Neidio i'r prif gynnwy

Mae gweithwyr llawrydd yn y sectorau creadigol a diwylliannol yng Nghymru’n bellach yn gallu ymgeisio am eu cyfran o gronfa gwerth £7 miliwn sy’n targedu’n arbennig y rheini yn y sector llawrydd sydd wedi’u taro galetaf gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gronfa yn agor am 10:00 heddiw ar gyfer ceisiadau ac yn cael ei gynnal dros ddau gyfnod. Bydd unigolion yn cael ymgeisio am grant o £2,500 a gofynnir iddynt gadarnhau eu bod yn gymwys cyn dechrau’r broses ymgeisio trwy fynd i wefan Busnes Cymru.

Mae’r Gronfa’n agored i weithwyr llawrydd sy’n gweithio yn sectorau’r celfyddydau, y diwydiannau creadigol, digwyddiadau celf a threftadaeth, diwylliant a threftadaeth. Bydd eu gwaith yn esgor ar ganlyniadau creadigol/diwylliannol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Mae’r sector llawrydd yn rhan mor bwysig o economi Cymru – gyda nifer arwyddocaol o weithwyr llawrydd yn gweithio yn y sectorau diwylliannol a chreadigol. Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu helpu i gynnal gweithwyr llawrydd dros y cyfnod anodd hwn. Mae’r cymorth yn cydnabod cyfraniad yr unigolion hyn i’r economi, ein cymunedau a’r sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o help i’r sector llawrydd hefyd trwy weithio ar adduned i weithwyr llawrydd, y cyntaf o’i fath yn y DU. Wrth ddatblygu cynlluniau a'n dyheadau ar gyfer adferiad, mae'r adduned llawrydd yn ailddatgan ymrwymiad Cymru i gynnwys y sector creadigol wrth ail-adeiladu Cymru well.

Yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae disgwyl i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gyfrannu tuag at ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, yn ogystal â meddwl am effeithiau tymor hir eu penderfyniadau a gweithio’n well â phobl, cymunedau ac â’i gilydd. Mae’r adduned y gweithwyr llawrydd yn gyfle i weithwyr llawrydd creadigol a chyrff cyhoeddus lunio partneriaeth i gyflawni hyn ac i weithwyr llawrydd ddefnyddio’u sgiliau i ddod â chreadigedd a dychymyg i bob agwedd ar fywyd cyhoeddus.

Galwodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, am gymorth i weithwyr llawrydd creadigol yn yr haf. Dywedodd y gallai'r gronfa fod yn sail i gynlluniau yn y dyfodol lle mae'r llywodraeth yn darparu rhwyd ddiogelwch ar incwm gydag opsiwn i unigolion gymryd rhan mewn gwaith yn y gymuned. Dywedodd:

"Mae hwn yn gyfle mawr i ddiwylliant chwarae rhan fawr yn adferiad Covid Cymru. Bydd yr addewid dewisol i weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus yn caniatáu i greadigol helpu i gynnwys celf a diwylliant ym mhopeth o ysbytai i ganol trefi, gan wella'r ffordd rydym i gyd yn byw. Gobeithio mai dyma ddechrau ein bod yn symud tuag at system lle mae llawer mwy o werth yn cael ei roi ar ddiwylliant a chreadigrwydd - gan gefnogi'r rhai sy'n gwneud y gwaith hanfodol hwnnw'n well.

Gallai hynny olygu cyd-greu atebion gyda’r gymuned, cyfrannu at gynlluniau datblygu lleol neu ail gynllunio canol trefi a dinasoedd neu cynnig syniadau newydd ar gyfer prosiectau cyfalaf, mewn pob maes fel diwylliant, iechyd, datblygu cynaliadwy a’r amgylchedd adeiledig ayb. 

Caiff manylion adduned y gweithwyr llawrydd ei ddylunio dros y misoedd i ddod ar y cyd â gweithwyr llawrydd ac undebau. Bydd yr adduned yn rhan wirfoddol o’r cymorth ac ni fydd yn amod o’r grant. Bydd cymorth a hyfforddiant ar gael i weithwyr llawrydd sydd am gymryd rhan ac fe fydd taliad am unrhyw waith a gynhelir fel rhan o'r Adduned.

Astudiaeth achos

Melin Edomwonyi sy’n cynnal ac yn trefnu CreativeMornings, Caerdydd.

“Mae gweithwyr llawrydd yn hen gyfarwydd â phrofi dyddiau da a dyddiau du ond mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anghyffredin iawn.

Mae chwe mis wedi mynd heibio ers dechrau’r cyfnod clo ac rwy’n gweld cymuned sydd o dan bwysau mawr, er ei bod yn gwneud ei gorau i addasu a bod yn bositif.

Mae llawer o bethau o blaid bod yn hunangyflogedig yn y meysydd creadigol, ond mae’r risgiau’n fawr hefyd, ac mae’r pandemig wedi dangos yn glir yr anawsterau sy’n wynebu gweithwyr llawrydd nad oes ganddyn nhw’r un hawl â phobl gyflogedig i fudd-daliadau, tâl salwch ac ati.

Cyfres o ddarlithoedd amser brecwast yw CreativeMornings, Caerdydd ar gyfer ‘pobl greadigol’ – llawer ohonynt yn ennill eu bara menyn yn y diwydiannau creadigol.

Rydyn ni fel arfer yn cynnal ein darlithoedd mewn canolfannau lleol diddorol, lleoedd y gall pobl greadigol weithio, cyfarfod a chydweithio ynddyn nhw.  Ond am y tro, rydyn ni’n gweithio ar-lein.

Er bod hynny’n iawn, rwy’n gweld eisiau gweld wynebau pawb, cael disgled a chwtsh gyda phawb, a chodi pawen lawen.

Mae gweithwyr llawrydd yn aml yn dibynnu ar gydweithio ag eraill, ac rydym wedi gorfod byw heb y cysylltiadau corfforol hynny.

Mae rhai o’n haelodau heb gael eu talu am chwe mis a mwy.

Collodd llawer ohonyn nhw eu gwaith ar ddechrau’r cyfnod clo a dŷn nhw ddim wedi gallu gweithio ers hynny. Yn aml, y gweithwyr llawrydd oedd y cyntaf i fynd. Cafodd llawer o’n haelodau e-byst neu alwadau ffôn i ddweud nad oedd gwaith iddyn nhw mwyach a ddim yn y dyfodol rhagweladwy chwaith. Mae cyllidebau wedi crebachu, prosiectau wedi’u canslo, contractau wedi’u colli a chyfraddau wedi’u torri. Mae pris emosiynol a meddyliol mawr i hyn.

Yn y gorffennol, roedd yn haws dygymod ag ambell glatsien. Roedd wastad modd defnyddio’ch talent i gael gig arall, ond beth os nad oes gigs? Dyna sy’ fwya’ dychrynllyd.

Ond rwy’n falch o’r gymuned lawrydd, nawr yn fwy nag erioed.

Er y problemau difrifol, mae pobl wedi dangos gwytnwch gan addasu ac wrth gwrs, ffeindio ffyrdd creadigol i gadw dau ben llinyn ynghyd, gan helpu pobl eraill a’u cymunedau.

Mae llawer o bobl lawrydd wedi cynnig eu gwasanaethau am ddim, gan gefnogi mentrau cymunedol, cael hyd i amser i roi help ymarferol i achosion sy’n agos at ein calonnau.

Mae gan bobl greadigol gymaint i’w gynnig. Mae ganddyn nhw angerdd, cysylltiadau, ffyrdd newydd o feddwl, ffyrdd creadigol o ddatrys problemau.

Fel y gweddill ohonon ni, mae’r misoedd o stres ac ansicrwydd wedi bod yn dreth ar bobl greadigol hefyd. Mae’n gallu bod yn anodd cael yr egni i greu syniadau newydd os nad ydych chi’n gwybod o ble cewch chi’r arian i dalu’r rhent.

Mae creadigedd yn hanfodol a rhaid rhoi lle iddo. Mae angen cyfle arno a dewrder.

Gall cymorth ariannol dros y cyfnod hwn fod yn achubiaeth i gymaint o bobl i barhau i wneud y gwaith disglair sy’n cyfoethogi bywyd pob un ohonom.