Bwydlenni a ryseitiau ar gyfer brecwast, prydau, byrbrydau a diodydd i blant yn eich gofal.
Bwriedir i'r ryseitiau a ddarperir weini 5 i 20 o blant dan 5 blwydd oed. Gellir addasu'r ryseitiau ar gyfer grwpiau mwy neu lai o faint ac maent yn awgrymu sut i'w haddasu ar gyfer plant iau.
Mae'r holl ryseitiau yn bodloni'r argymhellion deietegol ar gyfer y grŵp oedran hwn ac yn dilyn canllawiau arfer gorau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau gofal plant.
Mae modd creu bwydlenni ar wahân ar gyfer lleoliadau sy'n darparu byrbrydau a diodydd yn unig, gan ddefnyddio'r fwydlen byrbrydau enghreifftiol a gan gyfeirio at y canllawiau arfer gorau.
Gwybodaeth am alergenau
Mae pob rysáit a rhestr o gynhwysion yn nodi a yw'r 14 o alergenau sy'n destun deddfwriaeth labelu bwyd yr UE a'r DU yn bresennol. Os ydych yn paratoi bwyd ar gyfer plentyn sydd ag alergedd bwyd, dylech edrych ar becynnau y cynhwysion a'r cynhyrchion a ddefnyddir gennych bob tro.
Mae mwy o wybodaeth am alergeddau ar gael yn y canllawiau arfer gorau.
Ryseitiau
Nid yw'r Canllawiau arfer gorau Bwyd a Maeth ar gyfer lleoliadau Gofal Plant hyn ar gael dros dro. Mae'n cael ei adolygu i adlewyrchu'r cyngor diogelwch bwyd cyfredol.
Canllawiau arfer gorau
Mae ein canllawiau yn rhoi gwybodaeth fanwl ynghylch darparu prydau, byrbrydau a diodydd maethlon a chytbwys i blant hyd at 12 mlwydd oed sydd yn eich gofal.