Neidio i'r prif gynnwy

Yr ydym yn awr hanner ffordd drwy flwyddyn heriol arall. Y newyddion da yw bod ein diwydiant yn ymdopi â'r heriau di-baid a achosir gan "storm berffaith" Brexit, COVID a'r sefyllfa yn Wcráin. Er gwaethaf hyn, gwn mai goroesi yn unig y mae llawer o fusnesau ac rwy'n clywed adroddiadau'n gyson bod pethau'n anodd, ei bod yn her trosglwyddo costau cynyddol i gwsmeriaid, ac wrth gwrs mae gweithwyr yn parhau i fod yn brin. Yr wyf yn fwy na ymwybodol bod amodau presennol y farchnad yn anodd i'r diwydiant. Ac eto, er gwaethaf yr heriau hyn, yr wyf yn dal yn falch fy mod yn gweithio mewn diwydiant sydd unwaith eto wedi bod yn wydn iawn ac sy'n helpu i sicrhau parhad cyflenwad bwyd y DU.

Wrth edrych i’r dyfodol, credaf yn angerddol fod bwyd a diod o Gymru mewn sefyllfa berffaith i ffynnu pan fydd marchnadoedd yn ailsefydlogi, a phan fydd pethau'n gwella. Nid optimistiaeth ddall yw hyn ond yn hytrach hyder optimistaidd fod seiliau ein llwyddiant yn y dyfodol eisoes wedi’u gosod.

Beth ydw i'n ei olygu wrth hyn? I brofi’r pwynt hwn, hoffwn ganolbwyntio ar un cyfle – arloesi.

Credaf yn sicr fod arloesi yn hollbwysig o fewn sector bwyd a diod llwyddiannus a chadarn yng Nghymru. Nid oes ond rhaid ichi ystyried y ffaith bod 285 o gynhyrchion newydd wedi'u lansio yn Blas Cymru fis Hydref diwethaf i weld bod arloesi mewn cynnyrch eisoes ar waith yng Nghymru. Arloesi yw asgwrn cefn ein diwydiant oherwydd mae'n caniatáu i ni ymateb i newidiadau a thueddiadau marchnad sy'n newid yn barhaus. Mae'n caniatáu inni ychwanegu gwerth at ein cynnyrch sylfaenol yng Nghymru ac mae'n creu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth fedrus. Mae'n ein galluogi i ennill mantais gystadleuol ym marchnadoedd y DU a'r byd ac yn ein rhoi mewn sefyllfa i amddiffyn y marchnadoedd yr ydym yn eu gwerthfawrogi ar gyfer y dyfodol.

Yng Nghymru, mae gennym rai o'r canolfannau arloesi bwyd a diod gorau yn y Byd. O dan faner "Arloesi Bwyd Cymru", mae’r Ganolfan Bwyd Cymru yng Ngheredigion, y Ganolfan Technoleg Bwyd yng Ngrŵp Llandrillo Menai a Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, Caerdydd. Mae eu gwaith gyda busnesau bach a chanolig ar ddatblygu cynnyrch newydd a sicrhau achrediadau yn rhagorol.  Yn ogystal, mae gennym ganolfan newydd Aberinnovation a Bwyd y Dyfodol ger Aberystwyth yr ymwelais â hi ym mis Mehefin - mae ganddi'r gallu o'r radd flaenaf i fynd i'r afael â heriau deietegol ein poblogaeth a'r heriau cynaliadwyedd yn y gadwyn cyflenwi bwyd.   Bydd AMRC Cymru ym Mrychdyn yn cefnogi busnesau i fabwysiadu'r dechnoleg ddiweddaraf ym maes gweithgynhyrchu gan sicrhau gwelliannau cynhyrchiant a gwell busnes o ganlyniad. Cysylltwch â'r canolfannau hyn os oes gennych syniad arloesi neu os oes angen help arnoch.

Yn 2014, gosododd Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant bwyd nod o gyflawni trosiant o £7 biliwn erbyn 2020.  Llwyddwyd i gyflawni’r targed hwn ac aethpwyd gam ymhellach flwyddyn yn gynnar yn 2019.  Gyda'n gilydd, credaf y gallwn gyflawni ein targed newydd o drosiant o £8.5 biliwn erbyn 2025 er gwaethaf yr heriau masnachu rydym yn parhau i'w hwynebu. Credaf y bydd arloesi'n allweddol inni gyrraedd ein targed twf nesaf.

Pwysig yw sôn am ddigwyddiadau cymdeithasol! Ar ôl seibiant o ddwy flynedd, bydd Sioe Frenhinol Cymru yn dechrau ar 18 Gorffennaf. Bydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yr wyf yn Gadeirydd arno yn bresennol a byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chynifer ohonoch â phosibl. Mae'r Bwrdd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol gan gynnwys pobl, sgiliau, cynaliadwyedd, arloesi, technoleg a hoffem glywed eich barn ar y materion pwysig hyn. Rydym hefyd yn cynghori'r Gweinidog ar y Strategaeth Bwyd Cymunedol sy'n cael ei llunio i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.

Ac un darn da olaf o newyddion, efallai eich bod eisoes yn gwybod y bydd Gwobrau Bwyd a Ffermio'r BBC yn dod i Gymru am y tro cyntaf ym mis Hydref sy'n gydnabyddiaeth wirioneddol o'r rôl a'r dylanwad cynyddol y mae Bwyd a Diod Cymru yn ei chwarae ar fap bwyd y DU.

Diolch am yr hyn yr ydych i gyd yn parhau i'w wneud dros ein diwydiant hanfodol.

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru