Heddiw, addawodd Llywodraeth Cymru gefnogi pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu i ddechrau eu busnes eu hun wrth iddo lansio cronfa £40miliwn ar gyfer sgiliau a swyddi.
Mae’r gronfa uchelgeisiol yn rhan o gynllun hirdymor i helpu Cymru i adfer o’r coronafeirws; i ailgodi’n gryfach a sicrhau bod pawb yn rhan o’r adferiad hwnnw.
Mae cyhoeddiad heddiw yn ychwanegu at becyn £50miliwn ar gyfer dysgu a sgiliau addysg uwch ac addysg bellach a ddatgelwyd gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yr wythnos ddiwethaf.
Wrth galon y gronfa newydd mae addewid y bydd pawb dros 16 oed yn cael yr help sydd eu hangen arnynt i fanteisio ar gyngor a chymorth i ddod o hyd i waith neu i ddechrau eu busnes eu hun neu i ddechrau cwrs addysgol neu hyfforddiant.
Bydd mwy o gymorth i brentisiaethau, ynghyd â hyfforddeiaethau, cymorth ar ôl colli gwaith, rhaglenni ailhyfforddi a chyngor gyrfaoedd – bydd yr holl hyn yn hanfodol i fynd i’r afael â’r cynnydd disgwyliedig mewn diweithdra a’r risg y gall anghydraddoldeb economaidd waethygu oherwydd pandemig y coronafeirws.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans:
“Mae’r coronafeirws yn bygwth effeithio’n ddifrifol ar y gwaith da yr ydym wedi’i wneud i leihau diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf.
“Bydd y buddsoddiad £40miliwn hwn mewn swyddi a sgiliau yn hanfodol i liniaru effaith y pandemig a bydd yn hanfodol i sbarduno adferiad ein heconomi.“Wrth inni weithio i adfer o effaith y pandemig, rydym am sicrhau y bydd ein heconomi yn gryfach, yn decach, yn wyrddach, yn fwy hyblyg ac yn fwy cynhyrchiol nag o’r blaen – i hynny ddigwydd, mae angen cymorth ar bobl a busnesau i wynebu’r heriau a’r pwysau y bu’n rhaid iddynt eu hysgwyddo oherwydd y coronafeirws.”
Bydd cymorth Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru yn helpu cyflogwyr i gyflogi gweithwyr newydd, gydag ysgogiadau i recriwtio prentisiaid a phobl ifanc. Bydd hefyd yn helpu oedolion i oresgyn rhwystrau o ran cadw a chael gwaith gan hoelio sylw ar sectorau twf Cymru.
Mae’r cynllun yn cynnwys pwyslais ar gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer pobl y bydd y dirywiad economaidd yn effeithio fwyaf arnynt, gan gynnwys pobl anabl, pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod a’r rheini sydd ar incymau isel ac sydd heb lawer o sgiliau.
Bydd y pecyn £40miliwn yn darparu:
- mwy na £20miliwn i ysgogi cyflogwyr i recriwtio a chadw 5,000 o brentisiaid, cynyddu capasiti rhaglenni hyfforddeiaeth a chefnogi mwy o raddedigion i fanteisio ar brofiad gwaith, sesiynau blasu a lleoliadau gwaith â thâl.
- bron £9miliwn i helpu gweithwyr i ailhyfforddi a dod o hyd i gyflogaeth newydd, gan gynnwys mewn meysydd lle y mae galw am sgiliau, drwy ReACT a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cyfrifon dysgu personol ar draws y wlad fel bod 2,000 o bobl ychwanegol yn gallu dysgu sgiliau newydd ac ennill mwy o gyfleusterau.
- bydd mwy o gyllid ar gael ar gyfer hyfforddeiaethau, Gweithio dros Gymru a Chymunedau am Waith a Mwy i helpu i baru pobl â swyddi a hyrwyddo hunangyflogaeth a ffyrdd newydd o weithio, yn ogystal â chyllid i gefnogi hyfforddiant a arweinir gan gyflogwyr drwy’r rhaglen Sgiliau Hyblyg.
- bydd cymorth ar gyfer Cronfa Rhwystrau newydd, a fydd yn cynnig hyd at £2,000 i helpu pobl sydd ddim wedi ystyried hunangyflogaeth o’r blaen, yn enwedig menywod, pobl ifanc, pobl o gymunedau BAME a phobl anabl.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
“Rydym eisoes wedi rhoi’r pecyn cymorth mwyaf hael yn y DU i fusnesau Cymru, sydd wedi bod yn hanfodol i’w helpu drwy’r argyfwng.
“Mae cyhoeddiad heddiw yn mynd gam ymhellach ac yn cefnogi ein gweithlu. Bydd y pecyn £40miliwn hwn yn helpu i gymell cyflogwyr i hyfforddi gweithwyr newydd, gan gynnwys prentisiaid a phobl ifanc. Bydd hefyd yn helpu cyflogwyr i gadw ac ailsgilio’r gweithlu presennol a chefnogi unigolion sy’n chwilio am waith i ddod o hyd i gyflogaeth ddiogel neu i ddechrau eu busnes eu hunain.
“Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sbarduno ein hadferiad economaidd. Rwy’n galw ar bob cyflogwr nawr i fanteisio ar ein hysgogiadau ac i chwarae rhan yn y broses o ddarparu swyddi a chyfleoedd hyfforddi o ansawdd ar draws Cymru.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Gan ychwanegu at y £50miliwn a gyhoeddais yr wythnos ddiwethaf i gefnogi colegau a phrifysgolion, bydd y cyllid ychwanegol hwn yn creu cyfleoedd pellach i bobl wella eu gwybodaeth a’u siliau yn un o’n sefydliadau addysg uwch neu addysg bellach.
“Bydd mwy na £8miliwn yn cael ei ddefnyddio i greu prentisiaethau gradd newydd mewn TGCh a gweithgynhyrchu uwch; cymorth i 250 o raddedigion i oresgyn rhwystrau i brofiad gwaith ac i gynyddu gweithgareddau swyddfeydd cyflogaeth mewn colegau ar draws Cymru.
“Byddwn hefyd yn ehangu ein rhaglen cyfrif dysgu personol i ailsgilio ac uwchsgilio mwy na 2,000 o bobl sy’n gweithio, gan eu helpu i ddringo’r ysgol gyflogaeth ac ehangu eu hopsiynau o ran y math o yrfa sydd ar gael iddynt.
“Mae’n bwysig ein bod yn buddsoddi nawr er mwyn cefnogi gweithlu gyda’r sgiliau i sbarduno ein hymateb economaidd i’r coronafeirws.”