Buddsoddiad o £75 miliwn i gael mwy o bobl i gerdded a beicio
Bydd cynlluniau teithio llesol a gyhoeddwyd heddiw yn derbyn hwb ariannol o fwy na £53 miliwn eleni fel rhan o ymdrechion pellach i annog teithio iach - gyda mwy nag £20 miliwn i ddilyn.
Mae'r gyllideb bwrpasol ar gyfer teithio llesol wedi codi o £5 miliwn ers dechrau'r tymor hwn gan Lywodraeth Cymru, y mae Lee Waters wedi'i ddisgrifio fel tystiolaeth o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni'r weledigaeth yn ei strategaeth drafnidiaeth newydd.
Cyhoeddwyd 'Llwybr Newydd' ac mae'n addo cynnydd beiddgar yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.
Bydd 44 o gynlluniau mwy a phecynnau o gynlluniau mewn awdurdodau lleol yn cael eu hariannu drwy gyfran gyntaf y Gronfa Teithio Llesol eleni, gwerth £47 miliwn. Yn y swm hwn mae hefyd 'dyraniad craidd' gwerth £14 miliwn a rennir ymhlith yr holl awdurdodau lleol.
Bydd £20 miliwn arall yn cael ei ddyrannu yn ddiweddarach yn y flwyddyn i gefnogi mwy o gynlluniau.
Yn ogystal, bydd disgyblion yn cael cymorth i gyrraedd yr ysgol drwy'r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau – sydd bellach yn werth £6.4 miliwn. Bydd hyn yn cefnogi 21 o gynlluniau ledled Cymru ac yn canolbwyntio ar greu llwybrau cerdded a beicio diogel o amgylch ysgolion.
Mae'r buddsoddiad mewn teithio llesol yn rhan o becyn ariannu gwerth mwy na £210 miliwn i gefnogi'r strategaeth drafnidiaeth newydd.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
"Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi gallu cynyddu y swm rydym yn ei wario ar deithio llesol yn sylweddol, ac mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i fwrw ymlaen â'r weledigaeth a amlinellwyd gennym yn ein strategaeth drafnidiaeth newydd.
"Cyn sefydlu'r Gronfa Teithio Llesol, bu'n rhaid i brosiectau teithio llesol nad oeddent yn canolbwyntio ar ysgolion gystadlu am gyllid grant trafnidiaeth leol cyffredinol, heb gyllideb benodol. Mae'r Gronfa Teithio Llesol wedi cynyddu ers 2018 o'i £10 miliwn cychwynnol i £70 miliwn ar gyfer 2021/22.
"Mae parhau â'n cyllid i greu llwybrau diogel i ysgolion yn arbennig o bwysig gan ein bod yn gwybod bod ymgorffori arferion teithio iach yn gynnar yn arwain at fanteision parhaol.
"Bydd ein buddsoddiad yn arwain at drefi a dinasoedd sydd wedi'u cysylltu'n well ac yn cyfrannu at ymdrechion i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd, gwella iechyd y cyhoedd a glanhau ansawdd yr aer.