Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru yw’r Cod Ymddygiad hwn. Mae Gweinidogion Cymru wedi’u penodi’n awdurdod rheoleiddio ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu gan adran 58A o Ddeddf Adeiladu 1984 (y Ddeddf). Mae'r cod hwn wedi’i baratoi ac wedi'i gyhoeddi yn unol ag adran 58F o'r Ddeddf.

Mae Arolygydd Cofrestredig Adeiladu yn deitl gwarchodedig. Mae'n drosedd dynwared Arolygydd Cofrestredig Adeiladu, neu wneud unrhyw beth a fyddai'n awgrymu eich bod yn Arolygydd Cofrestredig Adeiladu (gyda'r bwriad o dwyllo) neu ganiatáu i rywun gredu eich bod yn Arolygydd Cofrestredig Adeiladu, os nad ydych chi wedi’ch cofrestru.

Mae'r cod hwn yn nodi'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu. Mae'n rhan greiddiol o’r proffesiwn rheolaeth adeiladu a reoleiddir, sef proffesiwn sy’n gwneud yn ofynnol i chi a, lle bo'n gymwys, i gontractwyr hunangyflogedig, arddel cyfrifoldeb ac atebolrwydd unigol dros eich penderfyniadau, eich gweithredoedd a'ch ymddygiad. Yn unol â hyn, mae’r Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru) wedi'i ddatblygu i nodi safonau’ch cymhwysedd fel Arolygydd Cofrestredig Adeiladu.

Mae'r Cod Ymddygiad yn gymwys i weithgareddau gwaith sy’n cael eu cyflawni gan Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu. Mae'r Cod Ymddygiad yn mabwysiadu'r diffiniadau a geir yn y Ddeddf, gan gynnwys:

  • awdurdod rheoleiddio yn adran 58A
  • Arolygydd Cofrestredig Adeiladu yn adran 58B
  • gweithgareddau cyfyngedig a swyddogaethau cyfyngedig yn adrannau 46A a 54B

Mae'r Egwyddorion yn nodi'r gofynion proffesiynol a moesegol craidd y disgwylir i Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu eu cynnal. Mae'r Safonau yn ategu'r Egwyddorion, gan nodi gofynion ynglŷn ag arferion ac ymddygiadau proffesiynol yr ydym yn disgwyl i Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu eu bodloni. Dylai Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu ddefnyddio canllawiau ac arfer eu barn broffesiynol wrth gymryd camau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â holl ofynion y Cod Ymddygiad.

Gall torri'r Cod Ymddygiad hwn, neu ymddygiad sy'n dwyn anfri ar y proffesiwn, arwain at achos disgyblu, gan gynnwys canslo’ch cofrestriad.

Mae'n hanfodol eich bod yn darllen y Cod Ymddygiad hwn yn llawn a'ch bod yn deall y Safonau a'r Egwyddorion y mae'n rhaid ichi gydymffurfio â nhw. Gall yr awdurdod rheoleiddio ddiwygio'r Cod Ymddygiad a chyhoeddi'r diwygiadau hynny unrhyw bryd.

Pan gyfeirir at unrhyw un neu ragor o'r dogfennau a ganlyn, cyfeiriwch at y fersiwn ddiweddaraf sydd wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru:

Yr Egwyddorion

Mae’n rhaid ichi:

  1. Gweithredu’n onest
  2. Gweithredu gydag uniondeb
  3. Cynnal eich cymhwysedd proffesiynol
  4. Darparu gwasanaethau â medrusrwydd a gofal proffesiynol
  5. Cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y ddarpariaeth gwasanaethau ac yn y proffesiwn
  6. Trin pawb yn deg a gweithredu yn unol â'ch rhwymedigaethau cyfreithiol

Y safonau

1.     Cydymffurfio â’ch rhwymedigaethau cyfreithiol, rheoleiddiol a phroffesiynol

1.1       Rhaid ichi gydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol:

  • wrth gyflawni gweithgareddau gwaith
  • sy’n ymwneud â gorfodi cydymffurfedd sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith
  • sy'n gymwys i gyflawni’ch gweithgareddau gwaith, er enghraifft atal gwyngalchu arian, atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth, diogelu data, a Deddf Cydraddoldeb 2010

1.2       Rhaid ichi gydymffurfio â'ch rhwymedigaethau tuag at yr awdurdod rheoleiddio o dan y cod hwn, fel y’u nodir yn yr atodiadau.

1.3       Dylech gydymffurfio â safonau'r diwydiant ac ystyried arferion da lle bo'n briodol.

1.4       Rhaid ichi gadw annibyniaeth a didueddrwydd proffesiynol wrth gyflawni gweithgareddau gwaith.

1.5       Rhaid ichi gymryd camau priodol i sicrhau bod gwaith a wneir gan unigolion o dan eich goruchwyliaeth yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol.

1.6       Pan gewch chi wybod bod Deddf Adeiladu 1984 neu ddeddfwriaeth gysylltiedig megis Deddf Diogelwch Adeiladu 2022, Rheoliadau Adeiladu 2010, wedi’u torri, rhaid ichi ddefnyddio'r pwerau rheoleiddiol sydd ar gael ichi er mwyn sicrhau cydymffurfedd. Os na allwch hwyluso cydymffurfedd o fewn amserlen resymol, rhaid ichi roi gwybod am waith nad yw'n cydymffurfio i'r awdurdod rheolaeth adeiladu perthnasol.

1.7      Rhaid ichi weithio mewn modd cydweithredol gyda gwasanaethau tân ac achub, ymgyngoreion statudol, a sefydliadau tebyg sy'n berthnasol i waith rheolaeth adeiladu.

1.8      Rhaid ichi sicrhau bod y term 'Arolygydd Cofrestredig Adeiladu' yn cael ei ddefnyddio'n gywir ac yn cydymffurfio â thelerau’ch cofrestriad gyda'r awdurdod rheoleiddio.

1.9      Ni chaniateir ichi gamddefnyddio’ch teitl na'ch safle fel Arolygydd Cofrestredig Adeiladu er budd masnachol neu bersonol amhriodol.
 

2.     Gofynion y gweithle

Ymdrin â rhwymedigaethau proffesiynol

2.1       Dim ond gwaith yr ydych chi (pan fo'n berthnasol fel contractwr hunangyflogedig)  neu'ch cyflogwr wedi'ch yswirio'n briodol ar ei gyfer y cewch chi ei wneud.

2.2       Rhaid i gontractwyr hunangyflogedig gael yswiriant addas.

Priodoldeb ariannol

2.3       Rhaid ichi sicrhau bod cyllid proffesiynol yn cael ei reoli mewn modd cyfrifol.

2.4       Pan fo'n berthnasol, rhaid ichi gadw at reolaethau cyfrifyddu.

2.5       Ni chaniateir ichi hwyluso troseddau ariannol, gan gynnwys gwyngalchu arian, ariannu terfysgaeth, llwgrwobrwyo a llygredigaeth neu efadu treth.

2.6       Ni chaniateir ichi bennu prisiau penodol na chymryd rhan mewn arferion gwrth-  gystadleuol.

2.7       Rhaid ichi sicrhau bod eich costau proffesiynol yn deg a chymesur.

Gwrthdaro buddiannau

2.8      Rhaid ichi gymryd camau i nodi ac i gofnodi gwrthdaro buddiannau a gwrthdaro buddiannau posibl, cyn cychwyn gweithgaredd gwaith ac yn ystod gweithgaredd gwaith.

2.9      Ni chaniateir ichi wneud gwaith, na pharhau i wneud gwaith, pan fo gwrthdaro buddiannau wedi’i nodi.

2.10    Pan fo gwrthdaro buddiannau wedi’i nodi, rhaid ichi hysbysu'ch sefydliad, y ceisydd neu'r asiant a rhoi'r gorau i weithredu fel bod modd cymryd y camau angenrheidiol i ddatys neu gael gwared ar y gwrthdaro.

Defnyddio technoleg a rheoli data

2.11     Pan fo'n berthnasol, rhaid ichi sicrhau eich bod wedi’ch hyfforddi ac yn gyfarwydd â'r technolegau sydd ar gael a chymryd camau i nodi a lliniaru unrhyw risgiau mewn perthynas â defnyddio technoleg berthnasol i helpu i gyflawni’ch gwaith.

2.12     Yn ychwanegol at gydymffurfio â gofynion diogelu data, rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod data masnachol yn cael ei storio'n briodol yn unol â’ch polisi chi neu bolisi’ch sefydliad.

Chwythu’r chwiban

2.13     Rhaid ichi ymgyfarwyddo â pholisi’ch sefydliad ar chwythu'r chwiban, gan roi gwybod am bryderon yn unol ag ef.

2.14     Ni chaniateir ichi weithredu mewn ffordd sy'n atal chwythu'r chwiban neu’n annog rhywun i beidio â chwythu'r chwiban.

2.15     Rhaid ichi roi ystyriaeth deg i bryderon chwythu'r chwiban sy’n dod i law a chadw cofnodion am o leiaf 15 mlynedd o ddyddiad yr adroddiad.

Trin cwynion

2.16    Rhaid bod gan gontractwyr hunangyflogedig weithdrefn ymdrin â chwynion a sicrhau ei bod ar gael yn hwylus.

2.17    Rhaid i gontractwyr hunangyflogedig roi prosesau a gweithdrefnau effeithiol ar waith i reoli a datrys cwynion yn brydlon.

2.18    Rhaid i gontractwyr hunangyflogedig roi mesurau ar waith i fonitro effeithiolrwydd eu gweithdrefn ymdrin â chwynion.

Diwylliant

2.19     Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio perthnasol am unrhyw bryderon ynghylch caethwasiaeth fodern, cam-drin llafur neu arferion llafur camdriniol, yn unol â pholisi’ch sefydliad.

2.20     Rhaid ichi weithredu mewn modd sy'n ategu diwylliant o gynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn unol â pholisi’ch sefydliad.

Dysgu a datblygu

2.21     Yn ychwanegol at y darpariaethau a geir yn Safon 3, rhaid ichi gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus sy'n gysylltiedig â’r canlynol:

  • gofynion diogelu data 
  • atal gwyngalchu arian, ariannu terfysgaeth, atal llwgrwobrwyo, a llygredigaeth
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

3.     Cynnal cymhwysedd proffesiynol a datblygiad proffesiynol parhaus 

3.1     Dim ond gweithgareddau cyfyngedig yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer ac y mae gennych y cymhwysedd angenrheidiol ar eu cyfer, fel y'i diffinnir gan Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru), y cewch ymgymryd â nhw.

3.2     Rhaid i chi (Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu Dosbarth 2, 3 a 4) gynnal asesiad cymhwysedd dilys gan gynllun asesu cymhwysedd annibynnol, cymeradwy.

3.3     Rhaid i unrhyw waith nad ydych yn gymwys i’w wneud gael ei wneud o dan oruchwyliaeth person cymwys addas.

3.4     Ni chaniateir ichi ymgymryd â rôl reoli dechnegol, na goruchwylio gwaith pobl eraill, oni bai bod gennych y cymhwysedd angenrheidiol i wneud hynny.

3.5     Rhaid ichi gynnal eich cymhwysedd proffesiynol a chydymffurfio ag unrhyw ofynion ynglŷn â datblygiad proffesiynol parhaus a ddyroddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

3.6     Os ydych yn rheolwr neu'n oruchwyliwr, rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod y rheini yr ydych yn eu rheoli neu’r rheini sydd o dan eich goruchwyliaeth yn parhau’n gymwys.

3.7     Rhaid ichi fyfyrio'n ffurfiol ar eich anghenion datblygu a chofnodi’ch canfyddiadau a'ch camau arfaethedig i ddiwallu’r anghenion hyn yn unol â'r gofynion ynglŷn â datblygiad proffesiynol parhaus.

3.8     Rhaid ichi gadw’ch myfyrdod datblygu yn unol â pholisi’ch sefydliad neu gyfnod eich cofrestriad, p’un bynnag sydd hiraf.

3.9     Rhaid ichi gynnal portffolio o dystiolaeth i ddangos eich cymhwysedd. Dylai’ch portffolio gynnwys cofnodion o weithgareddau hyfforddi, datblygu a chymhwysedd yr ydych wedi'u cyflawni yn unol â pholisi’ch sefydliad a hynny drwy gydol cyfnod eich cofrestriad neu yn unol â pholisi’ch sefydliad, p’un bynnag sydd hiraf.

3.10   Rhaid ichi gynnal gwybodaeth gyfredol am unrhyw bolisïau perthnasol sydd gennych chi neu'ch cyflogwr ynglŷn â’r canlynol:

  • gwrthdaro buddiannau
  • trefniadau yswiriant
  • trin cwynion
  • iechyd, diogelwch a lles
  • atal gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth ac atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth
  • diogelu data
  • chwythu'r chwiban
  • ymddygiad staff (os yw'n berthnasol)
  • dysgu a datblygu
  • cydraddoldeb/tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant

4.     Safon gwasanaeth

4.1       Wrth wneud eich gwaith, rhaid ichi weithredu:

  • yn deg ac yn wrthrychol
  • yn ddiwyd
  • yn gydwybodol
  • er lles pennaf y cyhoedd wrth ddelio ag unigolion, proffesiynau eraill, neu'r proffesiwn rheolaeth adeiladu

4.2       Wrth wneud eich gwaith, rhaid ichi fod yn atebol:

  • am eich penderfyniadau
  • am weithgareddau gwaith a gyflawnir o dan eich goruchwyliaeth, gan gymryd camau i gofnodi gweithgareddau rydych chi'n eu cyflawni

4.3       Rhaid ichi gadw at eich prosesau a’ch gweithdrefnau chi neu brosesau a gweithdrefnau'ch cyflogwr ynglŷn â sicrhau ansawdd ac, os ydych chi'n cael eich goruchwylio, ymwneud â'ch goruchwylydd.

4.4       Rhaid ichi sicrhau nad yw cyngor neu benderfyniadau proffesiynol yn cael eu dylanwadu gan hunanfuddiannau, rhagfarn, tuedd, neu agenda bersonol.

4.5       Rhaid ichi ystyried yr amser a/neu'r adnoddau y mae arnoch eu hangen i gwblhau gwaith cyn cytuno i'w wneud, gan godi unrhyw bryderon gyda'ch cyflogwr.

5.     Ymwneud â cheisyddion ac asiantau 

5.1       Rhaid ichi gael cadarnhad bod manylion adnabod eich ceisydd neu’ch asiant wedi'u sefydlu, bod yna gofnod o'r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt a bod y ceisydd neu'r asiant wedi cael esboniad o'r gwasanaethau y gallwch eu darparu.

5.2      Rhaid ichi gadarnhau a datgan unrhyw gyfyngiadau ac amodau sy'n gymwys i'ch cofrestriad wrth ymgymryd â rôl Arolygydd Rheolaeth Adeiladu.

5.3      Ni chaniateir ichi wneud unrhyw waith nes y bydd gennych gadarnhad bod y ceisydd neu'r asiant wedi cael y llythyr telerau ymrwymo, ac wedi cytuno mewn ysgrifen â’r darpariaethau yn y llythyr hwnnw, yn unol â’r manylion yn Atodiad 2.

5.4       Pan fyddwch yn cael gwybod am unrhyw newidiadau yn y telerau mewn perthynas â gwaith gan gynnwys amcangyfrifon cost neu amser, rhaid ichi sicrhau bod y ceisydd neu'r asiant wedi cael gwybod am y rhain.

5.5       Rhaid ichi drin gwybodaeth sy’n dod i law oddi wrth y ceisydd neu'r asiant yn gyfrinachol a pheidio â’i datgelu oni bai bod un neu ragor o'r canlynol yn gymwys:

  • wrth erlyn neu amddiffyn achos cyfreithiol
  • gyda chaniatâd ysgrifenedig penodol y ceisydd neu'r asiant
  • pan fo hynny'n ofynnol neu'n cael ei awdurdodi yn ôl y gyfraith
  • er mwyn rhoi gwybod am drosedd neu roi gwybod bod y rheoliadau rheolaeth adeiladu wedi’u torri

5.6       Rhaid ichi wirio bod eich ceisydd neu’ch asiant wedi cael gwybod y gall fod angen ichi ddatgelu gwybodaeth i'r awdurdod rheoleiddio, awdurdodau lleol a rheoleiddwyr eraill.

5.7       Yn ddarostyngedig i unrhyw hawl i gadw taliad sydd yn yr arfaeth, rhaid ichi wirio bod eich ceisydd neu’ch asiant wedi cael yr holl wybodaeth berthnasol a chopi o'u ffeil ar gais. Nid yw'r Safon hon yn gofyn i unrhyw wybodaeth gael ei datgelu na chaniateir iddi gael ei datgelu'n gyfreithlon

5.8       Rhaid ichi gofnodi, cadw a datgelu:

  • yr holl dystiolaeth
  • yr holl gyfarwyddiadau
  • yr holl gyngor 
  • yr holl ddyfarniadau a phenderfyniadau proffesiynol

ynglŷn â’r gweithgareddau gwaith a gyflawnwyd o ddyddiad y cyfarwyddiadau, yn unol â phrosesau adrodd a pholisïau yswiriant eich sefydliad (lle bo'n berthnasol), p’un bynnag sydd hiraf.

Atodiad 1: rhwymedigaethau tuag at yr awdurdod rheoleiddio o dan y cod hwn

1.1      Rhaid ichi gydweithredu â'r awdurdod rheoleiddio wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau ac arfer ei bwerau statudol. Rhaid ichi ddarparu gwybodaeth pan ofynnir amdani gan yr awdurdod rheoleiddio yn unol â’r amserlenni statudol perthnasol.

1.2      Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir i'r awdurdod rheoleiddio ddangos yn glir:

  • sut y mae penderfyniadau wedi'u gwneud
  • sut y daethpwyd i’r farn
  • addasrwydd at ddibenion archwilio, sicrhau ansawdd a dibenion yr awdurdod rheoleiddio

1.3      Rhaid ichi gydymffurfio â chwmpas eich cofrestriad ac unrhyw amodau a gymhwysir i'ch cofrestriad gan yr awdurdod rheoleiddio. Gall methu â chydymffurfio arwain at yr awdurdod rheoleiddio yn cymryd camau gorfodi a allai effeithio ar eich cofrestriad.

1.4      Rhaid ichi roi sylw priodol i ganllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

Rheolau Cofrestru

1.5      Rhaid i chi sicrhau bod eich manylion cofrestru yn cael eu cynnal a'u diweddaru'n gywir gydag unrhyw newidiadau perthnasol.

1.6      Rhaid i chi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod o unrhyw newidiadau i wybodaeth sy'n berthnasol i'ch cofrestriad.

1.7      Rhaid i chi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio o'r newidiadau canlynol sy'n berthnasol i'ch cofrestriad:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt (os yw'n wahanol)
  • eich cyfeiriad busnes 
  • eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif(au) ffôn
  • eich cyflogwr a manylion eich cyflogwr         

1.8      Rhaid i chi gyflwyno cais i'r awdurdod rheoleiddio, i amrywio eich cofrestriad drwy'r broses gwneud cais am newid, os:

  • ydych yn dymuno newid eich dosbarth cofrestru a/neu gategorïau gwaith
  • nad ydych yn dymuno bod ar y gofrestr o arolygwyr cofrestredig adeiladu mwyach

1.9      Ni fydd yr awdurdod rheoleiddio'n derbyn hysbysiadau o newidiadau gan drydydd partïon, fel aelodau o'r teulu neu’ch cyflogwr, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, megis yr Arolygydd Cofrestredig Adeiladu yn methu â gwneud hynny ei hun oherwydd analluogrwydd.

1.10    Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl ac o fewn 14 diwrnod o unrhyw ymddygiad yr ydych yn ymwybodol ohono neu’n dod yn ymwybodol ohono a allai fod:

  • yn groes i’r Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru)
  • yn groes i’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (Cymru)
  • yn debygol o ddwyn anfri ar y proffesiwn rheolaeth adeiladu
  • yn groes i’r Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru)

1.11    Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl ac o fewn 14 diwrnod:

1.12    Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl ac o fewn 14 diwrnod am achosion o amhriodoldeb ariannol yr ydych yn ymwybodol ohonynt/neu’n dod yn ymwybodol ohonynt, yn benodol, am y methiant i gadw at ofynion mewn perthynas â’r canlynol:

  • atal gwyngalchu arian
  • ariannu terfysgaeth
  • atal llygredigaeth a llwgrwobrwyo
  • efadu treth
  • pennu prisiau penodol 
  • arferion gwrth-gystadleuol
  • codi gormod o dâl

1.13    Os ydych yn dal swydd cyfarwyddwr, neu os ydych yn dal rheolaethau ariannol, rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio o fewn 28 diwrnod:

  • os byddwch yn gwneud trefniant gwirfoddol unigol
  • os byddwch yn dod yn destun gorchymyn rhyddhau o ddyled neu orchymyn gweinyddu
  • os byddwch yn cael eich datgan yn fethdalwr
  • os byddwch yn cael eich gwahardd fel cyfarwyddwr

1.14    Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl ac o fewn 14 diwrnod os byddwch yn destun dyfarniad disgyblu rheoleiddiwr neu gorff proffesiynol arall.

Atodiad 2: darparu gwybodaeth i'r ceisydd neu'r asiant

Er mwyn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan Safon 5, rhaid ichi gael cadarnhad bod pob ceisydd neu asiant wedi cael llythyr telerau ymrwymo oddi wrth yr awdurdod lleol neu’r Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu, ac ynddo’r wybodaeth a ganlyn:

  • crynodeb clir o'r gwasanaethau y bydd y corff rheolaeth adeiladu yn eu darparu
  • enw'r Arolygydd Cofrestredig Adeiladu sy'n gyfrifol am wneud y gwaith (nodwch os gallai hynny newid)
  • unrhyw amodau ar eich cofrestriad chi, neu ar gofrestriad yr Arolygydd Cofrestredig Adeiladu sy'n gyfrifol am oruchwylio neu gyflawni’r gwaith
  • amcangyfrif o’r amser y bydd ei angen er mwyn ichi gwblhau'r gwaith neu, os yw’n cael ei wneud fesul cam, yr amcangyfrif ar gyfer pryd y caiff gwaith ei wneud mewn perthynas â phob cam (nodwch os gallai hyn newid)
  • disgrifiad clir a thryloyw o ffioedd a thaliadau’r corff rheolaeth adeiladu
  • amcangyfrif o gyfanswm cost cwblhau'r gwaith
  • manylion unrhyw ffioedd atgyfeirio perthnasol y mae'r corff rheolaeth adeiladu yn eu talu neu'n eu derbyn
  • disgrifiad o sut y bydd gwybodaeth y ceisydd yn cael ei defnyddio a sut y gall y ceisydd gael eich polisi diogelu data
  • manylion polisi cwynion y corff rheolaeth adeiladu a sut y gallant godi cwyn
  • manylion yr yswiriant perthnasol sydd gennych chi (os ydych yn Arolygydd Cofrestredig Adeiladu hunangyflogedig) a'r corff rheolaeth adeiladu
  • datganiad clir bod y rheini sy’n ymgymryd â’r swyddogaeth rheolaeth adeiladu yn cael eu rheoleiddio gan yr awdurdod rheoleiddio

Atodiad 3: amodau cofrestru ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu

3.1     Mae gan yr awdurdod rheoleiddio y pŵer i osod amodau ar gofrestriad unigolyn o dan adran 58C o Ddeddf Adeiladu 1984.

3.2     Gellir gosod amodau wrth gofrestru, pan fo cofrestriad yn cael ei amrywio a/neu o ganlyniad i sancsiynau a chamau gorfodi gan yr awdurdod rheoleiddio.

3.3     Gellir cymhwyso amodau i bob unigolyn sy'n cofrestru fel Arolygydd Cofrestredig Adeiladu, neu i unigolyn penodol yn seiliedig ar ei amgylchiadau penodol.

3.4     Gall amodau, er enghraifft, gynnwys gofynion ar gyfer datblygiad proffesiynol neu gamau gweithredu pellach i gefnogi enw da'r proffesiwn. 

3.5      Bydd amodau yn cael eu cymhwyso a'u dileu yn ôl disgresiwn yr awdurdod rheoleiddio yn unig.

3.6      Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau a bennir gan yr awdurdod rheoleiddio ar eich cofrestriad. Gall methu â chydymffurfio ag amod arwain at yr awdurdod rheoleiddio yn cymryd camau a gallai effeithio ar eich cofrestriad. 

Atodiad 4: gweithredu o fewn cwmpas eich cofrestriad

4.1      Er mwyn cydymffurfio ag Atodiad 1, rhwymedigaeth 1.3, rhaid ichi weithredu o fewn cwmpas eich cofrestriad. Mae “cwmpas eich cofrestriad” yn cynnwys y dosbarth, y categorïau gwaith a'r gweithgareddau cyfyngedig rydych wedi'ch cofrestru i'w cyflawni. Mae'n drosedd i Arolygydd Cofrestredig Adeiladu ymgymryd â gwaith rheolaeth adeiladu sydd y tu allan i gwmpas ei gofrestriad heb esgus rhesymol.

4.2      Er mwyn cydymffurfio â safon 3.4 o’r Cod, dim ond os ydych wedi cofrestru gyda'r cymhwysedd priodol ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud y dylech reoli neu oruchwylio gweithgareddau cyfyngedig pobl eraill.

4.3      Diffinnir y gweithgareddau cyfyngedig yn Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024, sef, yn fras, asesu ac archwilio cynlluniau. 

4.4      Diffinnir dosbarthau yn Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru). Dyma’r dosbarthau a’r categorïau: 

4.5      Dosbarth 1 – Arolygydd Adeiladu dan Hyfforddiant: Gallwch weithio dan oruchwyliaeth yn unig. Mae'n rhaid i'ch goruchwyliwr fod yn Arolygydd Cofrestredig Adeiladu gyda chwmpas cofrestru priodol ar gyfer y gwaith y mae i'w oruchwylio. 

4.6      Dosbarth 2 – Arolygydd Adeiladu: 

  • Categori A – tai annedd preswyl (un aelwyd) llai na 7.5m 
  • Categori B – fflatiau preswyl a thai annedd llai na 11m 
  • Categori C – fflatiau preswyl a thai annedd, mwy na 11m ond llai na 18m 
  • Categori D – pob math o adeilad (gan gynnwys preswyl) llai na 7.5m 
  • Categori E – pob math o adeilad (gan gynnwys preswyl) mwy na 7.5m ond llai na 11m 
  • Categori F – pob math o adeilad (gan gynnwys preswyl) mwy na 11m ond llai na 18m 

Sylwer: Nid yw Dosbarth 2 yn cynnwys adeiladau ansafonol nac adeiladau risg uwch.

4.7      Dosbarth 3 – Arolygydd Adeiladu: 

  • Categori G – pob math o adeilad (gan gynnwys mathau ansafonol), heb unrhyw derfyn ar uchder lloriau, ac eithrio adeiladau risg uwch 
  • Categori H – adeiladau risg uwch 

4.8      Dosbarth 4 – Arolygydd Adeiladu (Rheolwr Technegol): dyma ddosbarth cofrestru ychwanegol ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu dosbarth 2 a dosbarth 3 sydd â chyfrifoldebau rheoli technegol hefyd.

4.9      Mae adeiladau risg uwch wedi’u diffinio yn Neddf Adeiladu 1984 ac wedi’u disgrifio yn Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023.

4.10   Mae grwpiau pwrpas ac uchder lloriau yn seiliedig ar fathau cyffredin o adeiladau, gan ddilyn y safonau gofynnol fel y’u nodir yn y Dogfennau Cymeradwy.

4.11    Mae uchder lloriau fel y’u disgrifir yn Nogfen Gymeradwy B, ond mewn perthynas ag uchder adeiladau risg uwch, gweler Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023.