Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddir mwy na £1.4 miliwn i adfywio adeiladau manwerthu a masnachol a denu busnesau i Fae Colwyn, gyda chefnogaeth buddsoddiad Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Defnyddir yr arian i greu cynllun buddsoddi mewn eiddo masnachol er mwyn ailddefnyddio llefydd masnachol gwag unwaith eto ac adfywio blaenau siopau presennol y dref. 

Cyhoeddodd y Gweinidog Tai ac Adfywio Rebecca Evans gwerth £870,000 o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cynllun. Dyrannwyd £700,000 o hwn fel rhan o raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI) Llywodraeth Cymru. Bydd £170,000 arall o gyllid gan y Benthyciadau Canol Trefi gan Lywodraeth Cymru ar gael i fusnesau drwy'r awdurdod lleol. Bydd gweddill yr arian ar gyfer y cynllun yn cael ei ddarparu gan yr awdurdod lleol a buddsoddiad preifat.

Meddai Rebecca Evans: 

“Wrth i ganol ein trefi newid, bydd y buddsoddiad hwn yn helpu busnesau ym Mae Colwyn i drwsio ac adnewyddu adeiladau fel bod y stryd fawr yn lle mwy deniadol. Yn bwysig, bydd hefyd yn targedu eiddo a mannau gwag y gellid eu trawsnewid yn siopau neu fusnesau ffyniannus newydd. 

“Mae galw go iawn am ofod manwerthu a masnachol o ansawdd da i helpu i ddenu busnesau i'r ardal ac i helpu busnesau lleol i dyfu a ffynnu. Credaf y bydd y buddsoddiad hwn yn adeiladu ar fuddsoddiad blaenorol gan Lywodraeth Cymru yn y dref ac y bydd yn sbardun i lwyddiant busnes ym Mae Colwyn.” 

Dywedodd y Cynghorydd Louise Emery, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Rwyf wrth fy modd bod Bae Colwyn wedi derbyn yr arian hwn. Mae'n gyfle gwych i'r dref barhau i elwa ar fuddsoddiad yn ei adfywio.” 

Mae Cronfa Benthyciadau Canol Trefi £20 miliwn Llywodraeth Cymru yn helpu i ailddefnyddio safleoedd segur yng nghanol ein trefi. Mae'r gronfa'n sicrhau bod safleoedd gwag a diffaith yng nghanol trefi yn cael eu defnyddio unwaith eto ac yn cefnogi gweithgareddau sy’n hwb i’r niferoedd sy’n ymweld â’r stryd fawr. Ar ôl ad-dalu’r benthyciadau, defnyddir yr arian eto i ariannu benthyciadau newydd.