Neidio i'r prif gynnwy

O heddiw ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio y gallai modurwyr sy'n gyrru’n gyflymach na'r terfynau cyflymder o 50mya rhwng cyffyrdd 24 a 28 ar yr M4 gael dirwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma’r cam olaf fel rhan o nifer o gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi ar waith er mwyn gwella ansawdd aer ar rai o’r ffyrdd sy’n creu’r llygredd mwyaf ledled Cymru, yn ogystal â lleihau tagfeydd a gwella diogelwch ar hyd y rhan hon o’r M4.

Ers i Lywodraeth Cymru wneud y penderfyniad i gyflwyno terfynau cyflymder amgylcheddol i wella lefelau ansawdd aer mewn pum lleoliad gwahanol ledled Cymru, y cyntaf o’i fath yn y DU, mae'r lefelau nitrogen deuocsid wedi cael eu gostwng yn llwyddiannus yn yr ardaloedd hyn.

Dechreuodd y mesurau gorfodi mewn pedair o’r pum ardal ym mis Hydref y llynedd ac mae heddiw’n nodi cwblhau’r ehangu hwn gyda chyffyrdd 24 i 28 yr M4 yn mynd yn fyw heddiw.

Ystyrir mai llygredd aer yw un o'r risgiau mwyaf i iechyd yr amgylchedd yn ein cenhedlaeth, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd. Bydd gyrru ar 50mya nid yn unig yn ein helpu ni i gyd i amddiffyn ein teuluoedd rhag salwch difrifol fel clefyd y galon, canser yr ysgyfaint ac asthma, ond mae hefyd yn helpu i reoli tagfeydd, gwella amserau teithio a lleihau damweiniau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth:

“Rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau lefelau allyriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n rhaid i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach erbyn hyn.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw terfynau cyflymder arafach yn ddewis poblogaidd, ond mae angen i ni wneud pethau'n wahanol a bod yn fentrus i gael unrhyw obaith o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.”

“Mae'n amlwg bod y terfynau cyflymder rydyn ni wedi'u cyflwyno ar ein ffyrdd mwyaf llygredig yn gweithio - mae'r canlyniadau'n dangos hynny’n glir - ond mae cydymffurfio â'r terfynau hyn yn hanfodol os ydym am gyflawni'r gostyngiadau y mae angen i ni eu gwneud yn yr amser byrraf posibl.

“Mae angen i ni weithredu nawr i wneud Cymru'n lle diogel i fyw gydag aer glân i bawb.”

Dywedodd yr Uwch-arolygydd, Michael Richards o Heddlu Gwent:

“Mae'r terfynau cyflymder amgylcheddol o 50mya yn chwarae rhan bwysig wrth fynd i'r afael â llygredd ar rai o ffyrdd mwyaf llygredig Cymru, gan helpu Cymru a'i chymunedau i adeiladu dyfodol glanach, iachach a mwy diogel.

“Mae pob un o'r pedwar Heddlu yng Nghymru yn cefnogi camau gorfodi'r terfynau cyflymder hyn.”

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:

“Mae GanBwyll yn cefnogi'r terfynau cyflymder amgylcheddol o 50mya yn llawn. Yn ogystal â lleihau lefelau NO2 ac adeiladu amgylcheddau glanach ar gyfer ein cymunedau, bydd y parthau hyn yn helpu i leihau gwrthdrawiadau a gwneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel i bawb.

"Bydd GanBwyll yn parhau i gefnogi'r terfynau cyflymder amgylcheddol hyn o 50mya, drwy addysg a gorfodaeth, wrth inni i gyd weithio gyda'n gilydd tuag at gymunedau glanach a mwy diogel.”