Neidio i'r prif gynnwy

Mae cam-drin domestig neu drais yn drosedd a dylid rhoi gwybod i'r heddlu amdanynt.

Ffoniwch 999 os yw'n argyfwng neu eich bod mewn perygl a rhywbeth ar fin digwydd ichi.

Mae'r heddlu'n cymryd cam-drin domestig o ddifrif a byddant yn gallu eich helpu a'ch diogelu.

Mae'r mathau mwyaf cyffredin o gam-drin domestig a cham-drin rhywiol yn digwydd o fewn perthynas, fodd bynnag gall ddigwydd hefyd rhwng aelodau teulu. Gall unigolion ddioddef camdriniaeth neu barhau i oddef ei effaith am gyfnod ar ôl gadael eu partner.

Cael help os ydych chi'n meddwl eich bod yn dioddef cam-driniaeth neu drais

Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn yn darparu cymorth a chyngor ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol
  • pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth
  • ymarferwyr sydd angen cyngor proffesiynol

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.

Cael help os ydych chi'n meddwl eich bod yn cam-drin rhywun

Mae llinell gymorth Respect yn llinell gymorth, gwasanaeth e-bost a gwasanaeth gwe-sgwrsio cyfrinachol ar gyfer pobl sydd wedi cyflawni trais domestig ac sy'n chwilio am gymorth i stopio.

Llinell gymorth Respect

Rhif ffôn: 0808 802 4040

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener. 9am hyd at 5pm.