Mae cronfa gwerth £3 miliwn sy’n cael ei threialu gan Lywodraeth Cymru yng nghanol pedair o drefi yn y gogledd i annog entrepreneuriaid i sefydlu yno bellach ar agor ar gyfer mynegi diddordeb. Bydd y gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau yr wythnos nesaf.
Bydd y gronfa yn cynorthwyo entrepreneuriaid i sefydlu busnesau ym Mangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam. Bydd yr arian yn gyfuniad o gyllid grant a benthyciadau i helpu entrepreneuriaid sy'n dechrau arni.
Nod y cynllun peilot yw annog entrepreneuriaid gan helpu hefyd i adfywio canol trefi sydd wedi cael eu taro'n galed yn ystod y pandemig. Bydd y cynllun yn para am flwyddyn i ddechrau.
Datblygwyd yr elfen fenthyciadau gyda Banc Datblygu Cymru ac fe'i gweithredir ganddo. Cynigir benthyciadau o £1,000 hyd at uchafswm o £50,000.
Bydd y gronfa'n agor ar gyfer ceisiadau o 21 Mehefin.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio'n ddifrifol ar ganol ein trefi a nod y prosiect peilot hwn yw annog a chefnogi busnesau newydd yng nghanol pedair o drefi yn y gogledd. Bydd y gronfa'n cymell entrepreneuriaid ac yn rhoi help llaw iddynt i sefydlu busnesau yno.
“Y nod yw nid yn unig cynyddu busnesau yng nghanol y trefi hynny ond hefyd cefnogi busnesau newydd.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru:
“Mae'r flwyddyn a hanner ddiwethaf wedi bod yn gyfnod eithriadol o heriol i fusnesau a chanol ein trefi. Mae potensial mawr yng nghanol ein trefi, ac rydym am weld hynny'n cael ei wireddu. Nod y prosiect peilot hwn yw helpu i annog busnesau newydd i ddefnyddio lle yng nghanol pedair o drefi ledled y gogledd.
“Bydd prosiectau peilot fel hyn yn helpu canol ein trefi a'n cymunedau i ddelio ag effaith y pandemig.
I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Canol Trefi ewch i: