Datganiad gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.
Wrth i ni nesáu at gyfnod yr ŵyl, mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn ceisio cydbwyso pragmatiaeth â'r brif flaenoriaeth o ddiogelu iechyd y cyhoedd. I wneud hyn, rydym wedi ymuno â'n gilydd i gyhoeddi canllawiau ac argymhellion clir, fel a ganlyn.
Mae Nadolig llai yn Nadolig diogelach, ac mae Nadolig byrrach yn Nadolig diogelach. Y ffordd fwyaf diogel o dreulio'r Nadolig yma yw gyda'ch aelwyd eich hun neu'ch swigen gefnogi bresennol yn eich cartref eich hun - ac rydym yn argymell yn gryf mai dyma rydych yn ei wneud os yw hynny’n bosib.
Rydym yn gwybod bod pobl wedi gwneud ymdrech fawr eleni i amddiffyn eu hanwyliaid a'r GIG. Rydym yn gwybod bod pobl eisiau gweld bywyd yn dychwelyd i normal. A gyda brechiadau’n cael eu rhoi nawr, rydym yn hyderus y bydd yn gwneud hynny y flwyddyn nesaf. Ond er mwyn cyrraedd at hynny’n ddiogel, ni all hwn fod yn Nadolig arferol. Rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i atal y feirws rhag lledaenu, ac i ddiogelu ein ffrindiau, ein teuluoedd a'n gweithwyr rheng flaen.
Mewn rhai ardaloedd, mae nifer y bobl sydd â COVID-19 yn cynyddu'n gyflym, fel y mae mewn rhannau helaeth o Ewrop. Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithredu'n gyfrifol dros y Nadolig i gyfyngu ar y risg o drosglwyddo pellach a chadw ein gilydd mor ddiogel â phosibl. Nid yw un o bob tri o bobl sydd â COVID-19 yn dangos symptomau ond gallant basio'r feirws i rywun arall yr un fath.
I'ch diogelu chi a'ch anwyliaid, rydym yn argymell eich bod yn meddwl yn ofalus iawn am y risgiau o ffurfio swigen. Trafodwch opsiynau eraill yn lle cyfarfod wyneb yn wyneb, neu ffyrdd o gyfarfod yn yr awyr agored. Dim ond os ydych chi'n teimlo bod gwir angen i chi wneud hynny y dylech ffurfio swigen.
Os byddwch yn penderfynu bod angen i chi ffurfio swigen Nadolig, cymerwch ragofalon i leihau'r risg drwy atal cyswllt cymdeithasol diangen y tu allan i'ch aelwyd cyn gynted â phosibl, ac am o leiaf bum niwrnod cyn i chi gwrdd ag aelwydydd eraill yn eich swigen, a thrwy weithio gartref os gallwch chi. Ni ddylech ymweld ag aelwyd arall ar unrhyw gyfrif os ydych chi, neu unrhyw un ar eich aelwyd, yn teimlo'n sâl neu'n hunanynysu.
Mae’r cyngor gwyddonol yn glir: po hiraf yw’r amser y byddwch yn cwrdd ag eraill, yr uchaf yw'r risg y byddwch yn dal ac yn lledaenu'r feirws. Os ydych yn bwriadu ffurfio swigen, dylech gadw'r swigen yn fach a'ch ymweliadau'n fyr.
Mae'r cyfnod o bum niwrnod yn gyfnod o gyfle a dylid ei ystyried fel uchafswm cyfreithiol, nid fel targed. Os byddwch yn ffurfio swigen, rydym yn argymell eich bod yn cwrdd am yr amser byrraf posibl. Ni ddylech aros dros nos oni bai fod osgoi hynny’n amhosibl.
Mae'n arbennig o bwysig meddwl am y risg uwch i bobl sy'n fwy agored i niwed. Os ydych chi dros 70 oed neu'n agored iawn i niwed yn glinigol, meddyliwch yn ofalus am y risgiau. Efallai mai'r dull mwyaf diogel o weithredu yw peidio â ffurfio swigen Nadolig. Os ydych chi’n ffurfio swigen Nadolig, byddwch yn arbennig o ofalus a chadw at y canllawiau: cyfarfod yn yr awyr agored lle bo modd, golchi eich dwylo'n rheolaidd, cadw pellter oddi wrth y rhai nad ydych yn byw gyda nhw. Os byddwch yn cyfarfod dan do, sicrhewch awyru da drwy adael digon o awyr iach i mewn i’r ystafell. Bydd y rhai sy'n agored iawn i niwed yn glinigol a'r henoed yn cael blaenoriaeth ar gyfer brechu ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Os yw eich aelwyd neu eich swigen gefnogi bresennol yn cynnwys unigolyn sy'n agored iawn i niwed yn glinigol, meddyliwch yn ofalus. Er mwyn helpu i leihau'r risgiau i'w iechyd, y peth mwyaf diogel i’w wneud fyddai dathlu gyda'ch aelwyd neu eich swigen gefnogi, a neb arall.
Os ydych chi’n ffurfio swigen Nadolig dylech ystyried yn ofalus y risgiau o deithio o gwbl. Os ydych chi’n byw mewn ardal sydd â'r lefel uchaf o ddiogelwch, er enghraifft, haen 3 yn Lloegr a lefel 4 yn yr Alban, dylech osgoi teithio i ardaloedd â lefelau is os yw hynny'n bosibl. Bydd pob gweinyddiaeth yn cyhoeddi cyngor teithio penodol yn seiliedig ar ei hamgylchiadau ei hun. Os oes rhaid i chi deithio, archebwch ymlaen llaw i'ch galluogi chi ac eraill i deithio'n ddiogel a chynllunio eich siwrneiau allan a dychwelyd yn ofalus. Ar ôl i chi gyrraedd dylech aros yn lleol a pheidio â theithio o fewn yr ardal.
Os byddwch chi'n ffurfio swigen Nadolig, rhaid ymddwyn yn ddiogel:
- golchi eich dwylo
- cadw gofod rhwng aelodau o wahanol aelwydydd pan fo hynny’n bosibl, a
- gadael digon o awyr iach i mewn i’r ystafell.
Bydd cadw at yr ymddygiad hwn, hyd yn oed yn y cartref, yn lleihau'r risg o drosglwyddo yn sylweddol.
Bydd rhaid i bob un ohonom ddal ati i gadw at ymddygiad diogel ar ôl y Nadolig. Mae hyn yn golygu siopa dim ond os gallwch chi wneud hynny'n ddiogel:siopa ar-lein os yw hynny’n bosibl; osgoi torfeydd; ac, os ydych chi mewn ardaloedd prysur, gwisgwch orchudd wyneb a dim ond mynd i lefydd wedi'u hawyru'n dda.
Mae hefyd yn bwysig iawn lleihau cyswllt cymdeithasol ar ôl gweld eich swigen Nadolig, er mwyn lleihau'r risg o gadwyni trosglwyddo. Mae hyn yn cynnwys peidio â chwrdd â ffrindiau neu deulu y tu allan i'ch cartref ar gyfer Nos Galan. Bydd y rheolau haen neu lefel ar waith ar Nos Galan / Hogmanay ac mae'n hanfodol, fel isafswm, bod pawb yn cadw at y rhain.
Drwy gymryd y camau hyn gyda’n gilydd, gallwn ni i gyd fwynhau Nadolig diogelach.