Mae'r ystadegau ar bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio mewn etholiadau seneddol a llywodraeth leol fel a gofnodwyd yn y cofrestrau etholiadol ar 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cofrestr etholiadol
Ar gyfer Cymru (a Lloegr), cymerir ystadegau etholiadol o ddata a gyflenwir i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol lleol.
Cyfrifon blynyddol o nifer y bobl sydd wedi eu cofrestru ar gofrestrau etholiadol ac felly â'r hawl i bleidleisio yw ystadegau etholiadol. Mae cyfanswm nifer yr etholwyr yn cynnwys y bobl sy’n gymwys i bleidleisio a chyrhaeddwyr. Mae cyrhaeddwyr yn golygu’r rhai sydd yn cyrraedd oedran pleidleisio yn ystod y flwyddyn hyd at y gofrestr nesaf (mis Rhagfyr 2022).
Mae’r SYG wedi nodi nad ydy’r ystadegau hyn yn adlewyrchu’r newidiadau am bwy sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru ers 2020 (gweler yr adran ‘Nodiadau’ am ragor o wybodaeth am y newidiadau diweddar). O ganlyniad, nid yw cofrestriadau etholwyr llywodraeth leol 16 mlwydd oed a chyrhaeddwyr 15 mlwydd oed yng Nghymru wedi eu cynnwys yn yr ystadegau hyn. Mae hyn yn wir hefyd ar gyfer ystadegau cofrestriadau etholiadol Rhagfyr 2020 a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021. Rydym yn gweithio gyda’r SYG i gyhoeddi ystadegau wedi eu cywiro. Gweler gwefan yr SYG am ragor o wybodaeth.
Pwyntiau allweddol
- Cyfanswm nifer yr etholwyr Senedd Cymru a llywodraeth leol a gofrestrwyd i bleidleisio yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2021 yw 2,348,600
- Mae hyn yn gynnydd o 0.3% rhwng 1 Rhagfyr 2020 ac 1 Rhagfyr 2021, ond yn ostyngiad o 0.4% ers 2 Mawrth 2020.
- Cyfanswm nifer yr etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig a gofrestrwyd i bleidleisio yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2021 yw 2,307,900
- Mae hyn yn gynnydd o 0.1% rhwng 1 Rhagfyr 2020 ac 1 Rhagfyr 2021, ond yn ostyngiad o 0.6% ers 2 Mawrth 2020
- Bu gostyngiad yng nghyfanswm nifer yr etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig a gofrestrwyd i bleidleisio yn y Deyrnas Unedig gyfan o 0.7% rhwng 1 Rhagfyr 2020 ac 1 Rhagfyr 2021
Nodiadau
Mae cofrestrau etholiadol yn dangos nifer y bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio. Dylid nodi nad yw nifer y bobl sydd â'r hawl i bleidleisio yn gyfwerth â'r boblogaeth breswyl. Mae nifer o resymau dros hyn. Er enghraifft, nid oes gan bawb sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru yr hawl i bleidleisio (nid oes hawl gan ddinasyddion tramor o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a'r Gymanwlad, carcharorion ayyb.), nid yw rhai pobl yn cofrestru i bleidleisio a gall pobl sydd â mwy nag un cyfeiriad gofrestru mewn mwy nag un lle. Ar ben hyn, mae'n anochel bod rhai etholwyr cofrestredig yn cael eu cyfrif ddwywaith gan fod swyddogion cofrestru etholiadol yn amrywio pa mor gyflym y maent yn tynnu pobl o'r cofrestrau ar ôl iddynt symud o ardal, neu pan fyddant yn marw. Mae'r ffactorau hyn yn effeithio ar wahanol ardaloedd mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn golygu bod rhaid bod yn ofalus wrth gymharu amcangyfrifon o'r boblogaeth â'r gofrestr etholiadol.
Mae'r gwahaniaeth o ran pwy sydd â hawl i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig ac etholiadau Senedd Cymru a llywodraeth leol yn dibynnu i raddau helaeth ar oedran, amodau preswylio a dinasyddiaeth. Mae etholwyr llywodraeth leol, er enghraifft, yn cynnwys y dinasyddion hynny o’r Undeb Ewropeaidd sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig nad oes ganddynt hawl i bleidleisio yn etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig, tra bod etholwyr Seneddol y Deyrnas Unedig yn cynnwys dinasyddion Prydain sy’n preswylio dramor nad oes ganddynt hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.
Gwnaeth Deddf y Senedd ac Etholiad (Cymru) 2020 ddarpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau’r Senedd i 16, gan olygu roedd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd yn 2021.
Gwnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ddarpariaethau i ostwng yr oedran pleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol er mwyn caniatáu i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio. Mae'r etholiadau cyngor lleol arfaethedig nesaf yng Nghymru ym mis Mai 2022.
Nid yw data Cymru ar gyfer Rhagfyr 2020 a Rhagfyr 2021 yn cynnwys cofrestriadau etholiadol llywodraeth leol ar gyfer cyrhaeddwyr 15 oed ac etholwyr 16 oed. Ar gyfer Rhagfyr 2021, mae hyn yn golygu bod nifer y cofrestriadau etholiadol llywodraeth leol fwy na thebyg tua 20,000 i 50,000 yn rhy isel (tua 1 i 2% o’r cyfanswm).
Nid oes newid wedi bod ar gyfer pleidleisio mewn etholiadau Seneddol y Deyrnas Unedig, gyda’r oedran pleidleisio yn 18 oed neu’n hŷn.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bwy all bleidleisio mewn gwahanol etholiadau yn y Deyrnas Unedig ar wefan GOV.UK.
Gwnaeth Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011 newidiadau i ffiniau etholaethau a rhanbarthau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny o ganlyniad i newidiadau i ffiniau llywodraeth leol mewn chwech ardal awdurdod lleol. Ni wnaeth y Gorchymyn yr un newidiadau i ffiniau etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig. Daeth y Gorchymyn i rym ar 14 Rhagfyr 2011 felly o'r pwynt hwn ymlaen mae rhai gwahaniaethau rhwng etholaethau Seneddol y Deyrnas Unedig ac etholaethau Senedd Cymru.
Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd yr SYG yn eu cyhoeddi. Bydd tablau StatsCymru yn dilyn maes o law.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.