Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ystadegau ar ysgolion, athrawon a disgyblion yn cynnwys data ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ym mis Ebrill 2021.

Amseru

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â chyfnod amser sy'n cynnwys rhan o'r pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae'r data mwyaf diweddar yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â'r sefyllfa ym mis Ebrill 2021. Fel arfer byddai'r Cyfrifiad Ysgol Flynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) yn cael ei gynnal ym mis Ionawr. Fodd bynnag, roedd ysgolion ar gau rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ac felly gohiriwyd dyddiad y cyfrifiad i 20 Ebrill 2021.

Nodyn ar ansawdd a chwmpas y data

Mae’r data yma dros dro. Nid yw'r data wedi mynd trwy'r prosesau dilysu data arferol eto. Fel rhan o Setliad Cyllid Llywodraeth Leol Cymru, dychwelir y data i awdurdodau lleol i'w ddilysu'n derfynol. Er bod y mwyafrif o ysgolion yn gallu cyflwyno data cyn y dyddiad cau cychwynnol ar gyfer casglu data, nid oedd 6 ysgol yn gallu gwneud hynny. Dim ond yng nghyfrif yr ysgolion yn y prif bwyntiau y mae'r ysgolion hyn yn wedi’u cynnwys. Fe’u hychwanegir at gyhoeddiad terfynol cyfrifiad yr ysgolion ym mis Medi 2021. Felly bydd nifer y disgyblion a ddangosir yn y prif bwyntiau yn cynyddu rhywfaint pan gyhoeddir y data terfynol.

Felly dylai defnyddwyr fod yn fwy gofalus wrth gymharu data ar ddisgyblion a staff dros amser, yn enwedig lle mae carfannau bach.

Beth sy'n cael ei gyhoeddi?

Yn ystod y pandemig bu mwy o ddiddordeb mewn data ar gyfer ysgolion, yn enwedig o ran nifer y disgyblion ar gyfer llywio unrhyw raglenni brechu posibl mewn ysgolion a hawl i gael prydau ysgol am ddim. Er mwyn llywio dadl gyhoeddus yn y dyfodol rydym wedi penderfynu cyhoeddi'r data dros dro cynnar hwn. Mae hyn yn sicrhau bod gan ddefnyddwyr fynediad at ystadegau swyddogol i amserlenni tebyg ag yn y blynyddoedd blaenorol. Oherwydd natur dros dro'r data, ar hyn o bryd nid ydym ond yn cyhoeddi set gyfyngedig o wybodaeth. Ym mis Medi 2021 byddwn yn rhyddhau ein cyfres lawn arferol o ddata trwy Daenlen Dogfen Agored a StatsCymru.

Prif bwyntiau

  • Roedd 1,473 ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 7 llai o’i gymharu ag Ionawr 2020.
  • Roedd 473,066 disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 3,890 yn fwy na mis Ionawr 2020.
  • O’r 378,262 disgybl 5 i 15 oed, roedd 23.3% yn gymwys am brydau ysgol am ddim, i fyny o 19.9% yn Ionawr 2020. Nid yw’r ffigurau yma yn cynnwys gwarchodaeth drosiannol (gweler isod).
  • Roedd 23,855 o athrawon cymwysedig cyfwerth ag amser llawn mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, 260 yn fwy na mis Ionawr 2020.
  • Roedd 92,359 o ddisgyblion gydag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion a gynhelir (19.5% o’r holl ddisgyblion), i lawr o 97,551 (20.8%) yn Ionawr 2020.

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

O'r 378,262 o ddisgyblion rhwng 5 a 15 oed, roedd 25.2% yn gymwys am brydau ysgol am ddim neu warchodaeth drosiannol ym mis Ebrill 2021, i fyny o 21.1% yn Ionawr 2020.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion, ym mis Ebrill 2021 (dros dro): tabl , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 7 KB

ODS
7 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.