Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad interim hwn yn canolbwyntio ar effaith Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a diwygiadau posibl i’r cynllun hwnnw.

Nod y diwygiadau yw cynnal yn fras y lefel o gymorth a ddarperir i ddinasyddion yng Nghymru, a’r nifer sy’n cael cymorth wrth i aelwydydd symud i Gredyd Cynhwysol.  

Ar gyfer aelwydydd, gallai symud i Gredyd Cynhwysol gael effaith sylweddol ar y gostyngiadau’r dreth gyngor a ddyfernir iddynt. Y gwahaniaethau wrth asesu cymorth o dan Gredyd Cynhwysol ac o dan y systemau budd-daliadau etifeddol sy’n bennaf gyfrifol am hyn. Nid yw’r gwahaniaethau yma yn effeithio ar y rheini sy’n cael y dyfarniadau mwyaf posibl o ran gostyngiadau’r dreth gyngor sydd heb incwm – maen nhw’n dal i gael eu dyfarniadau ar sail 100% o atebolrwydd i dalu’r dreth gyngor. Fodd bynnag, i aelwydydd eraill, gall symud i Gredyd Cynhwysol arwain at newidiadau sylweddol o ran gostyngiadau’r dreth gyngor. 

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif, ar gyfartaledd, bydd gostyngiadau’r dreth gyngor ar gyfer aelwydydd cyflogedig sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn lleihau o 12% a bydd aelwydydd hunangyflogedig yn gweld lleihad o 80% yn y cymorth a dderbyniant.

Amcangyfrifir y bydd aelwydydd sy’n gweithio sy’n derbyn Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliadau Annibyniaeth Personol (PIP) sy’n cael eu symud i Gredyd Cynhwysol yn gweld gostyngiad o 22%, ar gyfartaledd, mewn cymorth treth gyngor oherwydd bod premiymau anabledd yn cael eu dileu.  

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried diwygio’r Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor presennol. Er mwyn llywio dyluniad y cynllun, mae’r ymchwil wedi dadansoddi effaith chwe gwahanol ddiwygiad i’r cynllun. Cafodd y chwe model eu dewis i fodloni un neu ragor o amcanion Llywodraeth Cymru. Sicrhau tegwch o ran cymorth a chynnal y llwyth achosion o ran gostyngiadau’r dreth gyngor ar gyfer aelwydydd incwm isel yw’r amcanion. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried canfyddiadau’r model hwn er mwyn dylunio tri model arall i’w cynnwys yn yr adroddiad ymchwil terfynol, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2020.

Adroddiadau

Deall effaith credyd cynhwysol ar gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor ac ôl-ddyledion rhent yng nghymru: adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

John Broomfield

Rhif ffôn: 0300 025 0811

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.