Bydd cartrefi yng Nghymru sydd wedi eu taro gan lifogydd diweddar yn derbyn rhwng £500 a £1000 o gymorth gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn golygfeydd "ofnadwy" o ddifrod ledled y wlad.
Cafodd dros 150 adeilad ledled Cymru lifogydd yn gynharach yr wythnos hon ar ôl i Storm Christoph gyrraedd – gyda rhai ardaloedd yn gweld mwy na 200mm o law mewn 72 awr; mwy na mis o law ar gyfartaledd yn y rhan fwyaf o ardaloedd o Gymru.
Cyhoeddwyd mwy na 40 o rybuddion llifogydd a hysbysiadau llifogydd ar wahân gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan gynnwys dau rybudd difrifol o lifogydd, gyda cartrefi'n cael eu gwacáu yn dilyn digwyddiadau difrifol ym Mangor-is-y-coed a’r Orsedd, Wrecsam, a Sgiwen yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae pobl yn dal i gael eu cynghori i ond teithio os oes gwir angen, ac i osgoi teithio i ardaloedd lle mae llifogydd.
Yn ogystal â'r effaith ar gartrefi ac eiddo, mae awdurdodau lleol hefyd wedi adrodd am yr effaith ar rwydweithiau priffyrdd, gan arwain at darfu sylweddol ar draffig.
Yr awdurdodau lleol fydd yn gwneud taliadau cymorth, wedi’u talu gan Lywodraeth Cymru.
Dyma’r un lefel o gymorth ag a ddarparwyd i gartrefi’n dilyn y llifogydd a achoswyd gan stormydd Dennis a Ciara y llynedd.
Bydd y cymorth hwn hefyd ar gael i’r rhai hynny sydd wedi dioddef llifogydd sylweddol o dan do tra bo cyfyngiadau y coronafeirws yn bodoli trwy’r hydref.
Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:
"Gall llifogydd mawr fel y rhain fod yn ddinistriol i'r cymunedau hynny y maent yn eu taro, ac mae'r golygfeydd ofnadwy a welir mewn ardaloedd ledled Cymru yn haeddu ymateb cryf a chyflym i'r cartrefi hynny yr effeithir arnynt.
"Mae hyn yn fwy ysgytwol fyth pan ystyriwn fod y rhai sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi dros dro, neu sydd wedi gweld eu cartrefi a'u heiddo wedi'u difrodi gan lifddwr, wedi gorfod gwneud hynny yn ystod yr anawsterau a achosir gan y coronafeirws.
"Dyna pam rydym am roi cymorth i bobl sydd wedi dioddef llifogydd yn eu cartrefi i dderbyn taliadau o rhwng £500 a £1000, yn debyg i'r cymorth a roddwyd i aelwydydd yn ystod stormydd Ciara a Dennis y llynedd."
Bydd rhagor o fanylion am sut y gallai aelwydydd yr effeithir arnynt wneud cais am y cyllid ar gael yn fuan.
Diolchodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, i'r awdurdodau lleol, asiantaethau, gwirfoddolwyr a'r gwasanaethau brys hynny a gymerodd ran yn yr ymateb i Storm Christoph yn ystod y dyddiau diwethaf.
Dywedodd:
"Rydyn ni'n gwybod y gall llifogydd mawr fel y rhain fod yn ddinistriol i gymunedau, ac rwy'n cydymdeimlo ac yn cefnogi'r holl gymunedau hynny sydd wedi eu taro gan lifogydd – yn enwedig pan fu’n rhaid i drigolion adael eu cartrefi oherwydd llifogydd dros nos.
"Mae ymdrechion cydweithredol sefydliadau a gwasanaethau ledled y wlad, llawer ohonynt yn gweithio dros nos i sicrhau bod aelodau o'r cyhoedd yn ddiogel, wedi bod yn rhyfeddol.
Dywedodd y Gweinidog i’r cyhoedd hefyd beidio â rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau ac asiantaethau brys yn ystod yr ymateb parhaus i lifogydd a achoswyd gan Storm Christoph.
"Dwi'n annog aelodau o'r cyhoedd i roi sylw i'r cyngor sy'n cael ei roi gan y gwasanaethau brys, ac i beidio â theithio oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol, er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar ein hasiantaethau ymateb."
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Y realiti trist yw wrth i ni wynebu'r bygythiad parhaus a achosir gan newid eithafol yn yr hinsawdd, bydd llifogydd mawr a digwyddiadau tywydd niweidiol fel y rhain yn fwy tebygol, nid llai.
"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i reoli ac ymateb yn rhagweithiol i berygl llifogydd ledled Cymru – yn yr hydref, lansiwyd ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, a amlinellodd sut rydym yn bwriadu gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i reoli peryglon llifogydd hirdymor ledled y wlad.
Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau rheoli risg i sicrhau bod yr amddiffynfeydd ledled Cymru yn parhau i fod yn gadarn.”