Neidio i'r prif gynnwy

Mae uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru Ddigidol wedi dod gam yn nes wrth i'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans gyhoeddi cychwyn profion ar gyfer Canolfan ddigidol newydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y 'Ganolfan' newydd arfaethedig yn helpu i drawsnewid gwasanaethau digidol ar draws sector cyhoeddus Cymru, gan ddatblygu system safonol, hawdd ei defnyddio, sy'n addas ar gyfer y 21ain ganrif.

Dros y chwech i naw mis nesaf, bydd corff annibynnol yn gweithio gyda staff o bob cwr o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i edrych ar atebion ymarferol i rai o'r heriau a glustnodwyd yn ystod cam cyntaf y prosiect. Bydd hyn yn cynnwys:

Darparu academi sgiliau digidol – wedi’i lleoli yng Nglyn Ebwy, bydd yr academi sgiliau yn profi rhaglen arweinyddiaeth ddigidol wedi'i hanelu at uwch arweinwyr o bob cwr o sector cyhoeddus datganoledig Cymru.  Bydd y tîm yn gweithio'n agos gyda phartneriaid hyfforddi lleol i nodi lefel yr hyfforddiant sgiliau digidol sy'n angenrheidiol yng Nghymru. Bydd yr academi hefyd yn darparu hyfforddiant sgiliau digidol i staff sector cyhoeddus ar draws Cymru.

Darparu cyfnod prawf wyth wythnos ar wasanaeth cyhoeddus penodol – er mwyn arddangos sut y gallwn lunio a darparu gwasanaethau hawdd eu defnyddio. Bydd y cam hwn dan arweiniad tîm bach o arbenigwyr digidol, ac yn rhoi cyfle i brofi problemau defnyddwyr go iawn, er mwyn deall pam eu bod yn bodoli a datblygu atebion posib.

Creu man rhannu gwybodaeth – a fydd yn cael ei ddefnyddio i rannu straeon defnyddwyr [cadarnhaol ac o bosib yn llai cadarnhaol], strategaethau a chynlluniau digidol, safonau cyffredin a helpu sefydliadau i gyflawni ymchwil defnyddwyr effeithiol.

Dywedodd Rebecca Evans:

"Mae trawsnewid digidol yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y ffyrdd mae pobl yn eu disgwyl a newid cymunedau Cymru er gwell – ond rhaid i ni weithio gyda'n gilydd.

"Rwy'n falch iawn, wrth weithio gyda'm cydweithwyr yn y Cabinet, bod cyfle nawr i brofi prosesau a gwasanaethau cyson, wedi'u llunio gan y defnyddwyr, ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus."