Mae'r canllawiau'n rhoi gwybodaeth am Gronfa Diogelwch Adeiladu Cymru ac adfer materion diogelwch tân mewn adeiladau preswyl 11 metr a throsodd.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae Diogelu Adeiladau rhag Tân yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Bydd ein Rhaglen Diogelwch Adeiladu yn sicrhau bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi.
Mae'r canllaw hwn yn ymwneud ag adeiladau preswyl 11 metr neu fwy yng Nghymru, lle mae llwybr bellach wedi'i greu i unioni problemau diogelwch tân, sy'n ymwneud ag adeiladwaith yr adeilad, ym mhob adeilad Ni fydd costau'r gwaith hwn yn cael eu trosglwyddo i'r lesddalwyr.
Hynny p'un a yw'r adeilad yn gyfrifoldeb partneriaid yn y sector cymdeithasol, datblygwyr neu'n adeiladau amddifad lle nad oes datblygwr ar gael i ymgymryd â'r gwaith adfer.
Mae materion diogelwch tân sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw neu weithredu gan y lesddeiliad yn parhau'n gyfrifoldeb y lesddeiliaid.
Lesddeiliaid cymwys
Yng Nghymru, nid oes lesddeiliad 'cymwys' neu 'anghymwys', gan fod cymorth ar gael ar gyfer pob lesddeiliad. Felly, nid oes gofyn darparu tystysgrif yn cadarnhau eu bod nhw na'u heiddo yn gymwys i gael cymorth.
Adeiladau syn dod o dan Gontract Datblygwr
Mae datblygwyr wedi ymrwymo i gytundeb sy'n eu hymrwymo i fynd i'r afael â materion diogelwch tân sy'n ymwneud ag adeiladwaith yr adeilad.
Mae gan y datblygwyr hyn gynlluniau i wneud y gwaith heb unrhyw gost i'r lesddeiliad.
Adeiladau amddifad ac adeiladau nad ydynt yn dod o dan Gontract Datblygwr
Adeiladau amddifad yw'r adeiladau hynny nad oes ganddynt ddatblygwr hysbys, mae'r datblygwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu, neu mae'r adeilad dros 30 oed. Bydd yr adeiladau hyn yn cael eu cefnogi drwy Gronfa Diogelwch Adeiladu Cymru.
Ar gyfer adeiladau a adeiladwyd gan ddatblygwyr nad ydynt wedi llofnodi Contract y Datblygwr, byddwn yn cefnogi'r cwmnïau hynny nad ydynt yn gallu ysgwyddo costau llawn y gwaith adfer, trwy Gronfa Diogelwch Adeiladu Cymru, tra'n sicrhau bod y rhai sy'n gallu talu, yn talu.
Bydd hyn yn diogelu'r buddion cymdeithasol ac economaidd y mae'r datblygwyr hyn yn eu cynnig i'r cymunedau lle maent yn gweithio.
Adeiladau nad ydynt wedi’u cwmpasu
Ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau adfer ar gyfer yr adeiladau hyn.
Mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru wedi nodi bod yr adeiladau hyn yn llai nag 11 metr o uchder, yn ôl y diffiniad yn Rhan B o’r Rheoliadau Adeiladu yng Nghymru.
O'r herwydd, maent y tu allan i gwmpas y cynlluniau adfer presennol.