Neidio i'r prif gynnwy

Mae dadansoddi cyflogaeth yn ein helpu i ddeall ar bwy mae’r pandemig coronafeirws wedi effeithio fwyaf, a’r mesurau a roddwyd ar waith i’w atal rhag lledaenu.

Mae’r data yn archwilio nodweddion dwy garfan o bobl yng Nghymru: gweithwyr hanfodol (allweddol), a phobl sy’n gweithio mewn diwydiannau yng Nghymru yr oedd rhaid iddynt gau (fel yn Mawrth 2020).

1. Gweithwyr hanfodol (allweddol)

Mae cyflogeion y mae eu gwaith yn hanfodol i’r ymateb i’r coronafeirws yn cael eu hystyried yn weithwyr hanfodol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, athrawon, pobl sy’n gweithio mewn archfarchnadoedd a llawer o alwedigaethau eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar y mathau o waith sy'n dod o fewn y diffiniad hwn o weithwyr hanfodol sy'n gymwys i gael mynediad at ddarpariaeth gofal plant. Caiff diffiniad ehangach ei ddefnyddio ar gyfer dibenion prawf COVID-19.

Bob blwyddyn mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn casglu data am tua 18,000 o aelwydydd yng Nghymru. Rydym wedi defnyddio’r wybodaeth hon i amcangyfrif faint o weithwyr hanfodol sydd yng Nghymru a phwy sydd yn y grŵp hwn.

Mae ein dadansoddiad yn amcangyfrif

Mae tua 490,000 o weithwyr hanfodol yng Nghymru, sef tua thraean o’r gweithlu.

Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn weithwyr hanfodol na dynion. Mae  40% o’r holl fenywod sydd mewn cyflogaeth yng Nghymru yn weithwyr hanfodol, o’u cymharu â  28% o ddynion.

Mae’r grŵp oedran 50–54 yn cyfrif am y gyfran fwyaf o weithwyr hanfodol, sef 13.5%. Mae’r un grŵp oedran hwnnw’n cyfrif am 12% o’r holl gyflogeion yng Nghymru.

Er bod cyflogeion sy’n dod o gefndir ethnig gwyn yn cyfrif am bron 95% o’r holl weithwyr hanfodol yng Nghymru, mae rhai grwpiau ethnig eraill yn fwy tebygol o fod yn weithwyr hanfodol.

Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n cael eu cyfweld ar gyfer Arolwg Blynyddol y Boblogaeth yn fach iawn ar gyfer grwpiau ethnig mwy manwl, sy'n golygu bod yr amcangyfrifon hyn yn llai dibynadwy. Fodd bynnag, mae'r data sydd ar gael yn dangos bod dros hanner y cyflogeion sy’n dod o gefndir ethnig Bangladeshaidd yn weithwyr hanfodol, ac mae hanner y cyflogeion sy’n dod o gefndir ethnig du, Affricanaidd, Caribïaidd, a du Prydeinig yn gweithio mewn swyddi hanfodol. Cyflogeion sy’n dod o gefndir ethnig Pacistanaidd yw’r lleiaf tebygol o fod yn weithwyr hanfodol, sef 22% o’r garfan.

O fewn rhai grwpiau ethnig mae cyfran y menywod yn uwch byth. Roedd tua dau o bob tri (66%) o weithwyr hanfodol o gefndir Asiaidd, ar wahân i’r rhai o gefndir Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd a Tsieineaidd, yn fenywod.

Mae pobl anabl yn cyfrif am 15% o weithwyr hanfodol. Maent yn cyfrif am gyfran debyg o’r holl weithlu, ond mae gwahaniaethau rhwng y gwahanol ddiwydiannau.

2. Pobl sy’n gweithio mewn diwydiannau yr oedd rhaid iddynt gau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau fis Mawrth 2020 ar y math o fusnesau yr oedd rhaid iddynt barhau i fod ar gau yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig coronafeirws. Roedd busnesau fel tafarnau, bwytai a chanolfannau hamdden wedi eu cynnwys yn y canllawiau.

Nid yw’r data yn dangos yn bendant a yw busnes wedi cau. Er enghraifft, mae’n bosibl bod rhai bwytai wedi dewis cynnig gwasanaeth tecawê yn hytrach na chau yn gyfan gwbl. Ond gallwn roi syniad da o nifer y busnesau yr effeithiwyd arnynt, a nifer y bobl maent yn eu cyflogi. Er enghraifft:

Roedd tua 230,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn diwydiannau yr oedd rhaid iddynt gau ar ddechrau’r pandemig coronafeirws, tua 16% o’r gweithlu. Mae menywod, pobl ifanc a gweithwyr o gefndir ethnig lleiafrifol yn fwy tebygol o fod yn weithwyr a gyflogir yn y diwydiannau hynny.

Roedd mwy o fenywod (55%) na dynion (44%) yn gweithio mewn diwydiannau yr oedd rhaid iddynt gau. Mae hynny’n cyfateb i 18% o’r holl gyflogeion benywaidd o gymharu â 14% o’r holl gyflogeion gwrywaidd.

Mae gweithwyr o dan 25 mlwydd oed yn cyfrif am 12% o gyflogeion yng Nghymru, ond roeddent yn cyfrif am dros chwarter (27%) o gyflogeion mewn diwydiannau yr oedd rhaid iddynt gau. Yn benodol, mae menywod o dan 25 yn cyfrif am 12% o'r holl gyflogeion benywaidd yng Nghymru, ond am 28% o’r gweithwyr mewn diwydiannau yr oedd rhaid iddynt gau.

Mae 20% o’r holl gyflogeion o gefndir du, Asiaidd neu leiafrif ethnig arall yn gweithio mewn diwydiannau yr oedd rhaid iddynt gau, o gymharu â 15% o weithwyr o gefndir gwyn. Mae 93% o’r holl gyflogeion yn y diwydiannau hyn yn dod o gefndir gwyn (o gymharu â 95% o weithwyr ledled Cymru).

Mae 17% o'r holl gyflogeion anabl yn gweithio o fewn diwydiannau yr oedd rhaid iddynt gau, sydd ychydig yn uwch na chyfran y gweithwyr nad ydynt yn anabl (15%).

3. Dadansoddiadau eraill

Mae’r ONS wedi creu amcangyfrif o’r galwedigaethau sydd fwyaf agored i berygl posibl o COVID-19 .

Yng Nghymru, mae menywod a'r rheini o gefndir ethnig lleiafrifol yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y galwedigaethau hynny sydd â'r risg uchaf.   

Mae'r setiau data cysylltiedig hefyd yn cynnwys gwybodaeth am bobl hunangyflogedig. Yng Nghymru, mae pobl hunangyflogedig yn fwy tebygol o fod yn ddynion.

Er bod y diweddariad hwn wedi canolbwyntio ar gyflogaeth, rydym yn gwybod bod COVID-19 yn effeithio ar rai grwpiau o bobl mewn ffyrdd gwahanol. Mae ein hystadegwyr a'n hymchwilwyr hefyd wedi bod yn cefnogi grŵp ymgynghorol BAME COVID-19 a sefydlwyd i ymchwilio i'r dystiolaeth ynghylch ffactorau a allai gael effaith anghymesur ar bobl o gefndiroedd pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn ystod y pandemig. Bydd y dystiolaeth ystadegol a dynnwyd ynghyd ar gyfer y grŵp cynghori yn cael ei chyhoeddi ddydd Llun 22 Mehefin.

Wrth i’r pandemig coronafeirws fynd yn ei flaen, bydd ein hystadegwyr a’n hymchwilwyr yn parhau i ddadansoddi’r effaith ledled Cymru.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Melanie Brown
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099