Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y bydd cynaliadwyedd wrth wraidd y cynllun strategol cyntaf erioed ar gyfer rheoli morol yng Nghymru a bydd yn helpu i sicrhau nad yw datblygiadau yn ein moroedd yn peryglu ein hadnoddau naturiol.
Gan siarad cyn lansio Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, dywedodd hi y bydd y cynllun sy'n torri tir newydd yn anelu i sicrhau bod ein moroedd 'yn doreithiog o fywyd' ac yn gallu darparu 'ynni glân, gwyrdd a diogel' i bobl ledled Cymru ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.
Bydd y cynllun yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd drwy ffynonellau ynni adnewyddadwy a helpu i ddiogelu a rheoli cyflenwadau pysgota pwysig a chynnyrch dyframaethu. Bydd hyn yn bwysicach nag erioed wrth i Gymru gynllunio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd rheoli asedau naturiol yn gwneud cyfraniad sylweddol i gyrraedd y targed uchelgeisiol o allyriadau sero net erbyn 2050, gan hefyd warchod ecosystemau morol a cheisio lleihau'r effaith ar yr amgylchedd wrth i'r moroedd brysuro.
Mae gan y Cynllun nifer o bolisïau sector wedi'u targedu at y defnydd allweddol o foroedd Cymru o bysgota i dwristiaeth a hamdden, porthladdoedd a morgludo, ceblau electronig o dan y môr a chasglu tywod i'w ddefnyddio ar gyfer adeiladu. Mae'r polisïau hyn yn anelu at sicrhau bod y morlin a'r ecosystemau toreithiog yn gweithio ochr yn ochr â datblygiadau, yn hytrach na chystadlu ar gyfer gofod morol.
Bydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn gweithio ar y cyd â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol arfaethedig, sy'n gynllun 20 mlynedd, gan sicrhau gwaith cynllunio strategol ar gyfer y tir a'r môr.
Mae'r Cynllun hefyd yn datblygu perthnasau agosach â gwledydd cyfagos i sicrhau cynaliadwyedd y moroedd o amgylch Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd trawsffiniol megis aber Afon Hafren ac aber Afon Dyfrdwy.
O heddiw ymlaen, bydd angen i benderfyniadau cynllunio a wneir gan awdurdodau lleol a chyrff perthnasol eraill sydd â'r potensial i effeithio ar Ardal Cynllun Morol Cymru ystyried Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Dyma ein cam cyntaf i sicrhau ein bod yn defnyddio ein moroedd i'w potensial gorau, heb gael effaith negyddol ar ein hamgylchedd morol ac arfordirol.
"Mae'n bwysig tanlinellu bod hwn yn gynllun gweithredol, byw, ac nid yw'n gynllun i'w roi ar silff i gasglu llwch a chael ei anghofio.
"Mae'r cynllun pellgyrhaeddol hwn wedi'i ddatblygu drwy gydweithredu estynedig â’r rhai sy'n gweithio yn y sector morol ac mae’n garreg filltir sylweddol yn ein huchelgeisiau ar gyfer rheoli ein moroedd mewn ffordd gynaliadwy.
Mae'r Cynllun hwn yn anfon neges glir ynglŷn â sut rydym yn cynllunio ar gyfer Cymru mwy llewyrchus a chydnerth lle y bydd ein moroedd yn doreithiog o fywyd, yn ogystal â rhoi ynni, glân, gwyrdd a diogel i ni a fydd yn cyfoethogi bywydau pobl Cymru."