Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar gyfer Maes Awyr Cymru Caerdydd, gan gynnwys symudiadau awyrennau, teithwyr a nwyddau a thraffig teithwyr awyr rhyngwladol ar gyfer 2018.

Siart yn dangos nifer y teithwyr sy'n mynd drwy Faes Awyr Caerdydd rhwng 2006 a 2018. Mae'r siart yn dangos bod nifer y teithiau gan deithwyr wedi gostwng rhwng 2007 a 2012, ond wedi cynyddu ers 2014.

Prif bwyntiau

  • Yn 2018, gwelwyd nifer y teithwyr sy'n defnyddio maes awyr Rhyngwladol Caerdydd yn cynyddu 7.7% i 1.6 miliwn. Mae'r ffigurau'n cynnwys teithwyr sy'n cyrraedd ac yn gadael.
  • Yn 2018, roedd awyrennau o faes awyr Caerdydd yn hedfan i 95 o gyrchfannau tramor, 11 yn fwy nag yn 2017.
  • Amsterdam oedd y cyrchfan tramor mwyaf poblogaidd yn 2018 a Chaeredin y cyrchfan domestig mwyaf poblogaidd.
  • Cafwyd tua 31,000 o hediadau i mewn ac allan o faes awyr Rhyngwladol Caerdydd yn 2018, cynnydd o 7.4% o'u cymharu â 2017.
  • Ar ôl cyfnod o gludo ychydig iawn o nwyddau, cafodd tua 1,500 o dunelli o nwyddau eu cario trwy faes awyr Caerdydd yn 2018, o'u cymharu â dim ond 4 o dunelli y flwyddyn cynt. Y rheswm am y cynnydd oedd yr hediadau newydd i Qatar ym mis Mai 2018 sy'n cludo llawer iawn o nwyddau yn ogystal â theithwyr.

Adroddiadau

Cludiant awyr, 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1014 KB

PDF
Saesneg yn unig
1014 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.