Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Diogelu

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod diogelu yn ystyriaeth ganolog yn y systemau, y polisi a'r cyngor sy'n cael eu datblygu i gefnogi dyfodiad pobl o Wcráin. Gwyddom fod hyn hefyd yn flaenoriaeth i awdurdodau lleol a phartneriaid diogelu perthnasol.

Yn gyffredinol, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyflawni eu swyddogaethau diogelu statudol presennol mewn perthynas â'r cynllun noddi unigol hwn, fel y byddent ar gyfer unrhyw boblogaeth arall yng Nghymru. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn berthnasol waeth a yw person o Wcráin yn lletya gyda noddwyr unigol, lletywyr ymateb sy'n cefnogi newydd-ddyfodiaid trwy lwybr prif noddwr Llywodraeth Cymru, neu wedi symud ymlaen i lety arall gan noddwyr.

Caiff y cyngor ar gofnodi ac ymateb i bryderon diogelu am blant neu oedolion sydd mewn perygl (fel y'u diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014) ei egluro yn Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac yng Nghanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cyngor ac arweiniad ychwanegol

Cynhelir amrywiaeth o archwiliadau diogelwch gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu a'r Mynegai Rhybuddion, ar bobl o Wcráin sy'n gwneud cais am Fisa. Rhaid bodloni’r archwiliadau hynny cyn cael Fisa. I gael cymeradwyaeth fel noddwr, bydd y Swyddfa Gartref yn cynnal gwiriadau diogelwch a throseddol ar y noddwr a phob oedolyn 18+ oed a fydd yn byw ar yr un aelwyd â'r gwesteion. Mae hyn yn cynnwys gwiriadau ar gronfeydd data'r llywodraeth a thrydydd partïon eraill fel Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Bydd y llywodraeth ganolog yn gwneud y gwiriadau hyn ar ddarpar westeion a noddwyr wrth ystyried y cais am fisa.

Bydd awdurdodau lleol yn cynnal gwiriadau ar y llety a'r trefniadau byw, ynghyd â gwiriadau diogelu (gan gynnwys gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) i bennu addasrwydd noddwyr a gwesteion. Gall fod gan awdurdodau lleol wybodaeth ar eu systemau, er enghraifft pryderon am ddiogelu, i awgrymu nad yw'n addas i unigolion yn y cyfeiriad lletya groesawu pobl i'w cartref. Yr awdurdod lleol unigol fydd yn penderfynu a fydd yn edrych ar y systemau mewnol hyn. Yn sgil hynny, gall penderfyniadau gael eu gwneud gan yr awdurdod lleol ynghylch yr unigolion hynny nad ydynt yn addas i groesawu rhywun i’w cartref cyn cynnal proses wirio’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Os bydd pobl yn cael eu paru o dan y cynllun ac mae'r paru hwnnw'n cynnwys cynnig llety i blentyn o Wcrain (h.y., o dan 18 oed), cynhelir Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar bob aelod o'r aelwyd sy'n 16+ oed. 

Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod angen cymorth ychwanegol ar oedolyn o Wcráin oherwydd oedran, anabledd neu salwch (y mae unigolyn 16 oed a throsodd yn yr aelwyd yn bwriadu ei ddarparu) yna gall yr awdurdod lleol ofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (gan gynnwys gwiriad o'r rhestr wahardd ar gyfer oedolion) ar gyfer yr aelodau o'r aelwyd a fydd yn darparu'r cymorth ychwanegol. 

Ym mhob achos arall, gan gynnwys os bydd perthynas deuluol rhwng yr aelod sy’n noddi a'r bobl o Wcráin, dylid cynnal Gwiriad Sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar bob aelod 16+ oed o'r aelwyd sy’n darparu'r llety.

Gellir talu am wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chostau cysylltiedig o'r tariff y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu i awdurdodau lleol drwy Lywodraeth Cymru ar gyfer pob person o Wcráin sy’n dod i’r DU.

Gwybodaeth i’r bobl sy’n cynnig llety yn eu cartref ac i bobl o Wcráin

Wrth gynnal gwiriadau diogelu, gofynnir i awdurdodau lleol ofyn i'r rheini sy’n cynnig llety gwblhau'r modiwl hyfforddiant ar-lein ar ddiogelu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i noddwyr a fydd yn cynnwys gwybodaeth iddynt am yr angen i roi gwybod am unrhyw bryderon diogelu, a sut i wneud hynny.

Mae gwefan Noddfa Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth i bobl sy'n cyrraedd Cymru am fywyd yng Nghymru, gan gynnwys sut i roi gwybod am unrhyw bryderon diogelu. 

Mae ein Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol yn darparu llinell gymorth am ddim rhwng 09:00 a 17:00 o'r gloch, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar 0808 175 1508 neu ar +44 (0)204 542, neu drwy e-bost: cymorth@noddfa.llyw.cymru.

Cyfryngau cymdeithasol

Gwyddom am achosion lle mae unigolion wedi defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i baru â pherson neu bobl o Wcráin. Er bod llawer o fanteision i'r cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd, mae llawer o risgiau hefyd mewn perthynas â diogelu a'r potensial i gamfanteisio ar bobl.  

Er mwyn sicrhau bod pob unigolyn a phob teulu yn cael eu diogelu'n effeithiol, rydym yn annog yn gryf y dylid defnyddio system baru RESET.

Mae’r cyngor yn y canllawiau i noddwyr yn nodi fel a ganlyn:

Cyfryngau cymdeithasol: pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi

Mae pawb yn defnyddio'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad ac yn gwneud mwy fyth o hynny pan fydd teuluoedd yn cael eu gwahanu. Diben y cyngor hwn yw eich helpu chi fel noddwr i ddiogelu preifatrwydd ac urddas y person neu'r bobl o Wcráin yr ydych yn rhoi llety iddynt. Weithiau bydd pobl lai gonest yn cymryd mantais o fwriadau da pobl. Dylech ofyn i chi eich hun a fyddech am i rywun rannu delweddau a gwybodaeth amdanoch chi neu'ch teulu/plant ar rwydwaith cyhoeddus, gyda neu heb ganiatâd. Cofiwch nad yw plant yn gallu rhoi 'caniatâd ar sail gwybodaeth’.

Fel noddwr, mae amrywiaeth o bethau syml y gallwch eu gwneud i helpu i ddiogelu preifatrwydd:

Pethau i’w gwneud

Gwnewch yn siŵr bod pawb yn eich cartref sy'n defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol yn ymwybodol o'u gosodiadau diogelwch a sut i'w newid.

Byddwch yn ymwybodol bod enwau defnyddwyr, lluniau proffil a bywgraffiadau cyfryngau cymdeithasol bob amser yn gyhoeddus, hyd yn oed ar gyfrifon preifat.

Byddwch yn ofalus iawn am geisiadau ffrindiau gan bobl nad ydych chi'n eu hadnabod. Gwnewch yn siŵr fod y person neu'r bobl yr ydych chi'n rhoi llety iddynt wedi lawrlwytho'r 'botwm panig' ar Facebook.

Pethau i’w hosgoi

Cyhoeddi ffotograffau o'r bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt ar rwydweithiau cyhoeddus.

Cyhoeddi unrhyw wybodaeth ynghylch lle mae'r bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt yn byw.

Cyhoeddi unrhyw wybodaeth ynghylch lle fydd y bobl rydych chi'n rhoi llety iddynt ar adeg benodol.

Tybio bod pobl yn dweud y gwir am bwy ydyn nhw.

Os ydych chi'n noddi pobl o Wcráin gan gynnwys plentyn neu blant, mae'r adnoddau hyn ar gyfer oedolion a phlant yn ddefnyddiol: Plant a phobl ifanc - Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU Rhieni a Gofalwyr - Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU.

Ymweliadau â chartrefi’r rheini sy’n cynnig llety er mwyn diogelu

Ar ôl i bobl o Wcráin gyrraedd cartrefi’r rheini sy’n cynnig llety ac i gadarnhau nad oes unrhyw bryderon diogelu na llesiant mewn perthynas â’r bobl o Wcráin neu’r bobl sydd eisoes yn byw ar yr aelwyd sy’n cynnig llety, awgrymir bod ymweliad â'r cartref yn cael ei drefnu ar gyfer wythnos gyntaf y lleoliad a thrydedd wythnos y lleoliad. Os nad oes unrhyw bryderon yn dilyn yr ymweliadau hyn, yna nid oes angen cynnal ymweliad arall. Bydd angen i awdurdodau lleol benderfynu a oes angen ymweliadau ychwanegol fesul achos. Argymhellir bod awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth am eu gwasanaethau i'r aelwydydd hynny sy'n cynnig llety.

Oni nodir anghenion diogelu a/neu ofal a chymorth penodol, yna ni fydd angen i staff/gweithwyr cymdeithasol cymwys ymweld â'r cartref. Fodd bynnag, dylai staff sy'n ymweld â'r cartref fod wedi cael hyfforddiant diogelu perthnasol. Dylent o leiaf fod wedi cwblhau’r hyfforddiant ar-lein ar ddiogelu.

Pryderon a nodir drwy wiriadau diogelu awdurdodau lleol cyn i bobl o Wcráin gyrraedd cyfeiriad y noddwr sy'n cynnig llety iddynt

Pan fydd gwiriadau awdurdodau lleol yn datgelu bod noddwr a/neu gyfeiriad yn anaddas am resymau sy'n ymwneud â diogelu, dylai'r awdurdod lleol benderfynu ar y camau priodol i'w cymryd, yn dibynnu ar lefel y risg. Efallai yr hoffai awdurdodau lleol sefydlu panel o swyddogion perthnasol i ystyried achosion.

Os bydd person(au) o Wcráin yn wynebu risg o niwed uniongyrchol gan noddwr sy'n cynnig llety iddo/iddynt a bod angen i'r awdurdod lleol gael cymorth gan Lu'r Ffiniau i atal y bobl hyn rhag mynd at y noddwr pan fyddant yn cyrraedd, dylai'r awdurdod lleol gofnodi'r mater hwn â desg gymorth Llywodraeth y DU (sef Jira).

Bydd angen i awdurdodau lleol gofrestru gan ddefnyddio'r un ddolen. Wrth gofnodi mater ar Jira, rhowch ‘safeguarding’ yn y pennawd pwnc gan fod yr achosion hyn yn cael eu blaenoriaethu.

Fel arall, gall awdurdodau lleol gysylltu â Llinell Ffôn Desg Gymorth Llywodraeth y DU ar 0303 444 4445. Mae'r llinell hon ar agor rhwng 9am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (heblaw am wyliau banc).

Yna bydd angen i'r awdurdod lleol drefnu llety arall ar gyfer y person/pobl o Wcráin. Os bydd pobl yn cysylltu â'r awdurdod lleol i ddweud bod angen llety brys arnynt neu os nodir bod angen llety brys arnynt, yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol o hyd am ddod o hyd i lety addas yn ei ardal. 

Dylai'r awdurdod lleol wneud y canlynol hefyd:

  • cyn gynted â phosibl, rhoi gwybod i'r person sydd wedi gwneud cais i fod yn noddwr na fydd yn gallu gweithredu fel noddwr, yn bersonol neu dros y ffôn, ac yna drwy lythyr neu e-bost. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod angen cymorth yr heddlu arno i hysbysu'r person sydd wedi gwneud cais i fod yn noddwr na fydd yn gallu bod yn noddwr. Dylai awdurdodau lleol wneud y penderfyniad hwn fesul achos. Os bydd yr awdurdod lleol yn asesu bod angen cynnwys yr heddlu o ganlyniad i'r risg i'w swyddogion, dylai gysylltu ag Uned Gyswllt yr Heddlu ar plu@llyw.cymru
  • os bydd yr awdurdod lleol o'r farn y gallai'r person sydd wedi gwneud cais i fod yn noddwr fod wedi torri amodau trwydded neu ddedfryd gymunedol drwy wneud cais i fod yn noddwr, dylai'r awdurdod lleol hysbysu'r Gwasanaeth Prawf drwy WalesPSIAR@justice.gov.uk
  • codi tocyn Jira i ofyn i'r noddwr gael ei dynnu oddi ar restr noddwyr Llywodraeth y DU
  • rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw gamau a gymerwyd drwy anfon e-bost at cymorth@noddfa.llyw.cymru.

Pryderon a nodir neu y rhoddir gwybod amdanynt ar ôl i bobl o Wcráin ddechrau byw gyda noddwr

Pan gaiff pryder diogelu ei nodi ar ôl i'r trefniant lletya ddechrau neu pan geir gwybod am bryder diogelu ar ôl i'r trefniant ddechrau, dylai'r awdurdod lleol ymateb yn y ffordd arferol gan wneud penderfyniadau fesul achos yn unol â dyletswyddau statudol cyfredol.

Os bydd yr awdurdod lleol o'r farn bod natur y pryderon diogelu yn golygu na ddylai pobl o Wcráin fyw yng nghyfeiriad y noddwr mwyach, dylai roi cyngor ar anaddasrwydd y trefniadau presennol a'r risgiau cysylltiedig a gwneud argymhellion i symud i lety arall.  

Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu symud pobl o Wcráin o gyfeiriad noddwr i lety arall, dylai roi gwybod i Lywodraeth Cymru am y camau a gymerwyd drwy anfon e-bost at cymorth@noddfa.llyw.cymru.

Llety arall a llety symud ymlaen

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Fframwaith ar gyfer Llety sy'n nodi trefniadau i gartrefu pobl o Wcráin. Fe'ch cynghorir i ddarllen y fframwaith hwn ar y cyd â'r canllawiau hyn.

Pobl o Wcráin sy'n mynd ar goll

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyngor yn y canllawiau i noddwyr ar sut i ymateb os na fydd person(au) o Wcráin yn cyrraedd y cyfeiriad dan sylw yn ôl y disgwyl. Mae hyn yn cynnwys gwneud ymdrechion rhesymol i gysylltu â'r person(au) o Wcráin a'u lleoli ac os na fydd yr ymdrechion hyn yn llwyddiannus, hysbysu'r heddlu am y person(au) sydd ar goll.

Mewn achosion lle mae Llywodraeth y DU wedi rhoi gwybod i ni fod person(au) wedi cyrraedd y DU ar Gynllun Uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin ond nad yw'r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol wedi llwyddi i gysylltu â nhw, bydd staff y Ganolfan Gyswllt yn rhoi gwybod i'r heddlu bod y person ar goll drwy ffonio 101. 

Mewn achosion lle mae staff y Ganolfan Gyswllt wedi cysylltu â pherson(au) o Wcráin a'u bod wedi methu â chyrraedd y llety cychwynnol, mae angen i’r awdurdod lleol sy’n darparu cymorth cofleidiol i’r llety dros dro roi gwybod i’r heddlu bod y person(au) ar goll drwy ffonio 101.

Mewn achosion lle mae person(au) o Wcráin yn cael llety drwy’r Cynllun Noddwyr Unigol Cartrefi i Wcráin ond bod y person(au) wedi methu â chyrraedd at y noddwr perthnasol sy’n lletya, bydd gofyn i’r noddwr sy’n lletya roi gwybod i'r heddlu bod y person ar goll drwy ffonio 101.

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn cwmpasu amrywiaeth o weithredoedd camdriniol a thrais a gaiff eu cyflawni'n anghymesur yn erbyn menywod, a all gynnwys cam-drin domestig (cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol a rheolaeth drwy orfodaeth), trais rhywiol a thrais, cam-drin ‘ar sail anrhydedd’ gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas dan orfod a llofruddiaethau ‘anrhydedd’, yn ogystal ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus.

Er bod y term VAWDASV yn cydnabod bod y mwyafrif llethol o ddioddefwyr yn fenywod, gall cam-drin domestig, trais rhywiol ac aflonyddu effeithio ar bawb, waeth beth fo'u rhywedd.

Yng Nghymru, mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn ceisio gwella mesurau i atal VAWDASV a gwella'r diogelwch a'r cymorth a roddir i ddioddefwyr a goroeswyr. 

Efallai y bydd pobl o Wcráin sy'n dod i'r DU wedi profi VAWDASV yn eu gwlad enedigol, ar eu taith i'r DU neu ar ôl iddynt gyrraedd y DU.

Bydd angen i noddwyr a lletywyr fod yn ymwybodol y gallai pobl o Wcráin sy'n dod i'r DU fod wedi profi VAWDASV yn eu mamwlad, fel rhan o'u taith i'r DU neu ar ôl iddynt gyrraedd y DU.

Gall noddwyr a gwesteiwyr gael gwybodaeth am adnabod VAWDASV a'r gwasanaethau cymorth perthnasol trwy gwblhau modiwl eDdysgu Mynediad Agored Llywodraeth Cymru. Mae ar gael yn ddwyieithog a dylai gymryd tua 45 munud. Mae'r canllawiau hefyd yn rhoi manylion am wasanaethau cymorth i bobl sy'n profi VADASV neu i bobl sy'n poeni am eraill. 

Mae'n bwysig bod staff awdurdodau lleol sy'n ymwneud â phobl o Wcráin yn gwybod beth yw VAWDASV, yr arwyddion i gadw golwg amdanynt a sut i gefnogi rhywun sydd wedi profi VAWDASV neu sy'n wynebu perygl o hynny.

O dan Ddeddf VAWDASV 2015, dylai holl staff awdurdodau lleol gael hyfforddiant VAWDASV. Dylai staff awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda'r cyhoedd ac sy'n dod i gysylltiad â phobl a allai fod wedi dioddef VAWDASV (cleientiaid sydd naill ai'n cael asesiad a/neu fod gofal yn cael ei ddarparu) fod wedi cael hyfforddiant Gofyn a Gweithredu hefyd. Mae hyfforddiant Gofyn a Gweithredu yn sicrhau bod gan weithlu awdurdod lleol y sgiliau i ofyn am ac ymateb yn ddiogel i ddatgeliadau o drais a chamdriniaeth.

Mae gwasanaethau cymorth VAWDASV arbenigol ym mhob ardal yng Nghymru a all gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddioddefwyr VAWDASV. Gall cymorth gynnwys; cymorth emosiynol, cymorth ymarferol, mynediad i lety brys, mesurau addysgol ac ataliol, asesiadau risg a chynlluniau diogelwch.

Argymhellir yn gryf eich bod yn ystyried atgyfeirio unigolyn at wasanaeth arbenigol cyn gynted â phosibl ar ôl cael gwybod am VAWDASV.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Mae ein llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24/7, sydd ar gael am ddim i bawb sydd wedi dioddef a goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Gellir cysylltu â Byw Heb Ofn yn y ffyrdd canlynol:

Ffôn: 0808 80 10 800 (croesewir galwadau yn Gymraeg)

Testun: 0786 007 7333

Ebost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru

Sgwrsio byw.

Llinell gymorth Dyn Cymru – sefydliad sy'n helpu dynion sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Ffoniwch 0808 801 0321 neu e-bostiwch support@dynwales.org (cymorth i ddioddefwyr gwrywaidd)

Cymorth i Ferched Cymru – sefydliad sy’n cefnogi menywod yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig.

BAWSO – sefydliad arbenigol sy'n cefnogi cymunedau ethnig lleiafrifol.

Meic – llinell gymorth ddwyieithog, ddienw a chyfrinachol sydd ar gael am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru ac sy'n darparu gwybodaeth, cyngor defnyddiol a chymorth. Mae Meic ar agor rhwng 8am a chanol nos, 7 diwrnod yr wythnos, dros y ffôn, drwy negeseuon testun a negeseua gwib. 

Ffôn: 0808 80 23456

Testun: 54001

Sgwrsio byw.

Caethwasiaeth fodern a chamfanteisio

Mae caethwasiaeth fodern yn derm ymbarél sy'n cynnwys masnachu pobl, caethwasiaeth a llafur dan orfod. Gall caethwasiaeth fodern effeithio ar bobl o bob oed, rhyw a hil ac mae'n cynnwys amrywiol fathau o gamfanteisio. Mae 4 prif fath o gaethwasiaeth fodern:

  1. Camfanteisio ar weithwyr
  2. Camfanteisio troseddol
  3. Camfanteisio rhywiol
  4. Caethwasanaeth domestig

Wrth i westeion o Wcráin addasu i fywyd yn y DU, mae posibilrwydd y gallai rhywrai gamfanteisio arnynt neu eu bod mewn perygl o gaethwasiaeth fodern gan y rhai sy'n ceisio elwa ar hynny.

Er bod caethwasiaeth fodern yn fater a gedwir yn ôl, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru, y Swyddfa Gartref ac asiantaethau llywodraethol ac anllywodraethol eraill i fynd i'r afael â'r drosedd hon, a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr.

Dylai staff awdurdodau lleol sy'n meithrin cysylltiadau ag Wcreiniaid fod yn ymwybodol o gaethwasiaeth fodern.

Mae gwybodaeth ac adnoddau hygyrch ac amlieithog ar gaethwasiaeth fodern hefyd ar gael drwy ffynonellau ar-lein, gan gynnwys:

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr ddilyn y Canllawiau Statudol ar gyfer Cymru a Lloegr o dan adran 49 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Dylai Awdurdodau Lleol yng Nghymru hefyd ddilyn Llwybr Diogelu Cymru mewn perthynas â Chaethwasiaeth Fodern.

Mae llawer o wahanol arwyddion o gaethwasiaeth fodern sy'n dibynnu ar y math o gamfanteisio. Mae Unseen UK, sy'n cynnal Llinell Gymorth ar Gaethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio, wedi cynhyrchu gwybodaeth am arwyddion o gaethwasiaeth fodern y dylid cadw golwg amdanynt.

Darllenwch Wybodaeth am adrodd ynghylch caethwasiaeth fodern. Yng Nghymru, mae dull Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) yn cael ei fabwysiadu i gyfeirio oedolion sy'n ddioddefwyr i gael cymorth, a dylid dilyn canllawiau priodol MARAC. Llenwch y ffurflen ar-lein i wneud atgyfeiriad o dan y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM).

Mae angen cael cydsyniad ar sail gwybodaeth er mwyn i oedolyn gael ei gyfeirio i'r NRM. Os nad yw oedolyn yn cydsynio i gael ei atgyfeirio, dylid gwneud atgyfeiriad Dyletswydd i Hysbysu gan ddefnyddio'r un ffurflen ar-lein.

Ar ôl cyfeirio'r achos i’r NRM, dylai awdurdod cymwys y Swyddfa Gartref wneud penderfyniad o fewn pum niwrnod ynghylch a oes sail resymol dros amau bod y person a atgyfeirir yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern. Gelwir hyn yn benderfyniad ar Seiliau Rhesymol. Yn dilyn penderfyniad cadarnhaol ar Seiliau Rhesymol, bydd y dioddefwr posibl yn dechrau ar gyfnod adfer hyd nes y gwneir penderfyniad ar Seiliau Terfynol.

Dylai oedolion a'u dibynyddion gael cymorth drwy'r cyfnod adfer. Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol, cymorth meddygol, llety, gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, a chynrychiolaeth gyfreithiol. Bawso yw darparwr y gwasanaeth Gofalu am Ddioddefwyr Caethwasiaeth Fodern a Chydlynu’r Gofal (MSVCC) yng Nghymru.

Rhaid cyfeirio plant yr amheuir eu bod yn ddioddefwyr caethwasiaeth fodern i’r NRM bob amser, ac nid oes rhaid iddynt roi caniatâd. Yn ogystal, dylid cyfeirio planti’r gwasanaeth Gwarcheidiaeth Annibynnol ar Fasnachu Plant (ICTG). Mae'r gwasanaeth ICTG, a weithredir gan Barnardo's, yn gweithredu ar draws Cymru gyfan. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu amrywiol wasanaethau ymarferol, seicolegol ac emosiynol arbenigol i blant. Gellir cyfeirio plant gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon. Mae hyn yn ychwanegol at atgyfeirio i’r NRM ac atgyfeiriadau diogelu eraill y mae'n rhaid eu gwneud hefyd.

Mae'r Awdurdod Gangfeistri a Cham-drin Llafur (GLAA) wedi cynhyrchu posteri ‘Gwybod Eich Hawliau’ am gamfanteisio, sydd ar gael yn Saesneg ac yn Wcreineg. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod y posteri hyn yn cael eu harddangos ym mhob Canolfan Groeso a llety dros dro cychwynnol yn eu hardaloedd.

Mae gan bobl o Wcráin sy'n ceisio noddfa yr hawl i weithio ar unwaith ar ôl iddynt gael fisa i aros yn y DU o Wcráin. Er hynny, ni chaniateir i gynigion llety fod yn gysylltiedig â chynigion am waith. Mae'n bosibl y bydd rhai noddwyr yn cynnig cyfleoedd gwaith ar ôl i bobl o Wcráin gyrraedd eu llety nawdd, ond rhaid i hawliau cyflogaeth Wcreiniaid gael eu parchu yn llwyr. Ni ddylent orfod derbyn cyflogaeth na pharhau â chyflogaeth er mwyn cynnal eu llety.