneriaethau pwerus. 

Mae gennym enw da yn fyd-eang o ran hyfforddi ac rydym wedi datblygu system addysg o'r radd flaenaf ar gyfer hyfforddwyr, gan ddechrau gyda'r Dystysgrif Cyflwyniad i Hyfforddi Pêl-droed hyd at Drwydded Broffesiynol UEFA. Mae ein cyn-fyfyrwyr byd-eang yn cynnwys Mikel Arteta, Yaya Touré, Thierry Henry a Tim Cahill ac rydym yn gobeithio y bydd y daith hon yn ein galluogi i dyfu pêl-droed ar lawr gwlad ledled y byd.”