Wrth i Gymru weithredu yn erbyn sbwriel môr, hi yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun i ailgylchu offer pysgota.
Mae'r casgliad cyntaf, a gynhaliwyd heddiw ar Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang (18 Mawrth), wedi bod yn llwyddiant ysgubol, a chasglwyd tua thair tunnell o offer pysgota i'w ailgylchu, o saith harbwr ledled Cymru.
Bydd y cynllun newydd yn helpu i gryfhau’r enw da sydd gan Gymru am ailgylchu – Cymru sydd â’r record orau yn y DU am ailgylchu gwastraff o gartrefi, a’r orau ond dau yn y byd.
Mae biniau ailgylchu ar gyfer hen offer pysgota wedi'u gosod yn harbyrau Abertawe, Aberdaugleddau, Abergwaun, Aberteifi, Conwy, Ynys Môn a Chaergybi.
Fe’u llenwyd at yr ymyl â rhwydi pysgota, rhaffau a bwiau, a allai fel arall fod wedi cael eu taflu i’r môr neu eu hanfon i safleoedd tirlenwi.
Yn lle hynny, byddant yn cael eu torri’n fân a'u troi'n belenni, cyn cael eu hailddefnyddio mewn ceufadau, corff-fyrddau neu ddodrefn stryd.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
Mae cynlluniau fel hyn yn dangos ein bod, drwy gydweithio, arloesi a gweithredu, yn gallu meddwl am atebion ymarferol a fydd yn sicrhau ein bod yn gadael ein moroedd mewn cyflwr gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn anffodus, os byddwn ni’n parhau i wneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd, mae adroddiadau'n dangos ei bod yn bosibl y bydd gennym fwy o blastig na physgod yn ein cefnforoedd erbyn 2050.
Fyddwn ni ddim yn osgoi wynebu'r heriau sydd o'n blaenau. Ers datganoli, rydyn ni wedi gweithio'n eithriadol o galed i newid ein record ar ailgylchu, o fod yn un o'r rhai gwaethaf yn y byd i un o'r goreuon.
Drwy ymdrech ar y cyd gan Dîm Cymru, gallwn ni greu economi gylchol go iawn lle byddwn ni’n ailgylchu ac yn ailddefnyddio, gan gryfhau’n cadwyni cyflenwi a diogelu'r blaned. Mae’r hyn sy’n digwydd ar draws y byd yn dangos inni fod brys mawr i wneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Odyssey Innovation Ltd, a greodd y Cynllun Adfywio Rhwydi ac sy’n casglu sbwriel môr, a hefyd gyda phartneriaid yn y diwydiant pysgota, Surfers against Sewage a Cadwch Gymru'n Daclus, i greu'r cynllun.
Amcangyfrifir bod offer pysgota yn cyfrif am hyd at 20% o'r holl sbwriel a geir yn ein moroedd. Yng Nghymru, llinellau a rhaffau pysgota oedd yn drydydd ar y rhestr o’r eitemau a ganfuwyd amlaf wrth gynnal arolwg Glanhau Traethau Prydain Fawr y llynedd. Roedd offer pysgota yn cyfrif am 14% o'r sbwriel a ganfuwyd ar draethau Cymru.
Gall offer pysgota sydd wedi'i adael a'i daflu niweidio bywyd morol a chynyddu'r risg y bydd micro-blastigau’n cyrraedd ein cadwyn fwyd.
Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi darogan y bydd faint o blastig a geir yn ein cefnforoedd yn treblu yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, a hynny, i raddau helaeth, oherwydd diffyg seilwaith ailgylchu. Bydd cynnig atebion ar gyfer offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes yn lleihau'r risg o sbwriel ac yn golygu y bydd llai o bosibilrwydd i amgylchedd y môr gael ei ddifrodi.
Yn ôl Rob Thompson, rheolwr gyfarwyddwr Odyssey Innovation:
Dim ond drwy gydweithio, yn bennaf rhwng y sector pysgota a grwpiau cadwraeth, gyda chefnogaeth prifysgolion a'r llywodraeth, mae’r Cynllun Adfywio Rhwydi wedi bod yn bosibl.
Bydd y prosiect cydweithredol hwn rhyngon ni, Llywodraeth Cymru a chymunedau pysgota yn dangos yr arferion gorau mewn sector lle mae gwir angen gwneud hynny, a bydd ansawdd ein moroedd a'r blodau a’r planhigion sydd ynddyn nhw yn elwa'n aruthrol hefyd.
Ychwanegodd Marion Warlow o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA-CPC):
Rydyn ni wedi cefnogi'r prosiect hwn o'r cychwyn cyntaf.
Ar y cyd ag Odyssey Innovation, mae awdurdodau’r porthladdoedd, yr awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol, a physgotwyr wedi bod yn cydweithio â thîm y prosiect peilot i ailgylchu ac adfywio offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes a phlastigau caled.
Rydyn ni’n mawr obeithio bydd y profiad a fagwyd yn ystod y cynllun peilot hwn yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ehangu mewn ffordd gynaliadwy yn y tymor hir i bob porthladd a harbwr yng Nghymru, gan leihau'n sylweddol ein dibyniaeth ar dirlenwi yn y dyfodol.
Mae'r cynllun hwn yn un o nifer y mae Llywodraeth Cymru yn ei arwain wrth iddi hyrwyddo’r newid i economi gylchol – lle mae gwastraff yn cael ei droi'n adnodd a'i ddefnyddio cyhyd ag y bo modd.
Yn ogystal â thorri allyriadau CO2 niweidiol sy'n arwain at newid yn yr hinsawdd ac at lygru cynefinoedd bywyd gwyllt, bydd economi gylchol yn cryfhau ac yn atgyfnerthu cadwyni gyflenwi Cymru wrth iddi leihau’i dibyniaeth ar fewnforion o dramor.
Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol hefyd i droi Cymru yn Genedl Ddiwastraff erbyn 2050.