Neidio i'r prif gynnwy

Cylch Gorchwyl Bwrdd yn cynghori Gweinidog yr Economi.

Mae’r Bwrdd Cynghori Gweinidogol (y Bwrdd) yn gorff cynghori sy’n atebol i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. 

Prif ddiben y Bwrdd yw darparu cyngor allanol amserol a pherthnasol o ansawdd da.  Mae’r cyngor hwn yn dylanwadu ar brosesau llunio polisi, sganio gorwelion a gwerthuso Llywodraeth Cymru.  Wrth wneud hynny, bydd y Bwrdd yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall y sefyllfa economaidd a busnes a'r ymatebion polisi sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau ac ymateb i gyfleoedd yn y dyfodol.

Wrth gynnig golwg a safbwynt sy’n seiliedig ar wybodaeth ac arbenigedd unigolion, bydd y Bwrdd yn ategu ac yn ychwanegu at werth y cyngor a ddarperir gan y gwasanaeth sifil, partneriaid cymdeithasol a chyrff buddiant a chynrychioliadol y tu allan i Lywodraeth Cymru.  

Bydd y Bwrdd yn helpu i gynyddu gwerth yr amser a'r ymdrech a roddir gan arbenigwyr allanol wrth roi cyngor drwy sicrhau bod y gwaith hwnnw'n cyd-fynd â gweledigaeth a blaenoriaethau'r Cynllun Gweithredu Economaidd a'r Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi. 

Bydd y Bwrdd yn canolbwyntio ei sylw a'i gyngor yn bennaf ar bolisïau, materion a blaenoriaethau ym mhortffolio'r Economi.  Fodd bynnag, o ran agenda gyfan y Llywodraeth a nodir yng Nghenhadaeth Cryfhau ac Ailadeiladu’r Economi, dylai'r Bwrdd hefyd ystyried goblygiadau ehangach gweithgarwch ar draws y llywodraeth o ran datblygu economaidd mewn meysydd portffolio eraill.

Bydd y Bwrdd yn cyflawni'r dyletswyddau canlynol:  

  • darparu cyngor rheolaidd a chreadigol o ansawdd uchel i Weinidog yr Economi i helpu i wella datblygiad economaidd Cymru. 
  • sganio’r gorwel i dynnu sylw at feysydd all ddod yn her ac yn gyfle yn y dyfodol, gan ddefnyddio arbenigedd unigol a chyfunol i godi ymwybyddiaeth am faterion sy'n haeddu sylw pellach a thrwy hynny helpu i lunio rhaglen waith y Bwrdd.  
  • ymateb i geisiadau gan y Ysgrifennydd y Cabinet ac uwch swyddogion am gyngor, i herio a phrofi polisïau allweddol gan gynnwys cyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu o fewn portffolio'r Economi.    
  • nodi’r arfer a’r dysgu gorau sy’n digwydd yng ngwledydd a rhanbarthau eraill y DU a thu hwnt, a dangos sut y gellid defnyddio enghreifftiau o'r fath i lywio syniadau yng Nghymru.  
  • cynnig materion penodol a fyddai'n elwa o fod yn destun adolygiadau byr, miniog gan grwpiau gorchwyl a gorffen pwrpasol neu arbenigedd ychwanegol y gallai fod angen i'r Bwrdd ei gyfethol o bryd i'w gilydd gan ddibynnu ar ei raglen waith.  

Bydd aelodaeth y Bwrdd yn adlewyrchu sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd unigolion yn hytrach na dyblygu’r buddiannau economaidd, busnes neu gymdeithasol a gynrychiolir eisoes ar fforymau eraill megis partneriaethau cymdeithasol a grwpiau buddiant a chyrff cynrychioliadol sy'n bodoli'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru.