Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at gyllid i wneud arolygon diogelwch adeiladau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn rhoi’r cyfle i Bersonau Cyfrifol gael  cymorth i gynnal arolygon sy’n gysylltiedig â diogelwch adeiladau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi caffael ymgynghorydd i wneud y gwaith, gan sicrhau dull gweithredu cyson ac o ansawdd uchel i arolygu adeiladau.

Bydd y gwaith hwn yn ein galluogi i:

  • ddeall maint y broblem yn yr adeilad
  • rhoi cyngor cytbwys ar yr opsiynau ar gyfer unrhyw gymorth i gyweirio’r adeilad
  • blaenoriaethu’r camau nesaf ar sail risg
  • cynllunio a chefnogi gwaith i fynd i'r afael a phroblemau capasiti yn y sector
  • rhoi eglurder i breswylwyr a pherchenogion adeiladau

Cam cyntaf y broses hon yw cwblhau ffurflen Mynegi Diddordeb sy’n:

  • rhoi cyfle i ymgeiswyr gyflwyno gwybodaeth am eu hadeilad
  • ein helpu i ddeall maint y gwaith adeiladu sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau canolig ac uchel iawn

Cyn ichi gwblhau’r ffurflen mynegi diddordeb, dylech ddarllen y canllawiau.

Dim ond person cyfrifol a awdurdodir ddylai gwblhau ffurflen dangos diddordeb. Ni fydd ffurflenni wedi eu llenwi gan drigolion neu ddeiliaid les yn cael eu hystyried.