Annog pobl i gefnu ar eu ceir a dechrau beicio yw nod buddsoddiad gwerth £50 miliwn a gafodd ei gyhoeddi heddiw gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Yn ystod ymweliad â’r elusen Pedal Power, a leolir yng Nghaerdydd, dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai’r cyllid yn ariannu llwybrau beicio newydd a chyfleusterau ledled Cymru.
Dywedodd Lee Waters, sydd hefyd â chyfrifoldeb am Drafnidiaeth:
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol ac yn rhan o’n hymrwymiad i wneud beicio’n haws, fel y gall pobl wneud llai o deithiau mewn ceir a theithio mewn ffordd sy’n well ar gyfer ein planed.
“Mae annog pobl i gerdded neu feicio ar gyfer teithiau byr yn hytrach na defnyddio eu ceir yn her fawr inni, ond mae’n rhywbeth mae’n rhaid inni fynd i’r afael ag ef er mwyn inni gyrraedd ein targed i fod yn garbon sero-net erbyn.
“Mae angen inni sicrhau bod gennyn ni’r seilwaith a’r llwybrau cywir ar waith fel y gall pobl ddewis beicio ar gyfer eu siwrneiau bob dydd – mae angen inni sicrhau bod gwneud y peth iawn yn hawdd.”
Un sefydliad sy’n manteisio ar y buddsoddiad hwn yw Pedal Power yn ne Cymru.
Fel rhan o gyfres o gynlluniau e-feiciau peilot gan Lywodraeth Cymru, derbyniodd yr elusen £0.21 miliwn ar gyfer ei phrosiect ‘See Cycling Differently’, sydd â’r nod o wneud beicio’n fwy cynhwysol drwy cynnig amrediad o e-feiciau.
Diolch i’r arian hwn, mae’r elusen wedi ehangu ei fflyd o e-feiciau ac mae’n annog pobl i wneud rhagor o feicio.
Dywedodd Cyfarwyddwr Pedal Power, Caerdydd, Siân Donovan:
“Mae beicio yn ffordd wych i bobl o bob oedran a gallu gael hwyl, bod yn fwy annibynnol a mwynhau ymdeimlad o ryddid – rhywbeth sydd wedi bod yn llinell fywyd ar gyfer llawer yn ystod y pandemig.
“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn ein helpu i barhau i gael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl rhag beicio, i sicrhau bod beicio’n gallu bod yn wirioneddol hygyrch ac yn gynhwysol i bawb.”
Fel rhan o’r buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw, bydd pob awdurdod lleol yn derbyn o leiaf £500,000, gyda dyraniadau ychwanegol wedi cael eu dyfarnu yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol.
Mae rhestr o awdurdodau a’r symiau a ddyfarnwyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.