Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth a chefnogaeth i'r rheini sy'n dioddef trais rhywiol neu sy'n adnabod rhywun sy'n dioddef trais rhywiol.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Gall Byw Heb Ofn ddarparu cymorth a chyngor ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig
  • pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth.Er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr
  • ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol

Mae pob sgwrs â staff Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy'n brofiadol iawn ac wedi'u hyfforddi'n llawn.

Ffoniwch: 0808 80 10 800

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y llinell gymorth

Testun: 07860077333

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y gwasanaeth neges destun

E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru 

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y gwasanaeth e-bost

Gwasanaeth sgwrsio byw

Cwestiynau cyffredin

Gwybodaeth am drais rhywiol

Beth yw trais rhywiol

Ystyr trais rhywiol yw unrhyw weithred neu weithgarwch rhywiol digroeso nad yw’r sawl sy’n eu dioddef wedi cydsynio iddynt. Mae trais rhywiol yn gallu effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn eu bywydau.

Mathau o drais rhywiol?

Mae trais rhywiol yn golygu unrhyw weithred rywiol nad yw’r sawl sy’n ei dioddef wedi cydsynio iddi. Gall trais rhywiol gynnwys:

  • treisio
  • trais rhywiol
  • ymosodiad rhywiol
  • cam-drin plant yn rhywiol
  • llosgach
  • aflonyddu rhywiol
  • anffurfio organau cenhedlu benywod
  • priodas dan orfod
  • masnachu
  • camfanteisio rhywiol
  • cam-drin defodol.

Pwy sy'n gallu cael ei effeithio gan drais rhywiol?

Pwy sy’n dioddef trais rhywiol?

Gall unrhyw un ddioddef trais rhywiol ar unrhyw adeg yn eu bywyd. Gall dioddefwr ddioddef un achos o drais rhywiol, neu lawer.

Pwy sy’n cyflawni trais rhywiol?

Nid oes y fath beth â chyflawnwr nodweddiadol trais rhywiol. Gall y troseddwr fod yn ddyn neu’n fenyw o unrhyw oedran. Gallan nhw fod yn berthynas neu’n ffrind agos, yn rhywun rydych chi’n eu hadnabod neu’n ddieithryn llwyr.

Pwy sydd ar fai am drais rhywiol?

Y sawl sy’n cyflawni’r trais rhywiol sydd ar fai bob amser. Does dim gwahaniaeth beth mae’r dioddefwr yn ei wisgo, lle maen nhw, faint o alcohol maen nhw wedi’i yfed neu faint o gyffuriau maen nhw wedi’u cymryd. Os nad oedd rhywun wedi cydsynio i’r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, mae trosedd wedi’i chyflawni.

Cymorth a chefnogaeth

Gweithwyr proffesiynol sy'n gallu helpu

Mae help ar gael os ydych chi’n dioddef camdriniaeth neu os ydych chi am helpu aelod o’ch teulu neu ffrind.

Os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl difrifol neu os ydych chi angen help mewn argyfwng – ffoniwch yr heddlu ar 999. Os nad oes yna berygl difrifol, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 i gael cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim.

Siarad am gamdriniaeth

Weithiau, mae pobl yn ei chael hi’n anodd iawn siarad am gamdriniaeth gan eu bod nhw’n teimlo cywilydd neu eu bod ofn gwneud hynny. Weithiau, maen nhw’n teimlo y byddai gwneud newidiadau yn rhy gymhleth neu’n amhosibl hyd yn oed. Mae cael gafael ar gymorth yn gallu bod yn anodd iawn, yn enwedig os oes gennych chi blant.

Mae dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol yn cael effaith niweidiol ar hyder a hunan-barch y rhan fwyaf o bobl. Efallai y bydd pobl sydd wedi dod trwyddi yn teimlo nad ydyn nhw’n werth yr ymdrech neu eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth i achosi’r gamdriniaeth. Dyw hyn ddim yn wir: yr unig un sy’n gyfrifol am y gamdriniaeth yw’r sawl sy’n ei chyflawni.  

Efallai y bydd rhai pobl yn teimlo bod eu hamgylchiadau personol yn cyfyngu ar y cymorth y gallen nhw ei gael, tra bod eraill yn poeni na fyddai unrhyw un yn eu credu nhw neu y bydden nhw’n cael eu gwrthod pe baent yn ceisio cael cymorth.

Efallai y bydd pobl â statws mewnfudo ansefydlog ofn cael eu hallgludo, er bod cymorth arbenigol ar gael o dan yr amgylchiadau hyn.

Pwy ddylai allu helpu?

Mae cymorth ar gael. Os ydych chi am gael cymorth i chi’ch hun neu os ydych chi’n poeni am ffrind neu aelod o’ch teulu, dylech ystyried siarad â’ch:

  • meddyg teulu
  • ymwelydd iechyd
  • bydwraig 
  • yr heddlu
  • canolfan cyngor ar bopeth
  • cyflogwr.

Fel arall, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800, sy’n cynnig gwasanaeth cyfrinachol am ddim, 24 awr y dydd, i unrhyw un yng Nghymru sydd angen help oherwydd cam-drin domestig a thrais rhywiol – dioddefwyr, eu teulu, ffrindiau, cydweithwyr neu eraill sy’n ffonio ar eu rhan.

Gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol lleol

Efallai yr hoffech chi wybod hefyd a oes yna wasanaeth cymorth lleol a allai gynnig help, eiriolaeth a chwnsela i chi, a lle diogel os bydd angen.

Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC)

Os ydych chi wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn ddiweddar, efallai yr hoffech chi ystyried cael cymorth meddygol cyn gynted â phosibl oherwydd y perygl o feichiogrwydd a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Mae yna gyfleusterau arbennig o’r enw SARCs lle gallwch chi gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Mewn SARC, cewch gymorth gan Weithiwr Argyfwng a chyfle i weld archwilydd meddygol fforensig. Cewch gymorth hefyd i ddweud wrth yr heddlu beth sydd wedi digwydd i chi, os byddwch chi’n dymuno gwneud hynny. Mae yna gymorth a chyngor arbenigol ar gael hefyd gan eiriolwr sy’n gallu cynnig cymorth ac aros gyda chi gydol y broses.

I ddod o hyd i’ch SARC agosaf, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn.

Tai diogel a lloches

Gall gwasanaethau lleol ar gyfer cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod  yng Nghymrugynnig amrywiaeth o gefnogaeth i ddiwallu eich anghenion (ac anghenion eich plant os oes rhai gennych). Gallant gynnig cymorth gydag amrywiaeth o broblemau, gan gynnwys:

  • tai
  • materion cyfreithiol
  • mewnfudo
  • cefnogaeth drwy'r system gyfiawnder
  • arian a dyledion
  • iechyd a lles
  • cael mynediad at addysg, cyflogaeth, dysgu a sgiliau
  • mynediad at gymorth drwy gwnsela.

Mae rhai gwasanaethau yn cynnig Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVAs) ar gyfer pobl sy’n wynebu risg uwch o gael niwed.

Gall y gwasanaethau sydd ar gael gynnwys:

Llety mewn argyfwng (lloches)

Mae llochesi yn dai diogel lle y gall pobl sy'n dioddef cam-drin domestig aros, yn ddiogel rhag cael eu cam-drin, un ai mewn argyfwng neu i''w helpu i symud ymlaen a dod dros y gamdriniaeth.

Gall y math o loches y mae eich gwasanaeth lleol yn gallu'i gynnig amrywio. Mae gan y rhan fwyaf o lochesi yng Nghymru le ar gyfer 3-6 teulu ar y tro (merched gyda phlant a'r rhai heb blant). Mae rhai llochesi yn unedau teuluol hunangynhwysol, ond bydd y rhan fwyaf ohonynt yn rhoi eich ystafell eich hun ichi i'w rhannu â'ch plant,  tra'n rhannu'r ystafelloedd eraill (ee. yr ystafell fyw, y gegin, ystafell chwarae, etc,) â phreswylwyr eraill y lloches.

Mae mynediad i loches ar gael drwy linell gymorth Byw Heb Ofn neu drwy eich grŵp lleol ac mae ar gael 24 awr y dydd /365 diwrnod y flwyddyn, Mae rhwydwaith o lochesi ledled y DU, felly, gan ddibynnu a ydynt ar gael, cewch ddewis a ydych am aros ymhell o 'ch cartref, neu aros yn yr un ardal. Bydd y darparwyr lloches yn cynnal eu hasesiadau unigol eu hunain.

Mae llochesi ar gyfer Menywod a Dynion yng Nghymru.

Cymorth yn y gymuned (allgymorth neu gymorth fel bo'r angen)

Cefnogaeth ac eiriolaeth arbenigol ar gyfer dioddefwyr/goroeswyr sy'n byw yn y gymuned i helpu pobl i symud ymlaen a chadw'n ddiogel, ac i lwyddo i fyw'n annibynnol yn yr hirdymor, heb ddioddef cael eu cam-drin.

Rhaglenni addysgu ac atal ar gyfer grwpiau

Mae llawer o wasanaethau'n rhedeg amrywiaeth o raglenni ar gyfer grwpiau â'r nod o helpu menywod sydd wedi dioddef cam-drin domestig er mwyn lleihau eu hunigrwydd, cynyddu eu hyder a'u helpu i ddod dros y trais a'r gamdriniaeth y maen nhw wedi'u dioddef. 

Gwasanaethau plant a phobl ifanc

Mae llawer o wasanaethau hefyd yn darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig wedi cael effaith arnynt. Mae amrywiaeth o raglenni ar gael, sy'n addas i wahanol oedrannau, i gefnogi plant a phobl ifanc â phrofiad o gam-drin domestig, a rhai ar gyfer mamau a phlant er mwyn helpu i ailadeiladu eu perthynas.

Cymorth i bobl sydd wedi cyflawni cam-drin domestig

Mae rhai gwasanaethau yng Nghymru yn cynnal rhaglenni achrededig i herio pobl sydd wedi cyflawni cam-drin, i reoli risgiau ac i newid eu hymddygiad. 

Cymorth o ran tai

Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, efallai y byddwch am ystyried newid eich trefniadau byw.

Aros yn eich cartref eich hun

Os ydych chi am aros yn eich cartref eich hun, gallech gael gwaharddeb i gadw’r sawl sy’n eich cam-drin i ffwrdd a gorchymyn meddiannaeth i’w gwahardd o’r eiddo. Os credir eich bod mewn perygl o ymosodiad yn eich cartref eich hun, efallai y byddwch yn gymwys i waith ‘gwella diogelwch’ i sicrhau eich bod yn fwy diogel yn eich cartref.

Os ydych chi mewn tŷ rhent cymdeithasol, dylai’ch landlord cymdeithasol allu gweithio gyda chi a’ch cynghori sut y gellir tynnu enw’r partner ymosodol oddi ar y cytundeb tenantiaeth a’i symud allan o’r eiddo.

Gadael eich eiddo a dod o hyd i lety amgen

Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, efallai y byddwch am ystyried gadael y cartref rydych chi’n ei rannu gyda’r partner ymosodol. Mae nifer o opsiynau ar gael i chi os ydych chi’n teimlo y bydd gadael y cartref yn helpu i’ch cadw chi a’ch plant  yn ddiogel.

Efallai y byddwch am siarad gydag un o’r gwasanaethau arbenigol yng Nghymru a fydd yn gallu darparu gwybodaeth bellach i chi am lochesau neu ddarparu cyngor pellach i chi ar eich opsiynau tai a’ch helpu i fod yn ddiogel tra’n gwneud y penderfyniadau hyn.

Llochesau/Llety â Chymorth

Os ydych chi’n credu bod yn rhaid i chi adael eich cartref ar frys oherwydd bod eich partner neu berthynas yn eich bygwth, efallai y gallwch symud i loches/llety â chymorth. Mae’r rhain yn fannau diogel, cyfrinachol i aros ynddynt gyda staff profiadol sy’n gallu’ch helpu. Mewn argyfwng, gallwch ofyn i’r heddlu neu Ymgynghorydd Trais Domestig Annibynnol eich cynorthwyo i ddod o hyd i gymorth neu lety amgen fel lloches/llety â chymorth.

Cais am Ddigartrefedd

Os ydych chi’n credu bod yn rhaid i chi adael eich cartref oherwydd y risg o drais neu gam-driniaeth a/neu eich bod mewn perygl dybryd, efallai y bydd gan Adran Dai eich Awdurdod Lleol ddyletswydd i ddarparu cymorth i chi a’ch aelwyd.

Mae Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswyddau ar Awdurdodau Lleol i asesu anghenion aelwydydd a allai fod yn ddigartref neu sy’n cael eu bygwth â digartrefedd o fewn y 56 diwrnod nesaf.

Dylid darparu llety brys i bobl sy’n ddigartref oherwydd cam-drin domestig yn ystod y cyfnod asesu. Ar ôl yr asesiad, os yw’r Awdurdod Lleol yn fodlon bod ganddynt ddyletswydd i ddarparu cymorth i’r aelwyd, mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol gymryd camau rhesymol i ddatrys eich problemau tai.

Cymdeithasau Tai a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Os ydych chi am wneud cais am dŷ cymdeithasol fel ymgeisydd newydd, gallwch gofrestru’n uniongyrchol â chymdeithas dai neu awdurdod lleol yn eich ardal. Os nad oes tai ar gael, efallai y bydd yn rhaid i chi ddisgwyl cryn amser i eiddo addas fod ar gael. Fodd bynnag, gellir rhoi blaenoriaeth i ailgartrefu dioddefwyr cam-drin domestig, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

Gellir canfod gwybodaeth am y cymdeithasau tai sy’n gweithredu yn eich ardal gan eich awdurdod lleol. Mae manylion cyswllt yr holl awdurdodau lleol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Trosglwyddo/cyfnewid

Os ydych chi eisoes yn rhentu eiddo sy’n dŷ cymdeithasol ac mai chi yw’r unig enw ar eich tenantiaeth, gallech wneud cais i drosglwyddo neu i gydgyfnewid. Cyfnewid eich cartref â thenant arall yw hynny. Bydd eich landlord yn gallu rhoi gwybodaeth bellach i chi am y cynllun. Gall y Cynllun Cyfnewid Cartrefi ei gwneud yn haws i denantiaid sy’n byw mewn cartref Cyngor neu gymdeithas tai ddod o hyd i eiddo newydd mewn rhan arall o’r wlad. Mae’r system hon ar waith ledled y DU, sy’n golygu y dylai tenantiaid sydd am symud allu gweld yr holl dai sydd ar gael ledled y DU, nid y rhai ar y wefan y mae eu landlord cymdeithasol presennol wedi cofrestru arni yn unig.

Tai Rhent Preifat

Os ydych chi’n byw mewn tŷ rhent preifat, gallwch roi rhybudd a symud allan o’ch eiddo ar ddiwedd y denantiaeth. Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn dweud wrthych chi faint o rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi i’r landlord. Gallwch chwilio am eich tŷ rhent preifat eich hun i symud iddo hefyd. Fodd bynnag, bydd llawer o landlordiaid yn gofyn am flaendal cyn i chi allu symud i mewn.

Rhent

Os ydych chi’n derbyn Budd-dâl Tai ac wedi gadael eich cyfeiriad oherwydd trais a cham-drin domestig, gallwch wneud cais am dâl gorgyffwrdd i dalu am eich cyfeiriad gwreiddiol a’ch cyfeiriad dros dro am gyfnod byr wrth i chi roi trefn ar bethau, cyhyd â’ch bod yn bwriadu dychwelyd i’ch cyfeiriad cartref pan fo hynny’n ddiogel.

Cymorth i blant

Cadw plant yn ddiogel

Mae byw gyda thrais domestig neu rywiol yn niweidiol i blant bob amser.

Does dim rhaid i unrhyw riant neu ofalwr sy’n dioddef y pethau hyn, na’u plant, wynebu trais domestig neu rywiol ar eu pennau eu hunain. Gall unrhyw un sy’n poeni am blentyn ffonio Llinell Gymorth 24 awr yr NSPCC  am ddim ar 0808 800 5000.

Beth yw Canlyniadau Cam-drin Domestig?

Mae cam-drin domestig yn ddinistriol bob amser ac mae angen cymorth ar y rhai sy’n ei ddioddef. Mae dioddefwyr yn teimlo eu bod nhw ar eu pennau eu hunain, maen nhw’n teimlo’n ofnus, yn ddig, yn ofidus, yn gymysglyd, yn ddiymadferth, yn flinedig ac yn isel, yn euog ac yn teimlo cywilydd. Efallai na fydd y rhai sydd wedi byw gyda phartner camdriniol yn gallu darparu’r gofal a’r sylw y maen nhw’n dymuno ei roi i’w plant, ac efallai y byddan nhw’n colli golwg ar anghenion corfforol ac emosiynol eu plant.

Effeithiau ar Blant

Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith niweidiol iawn ar blant a phobl ifanc sy’n aml yn gwybod llawer mwy am yr hyn sy’n digwydd nag yr ydych chi’n sylweddoli. Mae’n gyffredin iawn i blant weld neu glywed trais corfforol a byddan nhw hefyd yn gweld sut mae’ch partner yn eich trin chi yn fwy cyffredinol. Mae plant yn cael eu dal ynghanol sefyllfaoedd trais domestig, ac mae’n gallu bod yn brofiad dryslyd a gofidus iawn iddyn nhw.  

Weithiau, mae plant yn beio eu hunain am y trais ac efallai y byddan nhw’n cuddio eu teimladau a’u problemau. Mae’n gallu cael effaith ddifrifol ar ymddygiad a lles plentyn, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cael niwed eu hunain.

Yn aml, mae plant sydd wedi bod yn dyst i drais domestig:

  • yn ofnus 
  • yn mynd i’w cragen 
  • yn ddig 
  • yn colli eu hunanhyder
  • yn dioddef problemau iechyd neu broblemau cysgu 
  • yn cael trafferthion yn yr ysgol 
  • yn teimlo gormod o gywilydd i ddod â ffrindiau adref 
  • yn dreisgar neu’n dangos problemau eraill gyda’u hymddygiad 
  • wedi cael eu brifo neu eu cam-drin yn gorfforol.

Beth alla i ei wneud i gadw fy mhlentyn yn ddiogel?

Siaradwch â’ch plant, os allwch chi, a gwrandewch sut maen nhw’n teimlo. Efallai y bydd deall sut maen nhw’n teimlo yn eich helpu chi i benderfynu beth yw’r peth gorau i chi ei wneud.

Bydd gofyn am gymorth a chefnogaeth yn diogelu eich plant. Mae plant yn gallu gwella o effeithiau trais domestig, cyn belled â’u bod nhw’n gwybod eu bod nhw’n ddiogel ac nad oes ofn arnyn nhw mwyach.

Cymorth a ddarperir gan yr NSPCC

Mae’r NSPCC yn cynnig gwasanaeth ‘Domestic Abuse, Recovering Together’ (DART) hefyd, lle gall plant a’u mamau siarad â’i gilydd am gam-drin domestig a dysgu i gyfathrebu ac ailadeiladu eu perthynas. I weld a yw DART yn cael ei gynnig yn eich ardal chi, ewch i wefan yr NSPCC.

Os ydych chi’n poeni am blentyn, ffoniwch Linell Gymorth yr NSPCC ar 0808 800 5000.

Y gefnogaeth sydd ar gael i blant

Mae ChildLine yn darparu cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc. Mae’n wasanaeth preifat a chyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 19 oed.

Gwefan ChildLine mae a’r Llinell Gymorth ar gael bob amser i gynnig gwybodaeth a chymorth gyda materion megis cam-drin domestig a cham-drin rhywiol.

Ystyr trais domestig yw pan fo oedolyn yn bygwth, yn bwlio neu’n gwneud niwed i oedolyn arall yn y teulu. Weithiau, fe’i gelwir yn gam-drin domestig. Mae’n gallu digwydd rhwng rhieni, parau priod a chariadon, mewn perthynas hoyw neu lesbiaidd neu ar ôl i bâr wahanu. Mae trais domestig yn gallu digwydd i unrhyw un.

Sut mae trais domestig yn effeithio arnoch chi?

Hyd yn oed os nad chi sy’n wynebu’r trais domestig, dyw hynny ddim yn golygu na allwch chi gael eich brifo hefyd. Os ydych chi yn yr un ystafell neu’r ystafell drws nesaf pan fo’r trais yn digwydd, gall beri gofid mawr i chi. Ni ddylech chi orfod gweld na chlywed trais domestig rhwng oedolion sy’n gofalu amdanoch chi.

Efallai eich bod chi wedi cael eich brifo neu eich bwlio fel rhan o’r trais domestig a’ch bod yn poeni am eich diogelwch eich hun. Gall siarad am sut rydych chi’n teimlo eich helpu chi i ymdopi. Mae ChildLine yma bob amser i bobl ifanc pryd bynnag y byddan nhw eisiau siarad.

Beth alla i ei wneud i atal y gamdriniaeth?

Y peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud yw cadw’ch hun yn ddiogel. Nid chi sydd ar fai am y trais domestig, ac nid chi sy’n gyfrifol am atal y trais neu’r gamdriniaeth. Peidiwch â cheisio ymyrryd i atal y trais neu’r gamdriniaeth – gallai hyn eich rhoi chi mewn perygl.

Y peth mwyaf defnyddiol y gallwch chi ei wneud yw siarad ag oedolyn am yr hyn sy’n digwydd. Os ydych chi’n poeni am eich diogelwch eich hun, mae’n bwysig i chi siarad â rhywun cyn gynted â phosibl. Mae ChildLine yn lle diogel i chi siarad am sut rydych chi’n teimlo a dechrau meddwl am gynlluniau diogelwch.

Os ydych chi’n teimlo bod hynny’n ddiogel, dywedwch wrth eich rhieni sut rydych chi’n teimlo am yr hyn sy’n digwydd gartref. Efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli eich bod chi’n gwybod beth sy’n digwydd neu pa mor frawychus yw’r sefyllfa i chi.

Gwefan ChildLine mae yn cynnwys yr holl wybodaeth hon a mwy. Gallwch chi fynd i’r wefan i gael cyngor ar beth yw cam-drin domestig, gwybodaeth am y gwahanol fathau o gamdriniaeth, lle i gael help a chamau i’w cymryd i’ch cadw chi’n ddiogel. Mae yna lawer o ddolenni i ffynonellau cymorth eraill hefyd.

Gall plant a phobl ifanc ffonio ChildLine unrhyw bryd ar 0800 1111 i siarad â chwnsler. Mae galwadau’n gyfrinachol ac am ddim. Gallwch chi hefyd anfon e-bost neu gael sgwrs un-i-un ar-lein.

Plant mewn cydberthnasau anniogel

Mae cam-drin domestig yn gallu digwydd mewn unrhyw berthynas, ac mae’n effeithio ar bobl ifanc hefyd.

Os ydych chi’n poeni am blentyn, neu os ydych chi’n gweithio gyda phlant ac angen cyngor neu wybodaeth, ffoniwch Linell Gymorth yr NSPCC ar 0808 800 5000.

Yn anffodus, mae camdriniaeth yn digwydd mewn perthynas rhwng pobl ifanc o dan 16 oed ac mae bechgyn a merched yn gallu dioddef cam-drin corfforol, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol gan eu partneriaid. Mae ymchwil yn dangos bod un o bob pump o bobl ifanc yn eu harddegau wedi cael eu cam-drin yn gorfforol gan eu cariad .

  • Mewn arolwg o bobl ifanc 13-17 oed yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, dywedodd 21% o bobl ifanc eu bod nhw wedi cael eu cam-drin yn gorfforol gan eu partneriaid.
  • Yn ôl arolwg gan yr NSPCC o bobl ifanc a ddefnyddiodd wefan Childline rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2013, roedd 40% o'r rhai a oedd wedi bod mewn perthynas wedi dioddef rhyw fath o gamdriniaeth yn y berthynas. Dywedodd 25% o’r rhai a oedd wedi dioddef camdriniaeth ei fod wedi digwydd ormod o weithiau i gofio.
  • Mae ymchwil sy’n canolbwyntio ar farn a phrofiadau plant o drafod rhyw, hunaniaeth rywiol a pherthynas bersonol wedi dangos nad yw aflonyddu rhywiol geiriol yn anghyffredin rhwng plant sy’n gariadon, ond ychydig iawn o’r plant hynny sy’n gallu siarad am y peth gyda rhiant neu athro.

Arwyddion o Berygl

Mae rhai o’r arwyddion mwyaf cyffredin o gamdriniaeth yn erbyn plant a phobl ifanc yn cynnwys:

  • arwyddion o anafiadau corfforol
  • colli ysgol
  • dirywiad mewn graddau/marciau ar gyfer gwaith ysgol
  • newidiadau mewn ymddygiad, tymer a phersonoliaeth, mynd i’w cragen
  • iselder
  • bwlio neu gael eu bwlio
  • pellhau oddi wrth deulu a ffrindiau
  • ymddygiad, iaith neu agweddau rhywiol amhriodol
  • hunan-niwed, anhwylderau bwyta, problemau cysgu
  • defnyddio cyffuriau ac alcohol (yn enwedig os nad ydyn nhw wedi eu defnyddio o’r blaen).

Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysol ac efallai y bydd plant a phobl ifanc yn ymateb yn wahanol i gamdriniaeth mewn perthynas, neu gallai’r dangosyddion hyn fod yn awgrym o faterion eraill sy’n eu hwynebu.

Adnoddau’r NSPCC ar gyfer Rhieni/Gweithwyr Proffesiynol

Mae ATL a’r NSPCC wedi datblygu canllawiau i helpu gweithwyr proffesiynol ac oedolion i helpu unigolyn ifanc sy’n dioddef camdriniaeth mewn perthynas i lunio cynllun diogelwch sy’n diwallu anghenion yr unigolyn ifanc. Trwy wefan ATL. Mae’r canllawiau hyn yn Saesneg yn unig.

Mae templed defnyddiol ar gyfer cynllun diogelwch ar gael ar wefan Childline. Mae’r ddogfen hon yn Saesneg yn unig.

Cyngor i Rieni a Gweithwyr Proffesiynol

Mae cam-drin domestig mewn perthynas yn gallu cael effeithiau niweidiol sylweddol ar iechyd a lles plant a phobl ifanc. Dyna pam mae’n bwysig gwybod beth i’w wneud os ydych chi’n poeni neu os bydd plentyn yn datgelu ei fod mewn perthynas beryglus. Trwy baratoi yn iawn a gwybod pa help sydd ar gael, gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn i ddiogelwch a lles plentyn.

Os ydych chi’n poeni am blentyn, neu os bydd plentyn yn datgelu ei fod yn dioddef camdriniaeth dreisgar yn ei berthynas, mae Llinell Gymorth yr NSPCC ar agor 24 awr y dydd ar 0808 800 5000 a bydd cwnselwyr hyfforddedig yn gallu ateb eich galwad a chynnig cyngor a chymorth.

Ffynonellau Cymorth Eraill

ChildLine – 0800 1111

Gwasanaeth preifat a chyfrinachol sydd ar gael 24 awr y dydd i blant a phobl ifanc hyd at 19 oed yw ChildLine. Mae gwefan ChildLine yn cynnwys cyfeiriadau hefyd at ffynonellau eraill o gymorth a gwybodaeth am gamdriniaeth mewn perthynas i bobl ifanc.