Neidio i'r prif gynnwy

O heddiw ymlaen, bydd yn rhaid i fusnesau sy’n ceisio cymorth gan Lywodraeth Cymru arwyddo contract economaidd newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y Contract Economaidd yw un o bolisïau allweddol Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan Lywodraeth Cymru, a lansiwyd gan Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, ym mis Rhagfyr.

Mae’r Cynllun yn nodi dull newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu’r economi ac mae’n canolbwyntio ar adeiladu sylfeini cryf ar gyfer twf cynhwysol, sbarduno diwydiannau’r dyfodol a rhoi grym i ranbarthau.

O dan y Contract Economaidd newydd, bydd yn rhaid i fusnesau sy’n ceisio cymorth gan Lywodraeth Cymru ymrwymo i egwyddorion twf, gwaith teg, lleihau olion traed carbon, iechyd, a sgiliau a dysgu yn y gweithle.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Mae’n cytundeb economaidd newydd yn dechrau perthynas newydd a deinamig rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau, sy’n seiliedig ar egwyddor buddsoddi cyhoeddus ag iddo bwrpas cymdeithasol.

“Mae’n golygu y bydd busnesau sy’n ceisio’n cymorth yn cydweithio â ni ac yn ymrwymo i’r egwyddorion rydyn ni’n eu hyrwyddo, sef twf, gwaith teg, iechyd, sgiliau a dysgu, a datgarboneiddio.

“Mae’r contract hwn yn ymwneud ag ymgysylltu, cymhelliant a hyrwyddo arferion da; ymagwedd ‘rhywbeth er lles pawb’ sy’n annog busnesau a’r Llywodraeth i ganfod a phrofi sut y gall cwmni gyfrannu at ffyniant a llesiant ei weithwyr a’r gymuned ehangach.

“Mae llawer o gwmnïau llwyddiannus eisoes wrthi’n mabwysiadu arferion cyflogaeth a busnes cyfrifol, ac rydyn ni am annog a chefnogi busnesau eraill i wneud yr un peth.”

Cafodd y Contract Economaidd ei lansio bedwar mis yn ôl ar ôl ymgynghori â busnesau. Mae hyn wedi helpu i lunio’r ffordd y mae’r cynllun gweithredu ar yr economi yn cael ei roi ar waith ar hyn o bryd.

Mae pum Maes Gweithredu Llywodraeth Cymru, a gafodd eu llunio i ddiogelu dyfodol busnesau, hefyd wedi’u rhoi ar waith.

Mae hyn yn golygu ei bod bellach yn ofynnol i unrhyw fusnes sy’n galw am gymorth ariannol ddatblygu cynigion sy’n  cyd-fynd ag o leiaf un o’r meysydd gweithredu. Mae'r rheini’n canolbwyntio ar arloesi ac entrepreneuriaeth, ymchwil a datblygu, allforio a masnachu, swyddi a sgiliau o ansawdd uchel, a datgarboneiddio.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud y pethau a ganlyn:

  • Lansio ei Chronfa Dyfodol yr Economi sy’n ateb y galw gan fusnesau i symleiddio chwe chronfa sy’n ymwneud â’r economi, trafnidiaeth a thwristiaeth a rhai eraill maes o law. 
  • Cyhoeddi enwau aelodau'r Bwrdd Cynghori Gweinidogion newydd, dan gadeiryddiaeth Syr Adrian Webb. Bydd y Bwrdd yn helpu i lunio polisïau a rhoi cyngor allanol cryf a heriol. Bydd y Bwrdd Cynghori Gweinidogion yn disodli nifer o fyrddau, paneli a grwpiau Llywodraeth Cymru dros amser, gan symleiddio’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael cyngor allanol.
  • Sefydlu Bwrdd Cyflawni dros y Llywodraeth, dan gadeiryddiaeth Ken Skates, er mwyn sicrhau bod egwyddorion y cynllun gweithredu ar yr economi ar waith yn holl feysydd gwaith y Llywodraeth. 
Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi:

“Roedd yn dda gen i weld ymateb cadarnhaol busnesau i’n cynllun gweithredu ar yr economi, ac mae’r cyfraniad y gwnaethon nhw at ei lunio wedi creu argraff dda arna i.

“Dw i’n edrych ymlaen yn eiddgar nawr at roi’r cynllun ar waith gyda’i ffordd newydd o gydweithio â busnesau a’u cefnogi, ac o gael cyngor allanol. Nod hyn i gyd yw sicrhau twf cynhwysol, diogelu dyfodol busnesau a galluogi’n pobl a’n lleoedd i fod yn fwy cynhyrchiol.  

“Dim ond y dechrau yw heddiw a dw i’n edrych ymlaen at roi cam nesaf y cynllun ar waith, a fydd yn canolbwyntio ar ein dull newydd ar gyfer datblygu economi’r rhanbarthau ac ar weithgarwch ehangach ar draws y Llywodraeth, nes ymlaen yn y flwyddyn."

Dyma aelodau Grŵp Cynghori’r Gweinidog:
  • Adrian Webb - Cadeirydd
  • Katherine Bennett – Airbus
  • Chris Sutton – Arweinydd Gyfarwyddwr/ Prif Swyddfa JLL 
  • Monica Bradley - Purposeful Capital
  • Rachel Clacher – Moneypenny
  • Debbie Green - Prif Weithredwr, Coastal Housing Association
  • Mario Kreft - Cyfarwyddwr, Cartref Gofal Pendine Park 
  • James Davies - Cadeirydd, Industry Wales
  • Chris Nott – Uwch-bartner, Capital Law 
  • Justin Albert - Cyfarwyddwr, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.