Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau newidiadau i'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru o ddydd Llun 3 Mai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 23 Ebrill, cyhoeddodd y Prif Weinidog y gallai'r rheolau gael eu llacio ymhellach os yw’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella.

O ddydd Llun 3 Mai:

  • Gall campfeydd, cyfleusterau ffitrwydd, canolfannau hamdden, sbas a phyllau nofio ailagor
  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig, gan ganiatáu i ddwy aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen benodedig a fydd yn gallu cyfarfod a chael cyswllt dan do
  • Gall gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer plant ailddechrau, megis grwpiau a chlybiau chwaraeon, diwylliannol a hamdden ehangach. Ni chaniateir partïon pen-blwydd plant, neu gynulliadau ehangach o deuluoedd a ffrindiau mewn cartrefi preifat o hyd
  • Gall gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion hefyd ailddechrau i hyd at 15 o bobl, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio
  • Gall Canolfannau Cymunedol ailagor.

Mae hyn yn golygu y bydd Cymru wedi gorffen symud i Lefel Rhybudd 3 erbyn 3 Mai.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

“Mae sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella ac mae ein rhaglen frechu yn parhau i fod yn llwyddiant. Diolch i ymdrechion pobl ledled Cymru rydym mewn sefyllfa i lacio’r cyfyngiadau ymhellach, fel y soniwyd o'r blaen, er mwyn caniatáu i fwy o’n bywyd arferol ddod yn ôl.

"Fodd bynnag, nid yw'r feirws wedi diflannu. Mae angen i bob un ohonom barhau i gymryd y camau hollbwysig hynny yr ydym i gyd bellach mor gyfarwydd â hwy, i ddiogelu ein hunain a'n gilydd rhag y feirws ofnadwy hwn - sef drwy hunanynysu os oes gennym symptomau, cael y brechlyn covid, golchi ein dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig, dilyn y rheolau ymbellhau cymdeithasol, cyfyngu ar nifer y bobl rydym yn cwrdd â nhw yn gymdeithasol yn yr awyr agored, a dim ond cyfarfod â'r rhai yr ydym yn byw gyda nhw dan do.

“Os ydym yn cydweithio ac yn dilyn y rheolau hyn, byddwn yn dychwelyd i normalrwydd yn gyflymach. Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i gadw Cymru'n ddiogel."

Disgwylir yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau coronafeirws erbyn 13 Mai.