Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ystadegau ar bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau seneddol a llywodraeth leol fel a gofnodwyd yn y cofrestrau etholiadol ar 2 Mawrth 2020.

Fel rheol, cesglir cofrestriadau etholiadol ym mis Rhagfyr bob blwyddyn. Fodd bynnag, cynhyrchwyd y casgliad hwn o ystadegau etholiadol ar 2 Mawrth 2020 at ddibenion adolygu Ffiniau Etholaethau Seneddol sydd i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2023.

Ar gyfer Cymru (a Lloegr), cymerir ystadegau etholiadol o ddata a gyflenwir i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol lleol.

Cyfrifon blynyddol o nifer y bobl sydd wedi eu cofrestru ar gofrestrau etholiadol ac felly â'r hawl i bleidleisio yw ystadegau etholiadol.

Prif bwyntiau

  • Cyfanswm nifer yr etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig yng Nghymru yw 2,322,700; cynnydd bychan o 0.4% rhwng 1 Rhagfyr 2019 a 2 Mawrth 2020.
  • Mae'r cynnydd hwn, o'i gymharu â mis Rhagfyr 2019, yn adlewyrchu'r cynnydd llawn yn niferoedd yr etholwyr oherwydd yr Etholiad Cyffredinol diweddaraf.
  • Cyfanswm nifer yr etholwyr llywodraeth leol yng Nghymru yw 2,358,100; cynnydd bychan o 0.4% rhwng 1 Rhagfyr 2019 a 2 Mawrth 2020.
  • Roedd cyfanswm cofrestriadau etholiadol Seneddol y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 2020 yr uchaf a gofnodwyd erioed, sef 47,558,400, cynnydd o 483,600 (1.0%) o fis Rhagfyr 2019.

Mae ystadegau’r gofrestr etholiadol yn seiliedig ar ffiniau etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig ac yn cael eu cyhoeddi ar gyfer etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig a llywodraeth lleol. Tan 14 Rhagfyr 2011, roedd ffiniau etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig yr un fath â'r rhai ar gyfer etholaethau'r Senedd. Fodd bynnag, gwnaeth Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011 newidiadau i ffiniau etholaethau a rhanbarthau etholiadol y Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) fel bod y ddau yn awr yn wahanol (gweler y nodiadau isod).

Cymharu â chofrestriadau etholiadol ar adeg etholiad cyffredinol 2019

Mae’r data a gyhoeddwyd heddiw yn fwy cydnaws â ffigurau’r etholwyr o adeg yr etholiad cyffredinol nag Ystadegau etholiadol 1 Rhagfyr 2019 a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020. Mae hyn oherwydd er bod dyddiad cyfeirio 1 Rhagfyr 2019 yn agosach at ddyddiad etholiad cyffredinol Rhagfyr 2019, cyhoeddodd swyddogion cofrestru etholiadol (EROs) eu cofrestrau ar gyfer 1 Rhagfyr 2019 ar wahanol adegau trwy gydol y cyfnod rhwng Tachwedd 2019 a Mawrth 2020.

Yn absenoldeb etholiad ni fyddai hyn wedi gwneud fawr o wahaniaeth i'r ffigurau. Fodd bynnag, ni fydd y data ar gyfer yr EROs hynny a gyhoeddodd eu cofrestrau ym mis Tachwedd 2019 wedi cynnwys pobl a gofrestrodd wedi hynny i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2019 (roedd gan bobl tan 26 Tachwedd 2019 i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol).

Nodiadau

Gwnaeth Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011 newidiadau i ffiniau etholaethau a rhanbarthau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny o ganlyniad i newidiadau i ffiniau llywodraeth leol mewn chwech ardal awdurdod lleol. Ni wnaeth y Gorchymyn yr un newidiadau i ffiniau etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig. Daeth y Gorchymyn i rym ar 14 Rhagfyr 2011 felly o'r pwynt hwn ymlaen mae rhai gwahaniaethau rhwng etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig ac etholaethau Senedd Cymru.

Mae cofrestrau etholiadol yn dangos nifer y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Dylid nodi nad yw nifer y bobl sydd â'r hawl i bleidleisio yn gyfwerth â'r boblogaeth breswyl 18 oed a hŷn. Mae nifer o resymau dros hyn. Er enghraifft, nid oes gan bawb sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru yr hawl i bleidleisio (nid oes hawn gal ddinasyddion tramor o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a'r Gymanwlad, carcharorion ayyb.), nid yw rhai pobl yn cofrestru i bleidleisio a gall pobl sydd â mwy nag un cyfeiriad gofrestru mewn mwy nag un lle. Ar ben hyn, mae'n anochel bod rhai etholwyr cofrestredig yn cael eu cyfrif ddwywaith gan fod swyddogion cofrestru etholiadol yn amrywio pa mor gyflym y maent yn tynnu pobl o'r cofrestrau ar ôl iddynt symud o ardal neu pan fyddant yn marw. Mae'r ffactorau hyn yn effeithio ar wahanol ardaloedd mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn golygu bod rhaid bod yn ofalus wrth gymharu amcangyfrif o'r boblogaeth â'r gofrestr etholiadol.

Mae'r gwahaniaeth o ran pwy sydd â hawl i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig ac etholiadau lleol yn dibynnu i raddau helaeth ar amodau preswylio a dinasyddiaeth. Mae etholwyr llywodraeth leol, er enghraifft, yn cynnwys y dinasyddion hynny o’r Undeb Ewropeaidd sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddynt hawl i bleidleisio yn etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig, tra bod etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig yn cynnwys dinasyddion Prydain sy’n preswylio dramor nad oes ganddynt hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.

Gwnaeth Deddf y Senedd ac Etholiad (Cymru) 2020 ddarpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd i 16, gan olygu y bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiadau’r Senedd yn 2021.

Cyflwynwyd y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i’r Senedd ar 18 Tachwedd 2019 ac roedd yn cynnwys darpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol er mwyn caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio. Mae'r etholiadau cyngor lleol arfaethedig nesaf yng Nghymru ym mis Mai 2022.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bwy all bleidleisio mewn gwahanol etholiadau yn y Deyrnas Unedig ar wefan GOV.UK.

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd y SYG yn eu cyhoeddi. Bydd tablau StatsCymru yn dilyn maes o law.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.