Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth ychwanegol gwerth £24 miliwn i adfywio canol trefi Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

  • Bydd £18.4 miliwn o gyllid benthyciad Trawsnewid Trefi yn rhoi bywyd newydd i eiddo hen a gwag.
  • Bydd £3.34 miliwn yn helpu busnesau'r stryd fawr i dyfu a chroesawu technoleg ddigidol arloesol a fydd yn helpu eu busnes i ffynnu fel rhan o Flwyddyn Trefi SMART.
  • Bydd £3 miliwn ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gymell mwy o fusnesau yng Ngogledd Cymru i leoli yng nghanol trefi.

Ers 2015, mae rhaglen Benthyciadau Canol Trefi Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid i awdurdodau lleol fel y gallant gefnogi landlordiaid i ailddatblygu eiddo gwag ac eiddo nad yw’n cael ei defnyddio'n ddigonol. O dan y cylch ariannu hwn, gall awdurdodau lleol weithredu'n uniongyrchol a defnyddio eu cyfran o'r £18.4 miliwn i gamu i mewn i brynu ac ailddatblygu eiddo i gefnogi gwaith arallgyfeirio canol ein trefi drwy annog defnydd mwy cynaliadwy ar gyfer safleoedd ac adeiladau gwag, megis preswyl, hamdden ac ar gyfer gwasanaethau allweddol. 

Unwaith y bydd y Benthyciad Canol Tref yn cael ei ad-dalu, bydd yr arian yn cael ei ailddefnyddio i ariannu benthyciadau newydd, dod â safleoedd gwag a diffaith yn ôl i ddefnydd, helpu busnesau i dyfu a ffynnu, a chefnogi gweithgareddau i gynyddu nifer yr ymwelwyr ar ein strydoedd mawr.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn elwa ar £2.570 miliwn ar gyfer ailddatblygu safleoedd strategol yng Nglynebwy a Bryn-mawr, tra bydd Cyngor Sir y Fflint yn derbyn £750,000 i ailddatblygu nifer o adeiladau a fyddai fel arall yn anodd eu defnyddio eto.

Bydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn derbyn £6 miliwn o gyllid i ddod ag adeiladau gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd o fewn y ddinas a bydd Cyngor Sir Powys yn derbyn £2 miliwn i ailddatblygu'r hen farchnad da byw yn Llanidloes.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

Fel rhan o'n dull Trawsnewid Trefi, rydym wedi buddsoddi dros £40 miliwn o gyllid Benthyciadau Canol Trefi dros dymor y Senedd hon, gan alluogi ailddatblygu a meddiannu llawer o adeiladau canol trefi ledled Cymru. Edrychaf ymlaen at weld mwy o gartrefi, swyddfeydd a busnesau'n datblygu diolch i'r gwelliannau i eiddo a welwn o ganlyniad i'r cylch ariannu diweddaraf hwn.

Bydd y cyllid o £3.34 miliwn ar gyfer canol trefi yn hanfodol i alluogi busnesau i gynllunio prosiectau a fydd yn cefnogi eu twf economaidd yn ogystal â'u helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data i helpu cwmnïau i ddeall eu sylfaen cwsmeriaid a'u tueddiadau yn well a fydd yn cefnogi busnesau yn eu gweithgareddau cynllunio a marchnata yn y dyfodol. Bydd yr arian hefyd yn helpu i sefydlu siopau dros dro a hybiau creadigol i gynyddu eu cynnig manwerthu a bydd yn sbarduno mwy o ymwelwyr i ganol y dref.

Bydd cronfa entrepreneuraidd ar wahân gwerth £3 miliwn yng nghanol trefi Gogledd Cymru yn cymell entrepreneuriaid newydd i leoli eu busnesau yng nghanol trefi Wrecsam, y Rhyl, Bae Colwyn a Bangor. Mae'r gronfa'n cynnwys cyllid grant a benthyciad; bydd y cyllid benthyciad yn cael ei ddarparu gan Fanc Datblygu Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

Mae cefnogi ein busnesau a chanol ein trefi yn rhan allweddol o'n Cenhadaeth Cadernid ac Ailadeiladu Economaidd wrth i ni anelu at ailadeiladu economi Cymru fel ei bod yn fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrdd nag erioed o'r blaen.

Rydym oll wedi gweld pwysigrwydd llwyfannau digidol yn ystod y pandemig, o ran sut rydym yn cysylltu â'n gilydd, yn prynu nwyddau a sicrhau mynediad at wasanaethau. Bydd manteisio i’r eithaf ar dechnoleg yn hanfodol i lwyddiant busnesau yn y dyfodol ac rwy'n falch iawn y bydd ein cyllid ar gyfer canol ein trefi yn helpu trefi a busnesau i wneud yr union beth hwnnw.

Rwyf hefyd yn falch y byddwn yn gallu darparu cymhellion pwysig i fusnesau fel y gallwn gynyddu nifer yr ymwelwyr yn Wrecsam, y Rhyl, Bae Colwyn a Bangor. Bydd y cyllid hwn yn helpu i ddenu busnesau a phobl yn ôl i ganol trefi.