Mae penodiad Cadeirydd a dau Gomisiynydd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi'i groesawu gan yr Arglwydd Elis Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw y gwasanaeth archifo ac archwilio cenedlaethol annibynnol unigryw i Gymru, ac mae’n ymroi i gofnodi a dehongli'n hamgylchedd hanesyddol cyfoethog mewn ffordd awdurdodol.
Rydym yn awyddus i recriwtio Cadeirydd a fydd yn gallu cynnig arweiniad strategol a meithrin perthynas gadarnhaol gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid.
Roedd y Comisiwn Brenhinol hefyd yn ceisio cryfhau ac amrywio y bwrdd, ac felly penderfynodd benodi dau Gomisiynydd newydd sydd ag arbenigedd arbennig ym mhensaernïaeth yr ugeinfed ganrif a threftadaeth forol, dau faes gwaith sy'n datblygu o fewn y Comisiwn Brenhinol.
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Daw yr Athro Edwards â chyfoeth o brofiad, gwybodaeth a sgiliau; bydd ei phenodiad hi a'r ddau Gomisiynydd newydd yn dod â budd enfawr i'r Comisiwn Brenhinol a sector yr amgylchedd hanesyddol yn ehangach yng Nghymru. Bydd y Cadeirydd newydd yn arwain grŵp ymroddedig a brwdfrydig o Gomisiynwyr, a thîm o staff ymroddedig a dawnus iawn. Dwi'n ei llongyfarch ar ei phenodiad, ac yn dymuno pob llwyddiant iddi hi a'r Comisiwn Brenhinol yn y gwaith gwerthfawr y maent yn ei wneud i ddiogelu amgylchedd hanesyddol cyfoethog ac amrywiol Cymru."
Meddai Christopher Catling, Prif Weithredwr y Comisiwn Brenhinol:
"Mae yr Athro Edwards yn cymryd drosodd fel Cadeirydd ar gyfnod cyffrous iawn i'r Comisiwn Brenhinol wrth inni gefnogi cais Diwydiant Llechi Gogledd Cymru am statws Safle Treftadaeth y Byd, gan gynnal gwaith ymchwil arloesol i effaith y newid yn yr hinsawdd ar dreftadaeth arfordirol Cymru, gan weithio gyda phobl ifanc i edrych ar syniadau cyfoes treftadaeth yn ein prosiect 'Treftadaeth Nas Cerir?' a thrafod gyda cymunedau ledled Cymru i gynnal gwaith ymchwil i hanes y rhyfel cychod-U, pryd y collodd nifer o forwyr dewr eu bywydau ar arfordir Cymru, mewn ymdrech i fwydo Prydain ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Mae ein Comisiynwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth bennu cyfeiriad strategol y Comisiwn, a rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyfraniad y tri i'n gwaith yn y dyfodol.
Penodiadau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 2019
- Yr Athro Nancy Edwards (Cadeirydd)
- Dr Hayley Roberts (Comisiynydd)
- Mr Jonathan Vining (Comisiynydd)