Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar Hunanladdiad a Hunan-niwed newydd i gefnogi athrawon a gweithwyr proffesiynol sy'n dod i gysylltiad â phobl ifanc yn rheolaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r canllaw'n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar a rheoli meddyliau am gyflawni hunan-niwed a hunanladdiad yn ddiogel pan fyddant yn codi.

Bydd y canllaw'n darparu ffynhonnell gyflym a hygyrch ar gyfer egwyddorion arfer gorau a bydd yn cyfeirio at ffynonellau cymorth a chyngor eraill.

Wrth siarad mewn ymweliad â'r Samariaid yng Nghaerdydd, dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

"Mae unrhyw hunanladdiad yn un yn ormod, yn drychineb sy'n effeithio ar deulu'r unigolyn, ei ffrindiau a'r gymuned gyfan. Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i annog trafodaethau agored â phlant a phobl ifanc am eu hiechyd meddwl.

"Bydd y canllaw newydd hwn yn helpu staff sydd â chysylltiad uniongyrchol â phobl ifanc i ddarparu cymorth effeithiol ac i gael y sgyrsiau hynny, sy'n aml yn anodd, a allai achub bywyd yn y pen draw."

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

"Mae sgil-effeithiau hirdymor hunanladdiad a hunan-niwed yn hollol drychinebus. Mae’r canllaw hwn yn adnodd pwysig ar y pwnc a byddyn cefnogi ein gwaith ehangach o ran ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol."

Mae'r Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar hunanladdiad a hunan-niwed wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr o'r byd academaidd i ddatblygu canllaw i ysgolion ar sut i siarad am hunanladdiad a hunan-niwed gyda'u disgyblion. Mae'r Athro Ann John o Brifysgol Abertawe wedi gweithio gyda chydweithwyr yn y Grŵp Cynghori Cenedlaethol, pobl ifanc, Mind-Ed a sefydliadau eraill ym myd addysg a'r sector iechyd i gynhyrchu'r canllaw hwn.

Dywedodd yr Athro Ann John: 

"Mae achosion o hunan-niwed ymhlith plant a phobl ifanc oedran ysgol yn broblem fawr iawn ac mae angen i bob un ohonom ei gymryd o ddifrif. Yn aml, mae'n ffordd o ddelio ag emosiynau anodd, sy'n peri gofid. Pan fydd person ifanc yn datgelu ei fod yn hunan-niweid, mae'n gyfle enfawr i'w helpu – y peth gwaethaf y gallwch ei wneud yw gwneud dim.

Mae athrawon a staff eraill ysgolion yn aml ar y rheng flaen o ran cael y sgyrsiau hyn â phobl ifanc ond mae nifer yn poeni y byddant yn dweud y peth anghywir. Dywedodd athrawon yng Nghymru eu bod am gael cyngor ymarferol ar sut i helpu. Mae'r canllaw hwn yn gwneud hynny ac mae'n wych bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth yn y ffordd hon. Mae'n cwmpasu dealltwriaeth gyffredinol o hunan-niwed, arwyddion i gadw golwg amdanynt, awgrymiadau ar sut i gael y sgyrsiau hynny a beth i'w wneud os byddant yn canfod bod disgybl yn hunan-niweidio.'

Dywedodd Sarah Stone, Cyfarwyddwr Samariaid Cymru, sydd wedi croesawu'r canllaw, "Rydym yn gobeithio y bydd yn rhoi'r hyder i staff addysgu estyn allan at blant a phobl ifanc fel ffordd hanfodol o atal ac ymyrryd yn gynnar. Rydym yn credu bod y canllaw hwn yn rhan o botensial ac uchelgais ehangach y cwricwlwm newydd ac y dylid ei ystyried fel rhan o'r dull gweithredu ysgol gyfan hwnnw er mwyn sicrhau ei fod mor effeithiol â phosibl. Mae'r Samariaid yn bodoli er mwyn lleihau achosion o hunanladdiad ac felly rydym yn croesawu unrhyw fesur sy'n gwella sgiliau staff i adnabod ac ymyrryd â meddyliau am gyflawni hunan-niwed a hunanladdiad; dwy broblem iechyd cyhoeddus fawr yng Nghymru"