Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai pobl ac nid rheolau sydd wrth wraidd ymateb Cymru i bandemig y coronafeirws, wrth iddo gyhoeddi’r mesurau newydd a fydd ar waith yng Nghymru ar ôl y cyfnod atal byr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd set newydd a symlach o reolau cenedlaethol yn dod i rym unwaith y daw cyfnod atal byr Cymru i ben am 00:01 ddydd Llun 9 Tachwedd.

Dywedodd y Prif Weinidog fod gan bawb yng Nghymru

“ran bwysig i’w chwarae i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws – ac mae hynny’n golygu meddwl yn ofalus am y cysylltiad rydyn ni i gyd yn ei gael â phobl eraill.

“Y mwyaf o bobl rydyn ni’n cwrdd â nhw, y mwyaf o bobl fydd mewn perygl o ddal y coronafeirws.”

Bydd y Prif Weinidog yn dechrau amlinellu’r mesurau cenedlaethol newydd heddiw. Eu nod yw diogelu iechyd pobl a darparu cymaint o ryddid â phosibl tra mae’r feirws yn dal i gylchredeg.

Mae rhai o’r mesurau newydd yn dal i gael eu cadarnhau yn dilyn y cyhoeddiad annisgwyl dros y penwythnos ynglŷn â mis o gyfyngiadau yn Lloegr, o ddydd Iau ymlaen.

Bydd y mesurau cenedlaethol newydd yn cynnwys y canlynol:

  • Bydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, yn parhau
  • Bydd y gofyniad i weithio gartref pan fo’n bosibl yn parhau
  • Ni ddylai pobl ond cwrdd â’r rhai sy’n rhan o’u ‘swigen’ yn eu cartref eu hunain a dim ond dwy aelwyd fydd yn gallu ffurfio ‘swigen’. Os bydd un person o’r naill aelwyd neu’r llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunanynysu ar unwaith.
  • Caiff hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd dan do wedi’i drefnu a hyd at 30 mewn gweithgaredd awyr agored wedi’i drefnu, cyn belled â’u bod yn dilyn yr holl fesurau o ran cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a mesurau diogelu eraill
  • Bydd pob safle, megis bwytai, caffis, tafarndai a champfeydd, a wnaeth gau yn ystod y cyfnod atal byr, yn gallu ailagor. Yn dilyn y cyhoeddiad am y cyfyngiadau yn Lloegr, mae Gweinidogion yn parhau i drafod y rheolau manwl ar gyfer ailagor â’r diwydiant lletygarwch. Mae hyn yn cynnwys rheolau ynglŷn â chwrdd mewn mannau cyhoeddus dan do
  • Fel rhan o’n hymdrech i leihau ein risgiau cymaint â phosibl, dylai pobl osgoi teithio os nad yw’n hanfodol. Ni fydd cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn Cymru ar gyfer preswylwyr, ond dylai teithio rhyngwladol fod ar gyfer rhesymau hanfodol yn unig.

Yn ogystal:

  • Bydd pob ysgol yn ailagor
  • Bydd eglwysi ac addoldai yn ailddechrau eu gwasanaethau
  • Bydd gwasanaethau awdurdodau lleol yn ailddechrau, ond yn unol ag amgylchiadau lleol
  • Bydd canolfannau cymunedol ar gael i grwpiau bach gyfarfod dan do mewn modd diogel yn ystod misoedd y gaeaf.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Mae gan bob un ohonom ran bwysig i'w chwarae er mwyn arafu lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru ac achub bywydau – allwn ni ddim gwneud hyn heb eich cymorth chi.

"Mae pawb wedi gwneud cymaint o aberth eleni yn barod. Er mwyn sicrhau nad yw’r holl waith caled yn mynd yn ofer, mae angen inni barhau i ofalu am ein gilydd a diogelu ein hunain. 

"Mae’r feirws yn ffynnu ar gysylltiad dynol. Mae cysylltiad cymdeithasol yn bwysig i bob un ohonom, ond er mwyn diogelu ein hunain a'n hanwyliaid mae angen inni feddwl yn ofalus am ein holl gyfarfodydd a'n cysylltiadau â phobl eraill a cheisio cyfyngu arnynt er mwyn lleihau’r risg o gael ein heintio.

"Yn hytrach na gofyn beth gawn ni ei wneud neu beth na chawn ni ei wneud, mae angen inni ofyn i ni'n hunain beth ddylen ni fod yn ei wneud i gadw ein  teuluoedd yn ddiogel.

"Mae rheolau a rheoliadau'r Llywodraeth ar gael i helpu. Ond y gwir gryfder sydd gennym yw ein dewisiadau ni ein hunain a'r camau a gymerwn gyda'n gilydd."